Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

aberteifi

aberteifi

Derbyniodd athrawon sir Aberteifi y 'gwrthod' fel sialens bersonol.

Felly, treuliais weddill y dydd a hanner y nos mewn cell yn nhwlc Aberteifi.

Mynd lawr i Aberteifi wrthyf fy hun ar y 'coach' o Lanarth.

Ar un olwg gwelaf HANES yr ardal drwy ffenestri fy ystafell a thrwy ffenestri'r meddwl, a dod i'r farn nad oes angen croniclo hanes plwyf di-nod yng nghanol sir Aberteifi gan fod y cyfan o flaen fy llygaid.

Ein holi ynghylch y swae fod ffrind i Ferched Beca yn gwitho yng nghegin neu erddi y Plas yntefe, ac yn diangyd yn y twllwch i rybuddio plant Beca o'r cynllwynion i'w dal rhwng Y Priordy yn Aberteifi a'r Plas.

I gymharu â siroedd Penfro ac Aberteifi, ym Morgannwg roedd llawer o'r plant yn llai na phum mlwydd oed, a'r plant dros ddeg yn llawer prinnach, am fod cyfle ganddynt i fynd i weithio yn y gweithfeydd, a dyna a wnaeth i Lingen gefnogi nid yn unig ddeddfwriaeth yn erbyn gadael i blant bach weithio, ond hefyd i roi pwys ar ganolbwyntio ymdrechion i gael ysgolion babanod yn yr ardaloedd diwydiannol.

Yn y gynhadledd hon y penderfynwyd cyhoeddi - diolch i'r Weinyddiaeth - Atlas Ceredigion, Detholiad o Bant a Bryn, Cerddi Gwlad ac Ysgol, Stori%au o Chwedlau Sir Aberteifi a Cen Ceredigion.

Maes ail ran yr Adroddiadau yw siroedd Brycheiniog, Aberteifi, Maesyfed a Mynwy.

Bu pobl yn byw yma ers yn fore iawn, ac y mae olion o Oes yr Haearn, bedwar can mlynedd cyn Crist, yn profi iddynt dderbyn eu cynhaliaeth o'r tir a'u hamddiffynfa yn yr hen gaerau a godwyd ar hyd a lled sir Aberteifi, a rhyw chwech ohonynt ar lannau Wyre o Ledrod i Lanrhystud ac un o fewn i'r plwyf, sef Caer Argoed.

A theulu Thomas Edward Lloyd, Coedmor, a theulu Cilbronne "Mae Lady Coedmor yn fenyw fawr er pan enillodd ei gŵr sedd Shir Aberteifi yn ôl i'r Tori%aid ddwy flynedd yn ôl a pheri'r fath syndod i bawb trwy fwrw E. M. Richards ma's!"

Digwyddodd hyn bron ar ddiwedd y gwyliau ac er bod y fam a'r tad yn sylweddoli y dylent roi cyfrif am yr achlysur ar unwaith i'r awdurdodau yn y Cei, eto sylweddolsant y byddai yn rhaid iddynt aros yn hwy yn Sir Aberteifi nag y trefnasent, felly, dyma benderfynu mynd â chorff y famgu adref gyda nhw a chymryd arnynt ei bod wedi marw gartref gan hysbysu'u meddyg teulu o'r ffaith bod marwolaeth wedi digwydd a gofyn iddo ef ddelio â'r mater ar ôl cyrraedd gartref.

Yr hyn yr wyf fi'n ei gofio orau yw fod Dafi'r Foel wedi mynd lawr bob cam i Aberteifi i weiddi dros Richards ond cafodd ergyd galed ar steps y Neuadd, a phrysurodd hynny ei ymadawiad o'r ardal.

Deallwyd oddi wrth y llythyr hefyd fod gan yr Awdurdod Addysg hawl i gynhyrchu a chyhoeddi llyfrau ar destunau lleol, sef testunau cyfyngedig i sir Aberteifi ac o ddefnydd i'r ysgolion.

Fel Theophilus ei hun y mae gwreiddiau'r Athro Jenkins yn sir Aberteifi, ond Brycheiniog oedd y winllan y bu Theophilus yn llafurio ynddi am ran helaeth o'i oes ac yn Llangamarch y mae wedi ei gladdu, a hynny heb fod nepell o faes y Brifwyl eleni.

Hwy a dderbyniodd sialens y Weinyddiaeth, y byddai'n rhaid i'r llyfrau hyn fod â'u hapêl yn gyfyngedig i sir Aberteifi.

Braidd yn anarferol ar achlysuron fel hyn, trefnwyd oedfa fore ar y dydd Mercher gyda D. J. Roberts (Aberteifi ar ôl hynny) yn cymryd y rhannau arweiniol ac Irfon Gwyn Jones, brawd y darpar-weinidog, yn traddodi'r Siars i'r Eglwys.

'Gwell i tithe fynd ffor 'ny c'lo!" Wrth sgrifennu hanes siwrne hir a gwag fel hyn, mae'n rhaid i mi gael dweud i mi fwynhau'r dydd yn Aberteifi.

Roedd teulu o Birmingham wedi bod ar wyliau yn y Cei Newydd yn Sir Aberteifi, ac wrth gwrs, roeddent wedi gyrru ar draws Sir Drefaldwyn er mwyn cyrraedd Sir Aberteifi, a'r cyfan ar diriogaeth Heddlu Dyfed-Powys.

Sylwodd yn achos siroedd Brycheiniog, Maesyfed ac Aberteifi, ....

Dyna air Sir Aberteifi am snack.

Erbyn heddiw tueddwn i feddwl am gŵn fel anifeiliaid anwes ond ar ffermydd a thyddynnod Sir Benfro a Sir Aberteifi y magwyd y ddau fath o gorgi yn arbennig ar gyfer gyrru gwartheg ac er mwyn hela y crewyd cŵn megis Daeargi Sealyham, y Daeargi Cymreig (a fu mor llwyddiannus yn Sioe Cruft eleni) a'r Tarfgi Cymreig (Welsh Springer Spaniel).

Prynais yno hefyd rai o lyfrau Mordaf Pierce a gwr llengar eraill o sir Aberteifi; cefais yno gannoedd o lyfrau yn ymwneud â sir Feirionydd o gasgliad Edward Griffith y llyfrbryf, Dolgellau, ac yno, yn ddiweddar, deuthum ar draws set gyflawn o gopi%au o'r "Undebwr" papur Tori%aidd a gyhoeddid yn sir Aberteifi adeg helynt Iwerddon.

Ar ôl hir grafu pen ac ymchwilio, yr unig beth y gallem feddwl amdano oedd y drosedd o geisio camarwain a rhwystro Crwner Sir Aberteifi yn ei ddyletswydd.

Gormod fyddai hawlio i bob un o awduron plant sir Aberteifi ddechrau ar ei waith oherwydd ysbrydiaeth Plas y Cilgwyn.

"Ma' Dai ni wedi cysgu mas yn amlach na'r un blydi buwch yn Sir Aberteifi."

Frwyth yr ymdrechion hyn maes o law oedd agor swyddfeydd yn Llanbedr ac Aberteifi.

Agor Llwybr Arfordir Penfro yn rhedeg 185 milltir o Lanrhath i Aberteifi.

Daeth Sir Aberteifi, yn arbennig yr ardaloedd o amgylch Tregaron, yn enwog am fagu ceffylau o bob math, a manteisiodd y ffermwyr ar y cyfle i'w gwerthu yn y gwahanol ffeiriau, fel Ffair Garon a Ffair Dalis Llanbed.

Methwyd cynnal yr Eisteddfod yng Nghaerfyrddin oherwydd y Rhyfel, ac fe'i cynhaliwyd yn Aberteifi.

Derw bob amser oedd defnydd bwl cert yng nghanolbarth Aberteifi.

Ac y mae gennyf gof sicr am gangers lein-gangen Aberteifi yn cerdded ar hyd y lein â morthwyl hirgoes yn eu llaw i yrru'r allweddau disberod yn eu holau.

Mae tua deugain ohonynt wedi eu cyhoeddi bellach, ac ar fy ngwir, ni wn sut y byddai plant Cymru, yn enwedig plant sir Aberteifi, wedi parhau yn eu harchwaeth tuag at ddarllen Cymraeg oni bai am wasanaeth yr un dyn mawr hwn.