Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

aberth

aberth

Gellid cyflawni'r aberth ar adegau trwy offrymu arain, arogldarth neu weddi (Ex.

Darlun cyfansawdd sydd yma gyda Christ yn cael ei bortreu fel yr Aberth a'r Archoffeiriad.

Gall peilot gadw'i lwc drwy wagio'i bocedi ar y ddaear ar ôl glanio fel pe bai'n ail-gyflwyno aberth o ddiolch am gael siwrnai ddiogel.

Y mae ei genadwri, ei weinidogaeth, ei aberth a'i atgyfodiad yn cyffwrdd â holl drigolion y blaned.

Nid pledio achos rhyw aberth arwrol ydw i ond pledio achos glynnu at egwyddor.

'Roedd elfennau dyhuddol a phuredigol yn yr aberth hwn, gyda Christ yn ei uniaethu ei hun â dyn er mwyn wynebu'r digofaint dwyfol yn ogystal â symud pechodau dynol (Gal.

Os nad oedd modd talu'r iawn mewn arian, gellid cyfnewid nwyddau am y caethion neu gyflawni aberth anifail er mwyn eu rhyddhau (Num.

Deued pob un â'i aberth; ac os cawn ni Ysbryd Duw gyda ni i wneud y gwaith, a bod yn un gyda'n gilydd, ni gawn rywbeth mwy na'r can mil - yr Ysbryd hwnnw i ddefnyddio y can mil i weithio.

O flaen porth yr eglwys ac ar gongl yr hen fynwent y codwyd cofgolofn y milwyr, a chofir yr aberth drud hwnnw o hyd mewn cyfarfodydd crefyddol ar Sul y Cadoediad.

Ni all dim newid hynny ond penderfyniad, ewyllys, brwydro, aberth, ymdrech.

Y Cyflawniad Ysgrythurol: Byddai'r dehongliad o farw Crist fel aberth dros bechod yn annealladwy onibai am aferion a disgwyliadau Israel yn yr Hen Destament.

Ond y trueni yw bod aberth yr ychydyg yn cael ei ddirymu gan ddifaterwch y lliaws.

Yn union fel y bu i'r Archoffeiriad Iddewig, ar W^yl y Cymod, daenu gwaed ar glawr neu 'drugareddfa' Arch y Cyfamod a gedwid yng nghysegr sancteiddiolaf y deml, aeth Iesu yntau y tu hwnt i'r llen wedi taenu ei waed ei hun yn aberth dros ei bobl (Heb.

Archwiliodd yr erthyglau yn fanwl fel pe baent yn ddogfennau cyfreithiol, a phrofodd i'w fodlonrwydd ei hun nad oeddent yn condemnio na'r Purdan nac Aberth yr Offeren, eithr yn unig camddefnydd ohonynt gan Eglwys Rufain.

Dengys ystadegau hefyd hyd a lled aberth rhai o aelodau'r Gymdeithas dos y trideg blynedd er 1962.

Er gwaethaf y gwahaniaeth pwyslais rhwng traddodiad y Dwyrain Uniongred, â'i sôn mynych am lygredigaeth a marwolaeth, â'r Gorllewin Catholig â'i sôn yntau am bechod ac euogrwydd, 'roedd yr eglwys gynnar yn un yn ei dealltwriaeth o weinidogaeth Crist fel aberth drud a offrymwyd i Dduw er mwyn cyflawni iachawdwriaeth dyn.

Yr oedd elfen o aberth personol yn y sefyllfa mae'n wir.

Darpariaeth gan Dduw ei hun oedd yr aberth er mwyn symud, 'gorchuddio' neu 'sychu ymaith', pechod (Lef.

Ond rhagdybir y cysylltiad rhwng aberth, gwaed a maddeuant trwy gydol yr Hen Destament.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Canodd Cynan am y Tad Damien a fu'n gofalu am y gwahangleifion ar Ynys Molókai ym Moroedd y De, ond yn guddiedig-gyfrwys mae'n sôn am y Rhyfel Mawr ar yr un pryd, ac wrth fyfyrio ar aberth eithaf y Tad Damien yn myfyrio ar aberth y milwyr yn y Rhyfel Mawr yn ogystal.

Ac eto, un cyfrwys ar y naw ydi'r temtiwr, un a fedr siarad â llais cymhellgar trwy ddangos pa mor foesol ydi'r aberth.

Mewn ffordd unigryw dangosodd barodrwydd Yr Ymofynnydd ei hun i gyflawni gweithred o aberth, er mwyn parhau i fyw.

Ym marn Zola doedd yr aberth ddim yn werth chweil!

b Tarddu o'r ferf 'gorchuddio' neu 'sychu ymaith' a wna kpr (a'r ffurfiau yn deillio ohono: kippêr, kophêr, kaphâr etc.) a chyfeiriai at ddefod aberthu er mwyn symud ymaith bechod: 'Offryma bob dydd fustach yn aberth dros bechod, i wneud cymod' (Ex.

Nid rhyfedd felly iddo ddod i gael ei ddefnyddio am waith aberth Crist yn prynu dyn a'i gymodi â Duw.

Yng Ngolwg Duw, cawn ein hystyried yn seintiau drwy aberth rhywun arall.

Mae'n cofio am aberth y merched a fu'n gefn i holl ymdrechion eu g^wyr a'u meibion, y merched a fu'n dioddef y cyni yn dawel.

Yr un syniad a arweiniodd y meddwl Cristionogol ymhen amser i ddehongli iawn yng Nghrist mewn termau aberthol, ond gan ei drawsnewid yn syniad am iawn lle y talai Duw ei hun bris yr aberth.

Rhaid i chi beidio ag aberthu yr un darn - hyd yn oed un gwerinwr bach - yn yr agoriad heb fod gennych sicrwydd y byddai 'aberth' felly yn rhoi mantais glir i chi.

Sut bynnag y disgrifir ffrwythau'r iawn, boed fel iachawdwriaeth, gwaredigaeth, prynedigaeth, cyfiawnhad neu gymod, fe'i seilir ar aberth Crist, Mab Duw, dros bechod dyn.

Mewn un ddefod, disgwylir aberth sylweddol iawn gan rai o'r dynion - aberth fwy, hyd yn oed, na'r un a geir gan eunuch.

ac am aberth fawr Hywyn er mwyn achub ei ffrind.

Mewn athrawiaeth Gristionogol felly gall y gair "iawn" olygu natur yr aberth a wnaed gan Grist, neu'r broses gyfan ym mwriad Duw ar gyfer achub dyn.

Ac onid dyna bwrpas aberth ein tadau dros addysg sicrhau mai'r unig lyfnu a wna'r plant fydd llyfnu penolau eu trowsusau mewn parchusrwydd?

Yn union fel ni ddylid ysgaru'r ymgnawdoliad oddi wrth yr iawn, na ddylid ychwaith hollti'n ormodol rhwng bywyd Crist, ei aberth, ei atgyfodiad a thywalltiad yr Ysbryd Glân.

Cyflawnwyd motifau prynedigol yr Hen Destament yn ufudd-dod ac aberth terfynol Crist er iachawdwriaeth dyn.

ch) y traddodiad offeiriadol aberthol yn dod i'w uchafbwynt a'i gyflawniad yng ngwaith Duw yn aberthu'r aberth eithaf ar ran dyn.

Duw ei hun sy'n darparu'r aberth ac ef hefyd sy'n ei gymeradwyo a'i dderbyn.

Y mae'r syniad am aberth yn rhagdybio y gall dyn gael cymundeb perffaith â Duw yn unig drwy aberthu bywyd.

Mae'n anodd i wleidyddion, mae'n anodd i academyddion, ond mae'n anos i lenorion gan y gall dewis sgrifennu yn yr iaith sydd agosaf at eich calon olygu aberth mawr, aberth ariannol wrth gwrs, ond aberth llawer dyfnach ei arwyddocad hefyd.