Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

aberthu

aberthu

Mi weles hefyd aberthu geifr dirifedi mewn puja i'r dduwies kali yn Shillong, a'r gwaed yn tasgu'n goch ar gnawd a dillad defosiynol gwþr a gwragedd a phlant ac aml-freichiau nadreddog y duwies ei hun.

Ac er y trawsnewid hwn ar yr ystyr, mai Duw ac nid y troseddwr sy'n aberthu, eto defnyddir yr hen dermau, offrwm, dyhuddiad, iawn, cymod, yn ogystal â thermau mwy penodol megis "dydd y cymod" neu'r "Pasg", a'r rhain oll â rhyw gyfoeth o ystyr ynddynt i bob Israeliad.

Mi weles i aberthu un o'r ceiliogod hynny mewn cae y tu ôl i dyddyn rhwng Cherra a mawphlang a chlywed disgrifiad o siâp yr wythnosau i ddod.

Wrth geisio byw yn ol diffiniad corfforol annibyniaeth roedd Zola wedi aberthu ei annibyniaeth cymdeithasol a seicolegol.

Ac os cewch chi gyfle i ennill Castell trwy aberthu Esgob neu Farchog - manteisiwch ar y cyfle bob amser, gan fod gwneud hynny'n gam pwysig tuag at ennill y gêm.

b Tarddu o'r ferf 'gorchuddio' neu 'sychu ymaith' a wna kpr (a'r ffurfiau yn deillio ohono: kippêr, kophêr, kaphâr etc.) a chyfeiriai at ddefod aberthu er mwyn symud ymaith bechod: 'Offryma bob dydd fustach yn aberth dros bechod, i wneud cymod' (Ex.

Ar yr un pryd, drwy ddarlledu lluniau o sachau bwyd a oedd yn amlwg wedi'u dwyn ac ar werth ar stondinau'r farchnad a thrwy adrodd straeon am famau'n `aberthu' eu babanod, doeddwn i ddim yn bwriadu darbwyllo'r Cymry i beidio â rhoi.

Yn aml iawn fe fydd y prentis 'ymosodol' yn ei gael ei hun mewn sefyllfa lle mae wedi aberthu gormod, a'i fyddin bellach yn rhy wan i wrthsefyll gwrth-ymosodiad y gelyn pan ddaw.

Mae rhai pobl yn beirniadu'r rhieni hyn yn llym, heb sylweddoli baich y cariad y bu'n rhaid iddyn nhw ei aberthu, rhag i'w plant farw o newyn.

Rhaid i chi beidio ag aberthu yr un darn - hyd yn oed un gwerinwr bach - yn yr agoriad heb fod gennych sicrwydd y byddai 'aberth' felly yn rhoi mantais glir i chi.

Gwþr caredig oedd gwþr Sir Gaerfyrddin; gwþr cymwynasgar, tylwythgar, teulugar, cymdogion da, boneddigion y tir; gwragedd diwyd, doeth a ffrwythlon; pobl heb ddail ar eu tafod, yn lletygar i grwydriaid, yn talu dyledioon, yn rhoi arian ar fenthyg heb wystl ond ymddiriedaeth, yn cynorthwyo'i gilydd; y bobl a fu'n dioddef gorthrwm a thrais y meistri tir a'r stiwardiaid, yn ymladdd yn erbyn anghyfiawnder, yn aberthu pob dim er mwyn egwyddor ac yn dal at eu hargyhoeddiadau hyd y carchar a'r bedd.

Fe fydd y chwaraewr anghyfarwydd yn aml - yn ceisio ymosod ar Frenin ei wrthwynebydd o'r cychwyn cyntaf ac yn barod i aberthu darnau bach a mawr i gyrraedd ei amcan.

ch) y traddodiad offeiriadol aberthol yn dod i'w uchafbwynt a'i gyflawniad yng ngwaith Duw yn aberthu'r aberth eithaf ar ran dyn.

roedd yn rhaid brwydro ac aberthu dros bob un consesiwn.

Er mwyn sicrhau fod lwc yn eu dilyn, bydd llawer tîm yn cael plentyn bach i fod yn fascot iddynt - adlewyrchiad hwyrach o'r adeg honno pan oedd aberthu plant i blesio'r pwerau tywyll yn beth cyffredin.

Y mae'r syniad am aberth yn rhagdybio y gall dyn gael cymundeb perffaith â Duw yn unig drwy aberthu bywyd.

Pa mor amrwd bynnag yw'r syniad am aberthu anifeiliaid, y mae o leiaf yn dangos ffordd a ordeiniwyd gan Dduw i gymodi pechaduriaid ag ef ei hun, ffordd na fynnai ond gweithred seml ar ran y dyn ei hun.

A chostiodd y gwaith hwnnw'n ddrud iddo, dim byd llai nag aberthu ei fywyd ar y groes.