Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

abl

abl

Plentyn ei gyfnod oedd, ac mewn rhyw ystyr yr oedd yn ffodus yn ei genhedlaeth, gan dyfu'n fachgen cryf ac abl o ran corff a meddwl.

Cynlluniwyd peiriannau gan ddyn yn awr sydd yn abl i gyflawni gwaith y tybid gynt fod yn rhaid wrth ddynion i'w gyflawni.

Gŵr abl, meistr ar ei broffesiwn, a'i hiwmor tawel yn brigo i'r wyneb bob hyn a hyn.

Hyd yn oed o bell awgrymai coethder a lliw harnais y camelod fod y bobl ddieithr hyn yn abl i dalu, argraff a gadarnheid gan feinder y defnydd gwlân a wisgai eu cennad.

Yn wir, yr wyf yn amau y medrech gael unrhyw un i actio mor naturiol a doniol a'r wraig honno a gwynai fod ei gwrcath clwyfus yn anghofio ei fod yn hen, ac nad oedd mwyach yn abl i gwffio am y fraint o gael bod yn dad!

Bydd disgyblion yn ysgrifennu mewn amrywiaeth o ffurfiau ac at wahanol ddibenion a chynulleidfaoedd; byddant yn fwyfwy abl i drefnu eu deunydd, i ysgrifennu'n gywir, i reoli sillafu a llawysgrifen; amlygant afael briodol ar Gymraeg a Saesneg safonol a gallant adnabod a defnyddio amrediad cynyddol o arddulliau a chyweiriau iaith; byddant yn adolygu ac yn ailddrafftio'u hysgrifennu gan ei gyflwyno'n briodol.

Yn wahanol i gwningod, genir yr epil yn llawn blew a'u llygaid yn agored ac ymhen awr neu ddwy ar ôl eu geni y maent yn abl i symud o gwmpas.

Bu rhai dylanwadau gwleidyddol ac etholiadol yn abl i rannu'r etholwyr yn eglwyswyr a chapelwyr ar dir hollol wahanol i enwadaeth.

Profodd John Ogwen a Maureen Rhys yn ddehonglwyr abl iawn o'r Tŵr - y nhw piau hi erbyn hyn ac mi fesurir pob cynhyrchiad arall wrth un llwyfan Caerdydd a'r cynhyrchiad teledu.

Gellir edrych ar ddefnydd o gynorthwyon o'r fath un ai fel colli annibyniaeth a symudiad o'r byd abl i amgylchedd anabl, neu fel symudiad o ieuenctid i henoed efo'i holl ddelweddau negyddol.

Bu rhaid i Sarah Owen ymorol am waith i'w dau fab cyn gynted ag yr oeddynt yn abl i'w gymryd.

Ond er cydnabod anorfodrwydd goddrychedd beirniadaeth, mae rhai nodweddion sydd heb fod, hwyrach, yn wrthrychol mewn ystyr wyddonol, ond sydd eto mor gyson gyffredin i weithiau sydd wedi eu profi eu hunain yn abl i oroesi pob barn a chwaeth a mympwy, nes mynnu eu lle fel anhepgorion.