Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

abraham

abraham

Pan gyrhaeddodd yr Unol Daleithiau ar ddechrau'r Rhyfel Cartref, fe ddywedodd Abraham Lincoln wrtho na wyddai am ddim mwy pwerus na The Times, `heblaw efallai y Mississippi' ac, wrth gyrraedd India i roi sylw i'r Miwtini Mawr, fe drawodd fargen gyda phennaeth y fyddin i gael yr holl wybodaeth a oedd ar gael, ar yr amod na fyddai'n trafod hynny yn unman ond ei lythyrau i'r papur newydd.

Ddeufis ynghynt roedd yr Arlywydd Abraham Lincoln, wedi cael ei saethu'n farw tra'n gwylio drama mewn theatr ac, ychydig ddyddiau ar ôl hynny, fe ddaeth diwedd ar y Rhyfel Cartref a oedd wedi rhwygo'r wlad am bedair blynedd, gan arwain at farwolaeth tua hanner miliwn o bobl.

phan welsant ar etholiad y `Rail-splitter o Illinois' [Abraham Lincoln], ys gwelid ef, fod tebygolrwydd y buasent hwy bellach yn colli llyw y peiriant o'u dwylo, gadawsant Washington mewn dicter a soriant - wedi moni: symudasant gyda'i gilydd i ganolbarth gwlad y cotwm; yna sefydlasant ym Montgomery, prifddinas y dalaith hon, a gosodasant i fyny lywodraeth fawr o'r eiddynt eu hunain, ac etholasant cotton planter o dalaith Mississippi yn ben arnynt - `yn engineer in chief' - i redeg y peiriant.

Pwysleisir yn nes ymlaen fel yr oedd Duw trwy droeon pwysig hanes yr Israeliaid yn cyflawni'r addewid hon i Abraham.

Dyheai am weld ei bobl yn wir blant i Abraham, tad y genedl a oedd i fod yn fendith i'r ddaear.

O ddyddiau Abraham, trwy'r caethiwed yn yr Aifft a'r Ecsodus oddi yno, yr hyn a gawn yw pobl yn tyfu ac yn datblygu nes dod yn genedl.

Geiriau arwyddocaol dros ben yn y cyswllt hwn yw galwad Duw i Abraham pan drodd ei gefn ar ei deulu yn Haran:

Y diddordebau hyn a ddaeth ag ef i gysylltiad ag Abraham Ortelius, yr hanesydd a'r cartograffydd enwog o Antwerpen.

Ond os oedd 'gwedd ei ymddangosiad yn brawychu'r gwan eu ffydd', yn ôl Nantlais eto, 'roedd 'ei lais fel diliau cariad a'i wên oedd fel bore ddydd.' Siaradodd yr Iesu wrthynt ar unwaith, ac o gymryd y geiriau gan Marc, Mathew ac Ioan gyda'i gilydd, yr oedd balm i'w harswyd ynddynt: 'Codwch eich calon Myfi yw; peidiwch ag ofni.' Fel y gŵyr y cyfarwydd, yr oedd rhinwedd rhyfeddol yn y geiriau Myfi yw ar enau Iesu Grist, yn enwedig yn yr Efengyl yn ôl Ioan: 'Myfi yw [y Meseial] sef yr un sy'n siarad â thi 'Pan fyddwch wedi dyrchafu Mab y Dyn byddwch yn gwybod mai myfi yw'; 'Yn wir, yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, cyn geni Abraham,yr wyf fi'; 'Pwy yr ydych yn ei geisio?' 'Iesu o Nasareth,' meddent hwythau.

Yn ei bregeth 'Planu Coed', y dewiswyd ei theitl ar gyfer ei gasgliad o bregethau, pwysleisir i Abraham weithredu mewn ffydd a gobaith drwy blannu coed: 'Abraham, yn ei hen ddyddiau, yn planu coed, ac yntau yn ddim ond pererin yn y tir.....

Yr oedd yn naturiol i Dr Abraham Rees fod â diddordeb yn John Penri.

Abraham yn ei hen ddyddiau, yn planu coed, nid blodau....., Abraham yn planu coed, ac yn eu gadael i ofal Duw.' Dyna bennau'r pregeth: pregeth haws ei llunio yn awyrgylch nawdegau'r ganrif ddiwethaf nag yn nawdegau'r ganrif hon.