Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

acenion

acenion

Ac nid yn unig hynny, ond rhaid ymarfer y plant i siarad Saesneg safonol - dim rhagor o acenion sir Gaerhirfryn a Chocni.

Darlledwyd y rhaglen Gymraeg gyntaf ym mis Tachwedd, ond amharod oedd y BBC i ddefnyddio unrhyw iaith arall ac eithrio Saesneg, a hwnnw'n Saesneg ag acenion dosbarth canol Llundain.

Petai actorion eraill Cymru gyda'i gallu hi i fabwysiadu acenion fyddai dim rhaid cael cymaint o gogs mewn un pentre bach yn y de.

Ond pa tip-girl, mewn difrif, a fyddai'n debygol o ddweud wrth ŵr ifanc nwydus a oedd yn sibrwd 'acenion cariad' yn ei chlust: 'A ydych yn ddirwestwr?' Oni fyddai puteiniaid cyhyrog ac ystrywgar ardal Chinatown - merched fel 'Snuffy Nell' Sullivan, 'Big Jane' Thomas a 'Saucy Stack' Edwards - wedi chwerthin yn aflywodraethus petaent wedi darllen disgrifiadau Ieuan Gwynedd o'r Gymraes nodweddiadol: 'y forwyn wridgoch sydd yn adsain y fuches hwyr a boreu â melusder ei chân .