Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adain

adain

Sylweddolodd Lingen fod tebygrwydd mawr rhwng yr ysgolion o dan adain y gweithiau diwydiannol newydd a'r hen ysgolion plwyf, gan fod y gweithiau, fel y sylwodd mewn cymhariaeth drawiadol, wedi cymryd lle'r hen faenor gynt.

CYNIGION: Yn ogystal â dilyn canllawiau adrannol ynglŷn â defnyddio ynni ac adnoddau a rheoli gwastraff, gallai'r Adain ddilyn nifer o faterion.

Llunio adroddiad blynyddol ar gyfer yr Adain, yn amlinellu'r gwariant, yn refeniw ac yn gyfalaf, ar gyfer gwahanol weithgareddau'r Adain.

Agwedd Ragweithiol: Cymera'r Adain hon agwedd ragweithiol tuag at ddarparu rhwydwaith cludiant cyhoeddus yng Ngwynedd sy'n integreiddiedig ac yn gynhwysfawr.

Fe alwodd ar y Bwrdd hefyd i sefydlu: * Adain weithredu frys i ymateb yn gyflym i unrhyw gwynion.

Ceir cryn bosibiliadau ar gyfer datblygu cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau unigol, megis ystlumod a gwenoliaid y traeth drwy weithredu codau ymarfer, ac enillwyd profiad helaeth iawn yn yr Adain i hyrwyddo'r amcanion hynny.

Ystadegau: Mae'r Adain yn rheoli dros gorff arwyddocaol o wybodaeth sy'n ymwneud ag ansawdd bywyd yng Ngwynedd mewn perthynas â'r amgylchedd.

Ac yn wyneb yr hyn a ddywedwyd gynnau, mae angen esbonio pam yr oeddem ni, aelodau Adain Chwith y Blaid megis, yn anesmwyth am y polisi - neu'n gywirach, am y mynegiant arferol ar y polisi: teimlo'r oeddem fod y mynegiant hwnnw'n gwneud cam â hanfod y polisi.

Past pysgodyn oedd rhwng y tafelli, ond roedd y dafell uchaf yn codi i fyny fel adain awyren Delta, oddi wrth y past.

Gweithreda'r Adain Gludiant Cyhoeddus mewn sawl maes sy'n cael effaith ar yr amgylchedd:-

Bu llawer o daeru ynghylch gwleidyddiaeth efo John Roberts hefyd gan fod ei syniadau ef yn bur wahanol i rai adain chwith ein teulu ni !

Tra bu i rai o leisiau amlycaf yr adain chwith megis Gudrun Ensslin ac yn ddiweddarach Ulrike Meinhof droi at drais, yr ateb i eraill oedd ffurfio celloedd unigol lle dôi criw bach at ei gilydd i drafod theori chwyldroadol.

Mae'n hawdd cael gafael arno mewn clybiau ieuenctid, ac yn y tafarnau a fynychir gan ieuenctid adain dde.

Mae e'n mynd i gyflawni'r gwaith dyngarol hwn o dan adain Canolfan Eglwys Lindon, Y Mwmbls lle mae Rhidian wedi bod yn aelod gweithgar yn ystod ei yrfa golegol.

Y mae'r ffordd y bu'r papurau tabloid yn ystod y dyddiau diwethaf yn corddi teimladau rhagfarnllyd tuag at yr Almaenwyr yn ernes o'r ysbryd milain tuag at wledydd Ewrop sy'n peri i ddyn ofni dylanwad rhai o'r carfannau adain-dde yn Lloegr.

Rho ras i ninnau geisio ymochel dan gysgod dy adain a gwneud hynny pan fo hi'n hindda fel, pan ddelo'r storm, y cawn orffwys mewn tangnefedd.

Mewn achosion o'r fath, gall "Adennill" cyfeiliornus beri niwed di-ben-draw, a bydd yr Uned yn derbyn cyngor oddi wrth yr Adain Gefn Gwlad ynglŷn â gwerth safleoedd i'r amgylchedd.

Ni ddaeth unrhyw fesurau eraill ar warthaf y gwasgu ar fudiadau adain dde, ac felly yn aml iawn ymffurffiodd y rheiny'n fudiadau newydd dan enwau eraill.

POLISI PRYNU: Derbynia'r Grwp gyngor oddi wrth yr Adain Gefn Gwlad, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a chyhoeddiadau ar fasnach ynglŷn â'r graddau y mae cynhyrchion a ddefnyddir ac a argym hellir eu defnydd gan eraill yn dderbyniol i'r amgylchedd.

Bun synod i lawer ohonom na chymerodd hyfforddwr o allu Graham Henry y maswr bach hwn dan ei adain o'r cychwyn cyntaf ai feithrin yn y fath fodd y byddai nid yn unig yn ennill gemau i Gymru ond yn goleuo gemau a'i fflachiadau o athrylith naturiol.

COCH Y BERLLAN - Ffrwythau egroes TITW TOMOS LAS - Mwyar duon COCH DAN ADAIN - Afalau TELOR PENDDU - Eirin Ysgaw

Yn enwedig o gofio mai dan adain Cyngor Celfyddydau Cymru - corff sydd i fod i hyrwyddo llenyddiaeth a llyfrau - y mae Oriel.

Rhoddodd y llywodraeth derfyn ar weithgaredd a chyhoeddiadau sawl mudiad adain dde, ac er nad oeddent yn gweld angen creu deddfau newydd, llymach, roeddent yn addo cryfhau'r rhai a oedd yn bod eisoes.

Sicrhaodd Frank Warren y ffeit a bydd yn gyfle i Dai Gardiner, sy'n rheoli Regan, gael pencampwr y byd arall dan ei adain yn ogystal a Steve Robinson, pencampwr pwysau pryf y byd, sy'n dod o Gaerdydd.

Llunio datganiad ac adroddiad blynyddol, yn amlinellu nod ac amcanion yr Adain a'r hyn a gyflawnwyd ganddi, ac yn cynnwys dadansoddiad o wariant.

yn rhoi yr adain hwyl-debyg enfawr ar ei chefn ar draws y lli ac yn cwffio bob medr i'r rhwyd ...

Prin y bu unrhyw drafod o gwbl ynghylch sut i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn troseddu adain dde; sut i gyfyngu ar y mewnfudo i'r Almaen oedd y prif beth dan ystyriaeth.

I raddau helaeth ymateb i argymhellion y llywodraeth 'roedd y ffermwr unigol - datblygwyd peirianwaith eang o grantiau a chyngor ac o addysg, yn wreiddiol dan adain Llundain, ac yn ddiweddarach o dan ddylanwad Brwsel a'r Polisi Amaeth Cyffredin (PAC/CAP).

Gwasanaethau Staff: Noda'r Adain fod yr Awdurdod yn gwario mwy o arian ar annog ei staff ei hun i ddefnyddio cludiant preifat nag ar ddarparu cludiant cyhoeddus i'r Sir yn ei chrynswth.

Drwy sianelau presennol a rhai newydd, dylai'r Adain barhau i bwyso am newidiadau y dymunir eu cael ym mholisiau'r llywodraeth mewn meysydd perthnasol sy'n cael effaith ar ansawdd gwarchod natur ac etifeddiaeth dirweddol y Sir.