Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adawai

adawai

Gwelais gerflun o'r llanc Dafydd fab Jesse Ban un o'r meistri, yn gryf a hardd o gorff, a dyna'r argraff a adawai Phil ar bawb a'i hadwaenai.

Pethau'n mynd i'r gwellt heb i mi wneud dim byd i frwydro yn erbyn hynny; dim ond gorwedd yn ddiymadferth o dan ergydion creulon y tawelwch a adawai glwyfau a chleisiau newydd o ddieithrwch bob eiliad.

Gwynt teg ar ei ôl o ddeuda' i.' Doedd waeth beth wnâi Vatilan, byddai Nel yno'n gefn iddo bob gafael ac ni adawai i air yn ei erbyn fynd heibio'i thrwyn.

Dyna roeddwn i'n ei olygu wrth anaeddfedrwydd: methu derbyn y sefyllfa ac addasu iddi, ei theimladau gorffwyll, melodramatig yn lliwio ei holl agwedd ar fywyd, nes bod popeth yn cyfyngu a chulhau i un pwynt caled fel haearn, na adawai yr un dewis amlwg arall iddi ond ei lladd ei hun, a dianc o garchar ei meddwl felly." "O, rwyt ti'n fodlon derbyn ei bod hi o ddifri ynglŷn a'r peth, felly?