Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adawyd

adawyd

Daeth un o'r garfan o hyd i ddalwasg bach mewn cerbyd Eidalaidd a adawyd yn yr anialwch ac, yn ogystal, gydaid o bethau metel amrywiol oedd yn ddirgelwch iddo fe, ond a alluogodd Hadad i wneud sawl jobyn cywrain.

'Yr holl ffordd o Drefynwy i Dyddewi, meddiannwyd y cwbl o'r wlad a oedd o unrhyw werth yn eu golwg gan estroniaid o waed ac iaith, ac ni adawyd i hen frodorion y tir ddim ond bryniau llwm a choedwigoedd diarffordd.

Mae'r darnau hynny o'r Fwlgat a adawyd allan gan Feibl Mathew am nas ceid yn yr Hebraeg a'r Groeg wedi eu hadfer, ond mewn teip mân a'r tu fewn i gromfachau.

Ond fe adawyd y tlodion ar ôl yn Jwda.

Roedd yn anodd ganddo gredu i'r tri swyddog lwyddo i gyrraedd diogelwch, ac am y dynion a adawyd ar ôl, roedd yr ergyd a glwyfodd y morwr wedi diasbedain fel dedfryd angau yng nghlustiau Dai Mandri.

Gall y gwybodus ddilyn lli'r atgof amdanynt, am eu gwragedd a'u plant, am het newydd a brynwyd yn y fan a'r fan, am ymbarel a adawyd ar ôl yn y lle a'r lle.

Fe adawyd y tlodion ar ôl i fod yn winllanwyr ac yn arddwyr.

Rwan, doedd dim byd a wani pobl ar fws yn ei synnu, na dim byd a adawyd ar ôl ganddynt.

Ar noson Cwrdd Chwiorydd ers llawer dydd, lwmp o gaws a phwdin reis i'w ganlyn oedd y rhagbaratoad a adawyd gan Magwen Williams i'w gŵr a'i phlentyn.

Parciodd Elfed ei fws yn ofalus yn ei gornel arferol o'r garej a throdd i edrych sut lanast a adawyd ar ôl gan aelodau Sefydliad y Merched.

A llwyddiant drwy chware rygbi agored, cynhyrfus a chreadigol--dyma'r adladd a adawyd gan hyfforddiant athrylithgar pobol fel Ieuan Evans, Carwyn James a Norman Gale I orffen y flwyddyn arbennig hon, roedd y Clwb i gyflawni taith genhadol i Ganada, a dyna pryd, o bosib, y gwnaeth Carwyn un o gamgymeriade prin ei yrfa, pan fynnodd bod gwragedd y chwaraewyr i gael y cyfle i ddod ar y daith Ar y pryd, roedd iwfforia'r tymor dros bawb oedd yn gysylltiedig â'r Clwb, ac ...

Mae yn Tros Gymru JE Jones ychydig gyfeiriadau cynnil dros ben at y barnau gwahanol hyn; ac mae'n sicr, wrth edrych yn ôl, fod yr awgrym sydd ganddo, mai crychni bach ar y tywod yn unig a adawyd ganddynt, yn weddol gywir.

Dim ond dau a adawyd ar ôl, plentyn dall nad oedd wedi gweld dim, a phlentyn mud a byddar na fedrai ddweud beth oedd wedi digwydd.

Mae hi fel trampolîn.' `Wyt ti'n meddwl y cawn ni afael ar drysor yma?' `Cellwair yr wyt ti wrth gwrs.' `Wel - dwyt ti byth yn gwybod - edrych ar y wardrob draw fan na - pwy a yr beth sydd ynddo.' `Yr unig ffordd i ddarganfod hynny yw mynd i edrych!' Gan waeddu a bloeddio neidiodd y giang dros y gwahanol rwystrau i'r fan lle safai hen wardrob yng nghanol pentwr o ddodrefn diraen fel llong ofod a adawyd ar ôl.

Yr oedd y nifer fechan a adawyd yn weddill yn ddigon serch hynny, oherwydd yn fuan iawn ar ôl anterth y clwy yr oedd cwningod ar gynnydd eilwaith.

Agorwyd cronfa i helpu'r rhai a adawyd yn weddwon ac yn amddifaid, gan weinidogion y dref, yn eu plith y Parch Roger Edwards, Y Parch Owen Jones (Meudwy Môn) a'r Parch Thomas Jones, awdur Y Noe Bres.