Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

addasu

addasu

Os arhoswn allan yn ddigon hir i'r llygaid allu addasu i'r tywyllwch, eu os yw'n noson ddi-leuad, fe welwn fod llawer mwy i'w weld yn yr awyr na'r cytserau a'r ser amlwg.

Roedd Mr Godfrey wedi addasu adeilad pren ar ei dir ym Moelfre, ger Abergele, i fod yn stiwdio gerdd gan gynnwys rhoi defnydd i atal swn ynddo.

Yr oedd yn rhaid penderfynu wedyn a fabwysiedid un o'r meysydd llafur parod (ac yr oedd nifer o fodelau ar gael), a ddylid addasu un ohonynt, ynteu a ddylid mynd ymlaen i greu un o'r newydd?

* addasu'r cywair yn ol y sefyllfa e.e.

Fe nododd - - fod tendr yn gallu golygu sawl gwahanol beth - fe allai olygu Cytundeb Pris Sefydlog neu fod y syniad a'r cynnwys yn cael ei addasu ar ôl ennill tendr.

Mae ymgais yn cael ei wneud i ddefnyddio'r dechneg hon mewn sawl maes mewn cyfrifiadureg - o esblygu rhwydweithiau niwral i gael 'unigolion' sy'n addasu i dyrfedd y farchnad stociau a chyfranddaliadau.

Mae Lyn Ebenzer, wrth addasu'r ddrama deledu a gyd- sgrifennodd gyda Sion Eirian, wedi llunio stori slic a gafaelgar, ac mi roedd troi'r tudalennau i mi yn angenrhaid.

Gallai ystyried y fath bethau arwain at ddatgan euogrwydd, at ailagor hen glwyfau, at addasu poenus.

Kendall, darlithydd yng Ngholeg Addysg Wrecsam yn ddiweddarach, pan ddaeth Cwmni Collins ar y ffôn o Glasgow i'm sicrhau eu bod nhw wedi penderfynu addasu 'Collins' Happy Series', sef Tro yn y Wig, Llyfrau Pen Bawd a Llyfrau Bach y Wlad, yn gyfan i'r Gymraeg ac yn gofyn beth oedd yr archeb?

Daeth i'm meddwl eleni mai'r garddwyr mwyaf llwyddiannus yw'r rheini a all addasu eu syniadau ar gyfer yr hyn ganiatâ'r tywydd iddynt ei wneud yn hytrach na dilyn dyddiaduron garddio a rhaglenni'r cyfryngau.

Roedd y swyddogaeth ganolog y dylid fod wedi ei rhoi i Zola i gynllunio ac addasu'r offer wedi cael ei anwybyddu.

Un peth y mae'n rhaid i holl aelodau'r tîm fod wedi eu trwytho ynddo yw gwerth y cynnyrch y maent yn ei drin ac yn ei addasu at bwrpas y rhaglen, - sef newyddion.

Llew o gael rhyddhad oedd mynd ati i ysgrifennu gweithiau gwreiddiol a hefyd addasu chwedlau gwerin a ffeithiau hanesyddol, gan beri bod storm ym mynwes sawl plentyn wrth iddo fynd o antur i antur wrth droi'r tudalennau.

Er hynny, byddai ein hynafiaid yng Nghefn Brith yn falch o weld fod y Capel yma o hyd ac wedi ei addasu gogyfer ag anghenion y gynulleidfa sy'n cwrdd yno heddiw, er cymaint yw'r dirywiad crefyddol a ddigwyddodd yn ystod oes y rhai hynaf ohonom.

Tua tri mis i gynhyrchu'r drafft cyntaf ond bu rhaid addasu saith neu wyth o weithiau cyn cyrraedd at y drafft terfynol.

A hyd yn oed pe bai'r testun yn hŷn nag y gallwn ar hyn o bryd ei brofi, mae'r ffaith nad oedd copi%wyr diweddarach wedi moderneiddio nac addasu'r hanes, drwy gydblethu'r cnewyllyn brodorol ag elfennau o draddodiad arall, yn awgrymu'n gryf yr ystyrid y chwedl Gymraeg am Drystan ac Esyllt fel stori wahanol, mewn rhyw fodd, i hanesion eraill a berthynai i'r un un byd Arthuraidd, a bod y chwedl wedi ci thrin yn wahanol o'r herwydd.

Roeddwn yn arfer addasu rhai o'r geiriau gogleddol fel efo, dos, fo ac hitia i'r geiriau sy'n gyfarwydd i ni fel gyda, cer, fe a phaid a becso - yn enwedig yn llais yr awdur.

Yn ail mae'r frenhiniaeth yn arwydd o'r diffyg democratiaeth yn ein gwlad, yr annhegwch cymdeithasol ac amharodrwydd y drefn wleidyddol i addasu a moderneiddio.

Cymharol ychydig o athrawon er hynny sydd yn addasu eu dulliau a'u harddull ddysgu i gyd-fynd a chynnwys y wers.

Yn ddiweddarach, roedd y ddau yma wedi addasu eu dull a'u hamcan yn ddirfawr.

O gymharu ag angerdd y gân gynta mae'r ail gân, syn Saesneg, yn gyferbyniad llwyr ac yn dangos bod Melys yn gallu addasu steil eu caneuon.

Chwiliwch am yr amryw o blanhigion arfoor a ddaw i'r amlwg yma, wedi addasu eu hunain i wrthsefyll drycinoedd y glannau ac i sugno as chadw lleithder cyn iddo diflannu i'r tywod.

Llwyddwyd i addasu'n gyflym i anghenion cyfnewidiol BBC Cymru a'n cwsmeriaid eraill yn ogystal â chyflawni perfformiad ariannol cryf iawn.

Nodwyd fod yna ddigon o eiddo gwag a ellid ei addasu yn gartrefi mewn nifer helaeth o ardaloedd heb fynd ati'n ddi-reolaeth i adeiladu ystadau o dai drud ar gyrion penterfi.

Yn awr, wrth i ferch Kitchener Davies, Manon Rhys, baratoi at addasu Cwmglo ar gyfer y llwyfan modern, mae yna nofel a drama arall a allai siglo'r sefydliad.

Pe byddai'r nwydd newydd o werth masnachol mae'n siŵr y bydd rhywrai yn chwilio am ddull i'w addasu.

Erbyn y ddogn olaf, y ddeuddegfed, byddai'r corff wedi ei addasu ei hun i wrthsefyll dogn gref.

Yno 'roedd ymwelwyr fel gwenyn yn potio o gwmpas y dŵr, yn addasu'r camerâu'n ffwndrus i gasglu atgofion am yr ewyn gwyn yn disgyn ddawnsio'n swnllyd i'r ffrewyll.

Gallai cynigion i addasu adeiladau presennol fod yn fwy derbyniol pe baent yn parchu dulliau a defnyddiau adeiladu lleol.

l) Cydweithio â Menter a Busnes ar y cynllun Chwylbro er mwyn ei addasu i'w ddefnyddio gan ganghennau CYD a dysgwyr yn gyffredinol.

Mae adeilad yn cael ei addasu i'r pwrpas hwn.

Gwefan i'r achos o addasu'r porwr Mozilla i Gymraeg, h.y. botymau 'Yn Ol' 'Chwilio' i helpu mewn gallu darganfod yn fwy uniongyrchol gwefannau a gwasanaethau gwe yng Nghymraeg e.e. chwilotwyr Cymraeg.

Cais llawn - addasu ac ymestyn modurdy preifat yn sylweddol i greu fflat nain Rheswm: Gohiriwyd ar gais asiant yr ymgeisydd.

Gellid meddwl am yr unedau a fydd yn rhan o'r Pecyn fel cyfres o gylchoedd tebyg yn dilyn y patrwm canlynol: Adfyfyrio ar ddulliau dysgu presennol Addasu polisi'r Defnyddio'r pecyn fel cyflwyniad adran i ymchwil ac arfer dda Trafodaethau Treialu/ Ymchwil adrannol pellach ddosbarth-ganolog

Dyna roeddwn i'n ei olygu wrth anaeddfedrwydd: methu derbyn y sefyllfa ac addasu iddi, ei theimladau gorffwyll, melodramatig yn lliwio ei holl agwedd ar fywyd, nes bod popeth yn cyfyngu a chulhau i un pwynt caled fel haearn, na adawai yr un dewis amlwg arall iddi ond ei lladd ei hun, a dianc o garchar ei meddwl felly." "O, rwyt ti'n fodlon derbyn ei bod hi o ddifri ynglŷn a'r peth, felly?

Addasu'r Testun Wrth ichwi symud y saeth yn agos at y testun yr ydych wedi ei deipio bydd yn newid yn gyrchwr-I

Gallwch ei addasu i'ch anghenion eich hun.

Mae'r datblygiadau chwyldroadol wedi ein galluogi i addasu solidau i bwrpasau arbennig.

Hyn yn golygu fod raid codi am chwech ar ol noson chwyslyd a heb gael unrhyw gyfle i addasu i wlad ddieithr.

Cais llawn - addasu ac ymestyn adeiladau allanol i ddarparu llety ar gyfer oedolion gyda salwch meddwl Rheswm: I roddi cyfle i'r Is-bwyllgor Ymweliadau ymweld â'r safle a chyflwyno adroddiad.

Mae Deddf yr Anabl 1996 yn sôn am gamwahaniaethu wrth ddarparu nwyddau cyfleusterau a gwasanaethau i aelodau o'r cyhoedd, ond nid oes rhaid i fusnesau addasu eu hadeiladau yn llawn tan 2004.

Defnyddiwyd y grant i addasu deunyddiau Saesneg (neu iaith arall) i'r Gymraeg, i gynhyrchu teitlau Cymraeg gwreiddiol ac i gynhyrchu fersiynau Saesneg o ddeunydd gwreiddiol.

ac wrth gwrs rydyn ni'n byw ym mhentre'r byd nawr gan addasu ymadrodd marshall mcluhan ) felly mae maeth yn dod o bob man, o bob cyfeiriad, oni bai'ch bod yn byw mewn gwâl gan ddwyn un o ddelweddau kafka ).

Cais adeilad rhestredig - addasu ac ymestyn adeiladau allanol i ddarparu llety ar gyfer oedolion gyda salwch meddwl Rheswm: I roddi cyfle i'r Is-bwyllgor Ymweliadau ymweld â'r safle a chyflwyno adroddiad.

Mae'n amlwg bod y tyfiant tymhestlog yma wedi bod yn rhy gyflym i ni addasu'n syniadau i dderbyn y newydd.

Ochr yn ochr â'r cyrchnodau arholiad, sicrheir fod rhaglen waith pob disgybl yn amlygu: Ehangder - drwy gyflwyno'r profiad ieithyddol/dwyieithog yng nghyd-destun pob un o'r naw maes profiad (mathemategol, gwyddonol, ayb.) ac yn cymhwyso sgiliau'r cwrs addysg i fywyd a gwaith cymunedol; Perthnasedd - drwy gysylltu'r rhaglen waith â'r angen i addasu'r dysgu a'r addysgu i ddiddordeb a gyrfa bersonol y disgybl ee.

Yn dilyn y cyfnod o ymgynghoriad bydd y Cyngor yn ystyried yr holl sylwadau ysgrifenedig a dderbynnir ac yn addasu'r cynllun os credir bod achos teg.

Awgrymir yma ymchwil ddosbarth ar raddfa fechan trwy dreialu agweddau ar y broses ysgrifennu yn yr ystafell ddosbarth cyn dod yn ol fel adran i arfarnu ac addasu'r hyn a dreialwyd.

trefnir monitro blynyddol gan ystyried sylwadau myfyrwyr, staff ac arholwtr allanol a chyflwynir adroddiadau ynghyd ag unrhyw awgrymiadau ar gyfer addasu i'r Bwrdd Cyfadran Addysg Barhaol ac i'r Pwyllgor Sicrhau Ansawdd.

Roedd yn gweld y peryglon o addasu ar gyfer nifer fach o gwmniau masnachol oedd yn anaddas ar gyfer y mwyafrif o gwmniau.

Creu ac addasu gemau a gweithgareddau

'Dan ni am golli'r pwysau yn hamddenol, ac felly'n fwy effeithiol, fel bod y corff yn cael amser i addasu.'

Rhan o'r gamp oedd rhoi rhannau i oedran eang o blant, a hynny wrth addasu nofel yr oedd John Owen wedi ennill gyda hi yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth ddwy flynedd yn ôl.

Dyna beth yw bod yn berson mewn oed: dysgu addasu i sefyllfaoedd newydd, pa mor anodd bynnag y bo hynny." "Aeddfed?

Mae dwy ran o dair o gynyrchiadau addysgol BBC Cymru yn Gymraeg, â'r traean arall wedi'i addasu'n benodol ar gyfer anghenion dysgu yng Nghymru.

Mae hyn yn arwain i'r syniad mai adaptogen yw ginseng, sef meddyginiaeth sy'n cynyddu gallu'r corff i addasu ac yn gweithio yn unig pan fo angen.

Addasu a Symud Gwrthrychau Defnyddiwch y saeth dewis a chliciwch ar y llinell yr ydych newydd ei chynhyrchu fel bo'r llinell yn cael ei dethol.

I ddathlu hanner canmlwyddiant cyhoeddi un o'r nofelau difyrraf i ymddangos yn Gymraeg ym marn llawer, y penderfynais addasu O Law i Law ar gyfer cynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith eleni.

Mae'n rhaid bod mewn man tywyll iawn ymhell o unrhyw oleuadau, ac mae'n rhaid gadael i'r llygaid addasu i'r tywyllwch.

At ei gilydd, y mae'r rhan fwyaf o bobl wedi addasu eu bywydau fel eu bod mewn cytgord â'r afon a'r tirwedd.

Rhaid fydd newid ffurf y glust, addasu organau arogli a newid y ffisioleg fewnol i wynebu gofynion gwahanol.

Dylid cynnal cyfarfodydd rheolaidd rhwng cynrychiolwyr y cwmniau a chynrychiolwyr y canolfannau perfformio i gyfnewid gwybodaeth, â, lle bo'r angen, i addasu cynlluniau i gydfynd ac unrhyw anghenion arbennig.

A dweud y gwir yr oedd Barry'n addasu ac ail-wampio hyd at yr wythfed perfformiad!

Gwahaniaethedd - drwy addasu'r cyrsiau a'r modd y'u dysgir yn ôl gallu, angen a dyhead y dysgwr.

Mae'n rhyfedd, wrth gwrs, mor gyflym y mae modd addasu, hyd yn oed ar ol dau ddiwrnod.

Yn sicr mae modd i'r athro addasu cynnwys y llyfr, yn ôl gofynion oed a gallu'r dosbarth.

Efallai y gall y cwmni%au rheini sy'n cynnig rhisgl coed ar gyfer ei balu i fewn i bridd neu ei osod yn haen o gwmpas planhigion yn tyfu i helpu cadw gwlybaniaeth o gwmpas eu gwreiddiau, ddarganfod dull i addasu'r rhisgl at yr un pwrpas a mawn.

Cyfaddefaf fy nyled i'r pysgotwr/naturiaethwr enwog - mae fy helfeydd wedi cynyddu ers i mi astudio ei lyfr a'i addasu i'r afonydd lle y pysgotaf am sewin.

Addasu meysydd llafur i raddau mwy neu lai, neu fabwysiadu maes llafur dros dro, fu hanes mwyafrif y grwpiau, gyda'r bwriad o lunio amrywiadau lleol yn ôl y gofyn.

mae'r argymhellion hyn yn ffrwyth gwaith ymchwil trylwyr a gadarnhaodd yr angen am y fath ganolfan, a'r galw am y gwasanaethau, " meddai mae'r prosiect, sydd wedi ei ariannu am flwyddyn, yn creu dulliau o addasu deunydd dysgu mewn ffurf y gall sawl coleg ei ddefnyddio yn ogystal â datblygu rhwydwaith gynorthwyol i ddarlithwyr.