Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

addewid

addewid

Ac fe ddaeth y dydd pan godwyd baneri ar ben pob glofa, uwch y ddrifft hon, a'r pwll acw, ac fe dynnwyd lluniau'r glowyr buddugoliaethus, gwynder eu gwenau yn hollti'r du%wch a orchuddiai'u hwynebau, yn dathlu'r dydd pan ddaeth y cyfan oll yn eiddo i blant yr addewid.

Ar ôl cael addewid gan ei thad na fyddai'n rhaid iddi briodi, gwellhaodd ei llygad.

Ryw hannar milltir cwta sy' rhwng fa'ma a'r Felin 'cw." Sibrydodd, "Dydan ni'n dau yn gymdogion rŵan." A chyda'r addewid rasol yna, a chan gydio yn dynn yng nghlust Hywal y mab, camodd Laura Elin y Felin, yn llythrennol o'r Nef i'r niwl.

Ond efallai iddo fod yn anlwcus oherwydd ei enw, Go-dam, ac mai dyna sut yr aeth ar goll yng ngwlad yr Addewid!

'Rwy'n tynnu tuag at oed yr addewid ac o dro i dro yn hunanol ac yn hiraethu .

Ni hawliai Iesu, y mae'n ddiogel gennyf, unrhyw swydd neu deitl o urddas gwleidyddol neu eschatolegol iddo ei hun, ond y mae'n sicr fod llawer yn ei oes yn meddwl amdano fel un a gyflawnai'r addewid am y Meseia, fel un a fyddai'n rhyddhau ac adfer Israel.

Anodd oedd troi tuag adref ond roedd yr addewid am sglodion yn y Borth yn ei gwneud yn haws.

'Mae'n ddigon hawdd gweld y gwahaniaeth,' meddai yntau'n fyfyrgar, gan syllu ar ei gwallt, ar ei llygaid mawr agored, ei gwefusau llawn addewid.

Siomedig oedd ymateb Ysgrifennydd y Cynulliad i'n argymhellion (ystyriai arweiniad o'r canol fel ymyrraeth ym musnes yr awdurdod addysg lleol) er y cawsom addewid y byddai'n eu trafod gyda swyddogion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ynghyd ag addewid o gyfarfodydd pellach yn y dyfodol.

Tynnodd ei sgrafell dros esgob Bangor a'r deon am iddynt ofni cario croes ar bererindod i Ynys Enlli heb addewid o ymbare\l a bws a thywydd braf i groesi, gan of yn yn bryfoclyd, pa fath dywydd oedd hi tybed pan gariai Iesu ei groes real, drom, ar lethrau Calfaria.

Os daw e ar draws yr afal, mae'n siŵr o fynd ag e oddi arnat ti, dyna'i addewid i'r hen wrach.

Ond addewid Duw oedd y byddai'n ei wneud yn genedl am fod hynny'n angenrheidiol i'w waith.

Fe aeth yntau oddi wrth ei wobr at ei waith, a chynhyrchu dwy nofel boblogaidd arall - Pan Ddaw'r Machlud ac Oed Rhyw Addewid, a gobeithio nad yw ei yrfa fel nofelydd ond megis dechrau.

Hitler yn torri ei addewid ac yn ymosod ar Rwsia.

Talodd am ei hur ac ychwanegu cildwrn bach crintach i'r gyrrwr siomedig, gan gofio'i addewid iddo'i hun nad afradai mo'i arian hyd nes sicrhau bod ganddo ddigon o foddion i ddychwelyd adref yn ddiargyfwng.

Mae cynnig wedi ei roi i'r gweithwyr i roi cais am swydd newydd pan fydd yr awdurdod yn ad-drefnu yn mis Hydref, ond does dim addewid am barhad i'r swyddi sydd ar hyn o bryd yn Fangor.

Ond yma mae'r meirw yn eu 'parlyrau perl', a'r marwol arbennig hwn, yn holl addewid ei ddisgleirdeb, ynghladd mewn erw anghyffredin iawn na ddichon i'r byw byth ymweld â hi.

Pwysleisir yn nes ymlaen fel yr oedd Duw trwy droeon pwysig hanes yr Israeliaid yn cyflawni'r addewid hon i Abraham.

Yn ôl y Cyfarwyddwr, Gareth Jams, roedd ganddyn nhw addewid nawdd tan ddiwedd y mis ond dim sicrwydd o ddim ar ôl hynny.

Y mae David Ellis ei hunan mewn dau englyn ac un llythyr yn cyfeirio at dri bachgen hoff o'r ardal a fu farw yn y Rhyfel - tair addewid a dorrwyd.

Ac yntau wedi fforffedu'r addewid am anfarwoldeb trwy ei anufudd-dod, nid oedd dyn mewn ffordd i ymgymodi â Duw na chynnig iddo iawn dros ei bechodau ei hun.

Daeth Mr Williams acw yn ol ei addewid.

Owen, a'i arian mân yn bentwr o'i flaen, a thrwch y mwg o'i getyn ac o'i geg yn amrywio yn ôl addewid y dominôs yn ei feddiant ar y pryd.

Roedd llawer o'r anniweirdeb yn dilyn addewid o briodas - '...' , meddai John John.

Cadwodd ei addewid.

Rwyn credu bod Graham Henry wedi cadw at ei addewid o ddewis pobol sy'n whare ar eu gore.

Rhif oed yr addewid, meddyliodd Willie'n hyderus, addewid o bethau gwych i ddyfod, nid nefoedd niwlog o fyd arall, ond yma o'i gwmpas ac yntau gyda digon o bres yn ei boced i dalu amdano.

Addewid yw addewid.

Llwyddwyd i dderbyn addewid o £100,000 o arian Loteri ond er bod cadeirydd Menter Preseli, y Cynghorydd Lynn Davies, wedi cydnabod ar y rhaglen fod £50,000 eisoes wedi ei wario does dim arian Loteri wedi cyrraedd hyd yn hyn.

Ces addewid am bryd o fwyd rhad yn y Royal Oak.

Ac yn y rheolau sy'n dilyn, gwaherddir torri addewid, amharchu'r Saboth, glythineb mewn bwyta ac yfed, gwisgo dillad ffasiynol sy'n meithrin balchder, anlladrwydd a gwastraff.

Ystyried ymhellach y pwnc yn unol â'r addewid a roed yn y "Gornel" i weled a ellir diffinio'r safon o'i osod, ac i roddi iddo ddeheulaw Cymdeithas Cerdd Dant.

Ond pa syndod oedd hynny, a hithau, mae'n siŵr, ymhell dros oed yr addewid?