Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

addoldy

addoldy

Wel mi gan nhw eu gorfodi dwi'n credu, gan amgylchiadau, i ddod i delerau efo'r sefyllfa oherwydd faswn i'n meddwl, er na allaf siarad o brofiad, ymhlith yr hen oedd y styfnigrwydd yma, yr hen bobl yn ei chael hi'n anodd i symud a newid enwad, neu newid adeilad, addoldy, ond tydi bobl ifanc yn malio fawr ddim am bethau fel hyn, a 'dwn i ddim beth fydd dyfodol yr Eglwys neu'r Capeli os ydi'r bobl ifainc yn troi i fod yn Gapelwyr neu Eglwyswyr unwaith eto.

Dylid nodi i'r tir gael ei roddi yn rhad gan John Davies, Glan-y-gors, ac i'r adeilad gael ei godi ar safle wahanol i'r addoldy blaenorol.

Nid maestref oedd Penrhosgarnedd ei ieuenctid, ond cymuned wledig, amaethyddol gan fwyaf, a'i bywyd yn troi o gwmpas gwaith y tymor, addoldy, ffair, a phlas Y Faenol.

Byddaf yn tristau wrth feddwl cymaint o estroniaid sy'n berchnogion cartrefi'r hen gymeriadau a arferai fynychu'r addoldy yng Nghefn Brith gyda'r fath ffyddlondeb.