Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

addurnol

addurnol

Gan mai'r lawnt yw'r canfas i'r holl arddio addurnol mae'n rhaid iddo fod y lân a thrwsiadus.

Roedd y 'Llythyr' yn ble dros ddifrifwch llwyr, dros lenyddiaeth gyfrifol, dreiddgar - nid llenyddiaeth addurnol, dlos, sentimental neu bietistaidd.

Haera ef mai pwrpas swyddogol yn hytrach nag addurnol sydd i'r cymariaethau a'u bod yn taflu golau llachar ar gymeriad a digwyddiad yn ogystal â dwysa/ u'r adnabyddiaeth a'r dealltwriaeth.

Yr un fuasai'r effeithiau ar lwyni addurnol hefyd sydd a'u tlysni yn nhyfiant y flwyddyn bresennol megis BUDDLEIA DAVIDII, CORNUS RHISGL COCH, HELYG ADDURNOL, ac eraill, neu lwyni a blodau ar dyfiant y flwyddyn flaenorol megis RIBES (cyrens blodeuo), ambell SPIREA ac ambell BERBERIS, a.y.b.

Dyma'r adeg i ddisgwyl ymosodiad y gwahanol bryfed gwyrdd ar rosynnau, llwyni addurnol a choed a llwyni ffrwythau.

Bu'r traddodiad llenyddol Cymraeg yn hoff iawn o haniaethau llachar, weithiau'n wirebol, dro arall yn ddim ond addurnol, a byddaf yn meddwl am lu problemau Cymru yn y termau hynny.

Y tu draw i'r garej roedd rhai coed addurnol wedi eu trimio mor ofalus â chŵn rhech.