Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adlais

adlais

Efallai fod peth ofn a swildod o dan yr wyneb, ond adlais yr her sy'n aros.

Fe gafwyd adlais o'r hen Gastell Nedd ddoe, y pum blaen yn rhagori yn yr agweddau tynn ac yn cyfrannu tipyn yn y chwarae rhydd.

Ond y tu mewn iddo, nid oedd dim o'r ddisgyblaeth honno a'i hamddiffynnai'n allanol; ac o'r tu mewn iddo fe ymwybyddai ag udo hir hir a oedd yn adlais addas i eiddo Ap.

'I Edward Wyn,' atebais yn syth, fel pe bai rhyw fymryn o furmur hen adlais yn fy ysgogi.

Clywais ambell adlais o'r cythrwfl a ddilynodd cyhoeddi'r cyfrifon am gyfnod go hir cyn iddynt dawelu.

Awgrymir mai adlais o'r ddeunawfed ganrif oedd rhefru John Morris-Jones yn erbyn 'Y Sant'.

Gweld 'Eryr Pengwern pengarn llwyd', ei glywed yn 'aruchel ei adlais', blasu 'afallen beren a phren melyn' teimlo Dafydd ap Gwilym pan drawodd ei 'grimog .

Ceir nifer helaeth o eiriau a dywediadau yn Sbaeneg sydd fel adlais o'r cysylltiadau a fu ers talwm.

Adlais ddiflanol o emynyddiaeth y ddeunawfed ganrif yw y nifer ddibwys o emynau gynyrchwyd yn ddiweddar, yn lle llais byw, penderfynol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn graddol glywed adlais o grombil ein gilydd yn mynd yn un gân gorfoleddus...Roedd hi'n crynu wrth feddwl am y peth rŵan...

Fe ddaw ei eiriau am y rhan o wisg pen Rhiannon a ddylasai guddio'i hwyneb ag adlais o gynghorion Tertullian ar wisg gwragedd, a llenni'n arbennig, a hefyd o eiriau canon y chweched ganrif sy'n gorchymyn i wragedd clerigwyr wisgo llenni.

Fe gafodd ei dwy nofel flaenorol, Fory Ddaw ac Adlais, groeso brwd gan ddisgyblion ysgolion uwchradd ac yn bendant fe gaiff y nofel hon yr un croeso.

Mae Gwil ar ei orau yn y gan a'r adlais sy'n cael ei ychwanegu at ei lais yn effeithiol drosben.

Mae Iesu i'w fawrygu am yr hyn ydyw, nid oherwydd yr hyn a gawn ganddo - adlais o gyhuddiad Iesu ei Hun yn erbyn y dyrfa a'i ceisiai, nid am iddynt weld y gwyrthiau ond am iddynt fwyta o'r bara a chael digon.

'Rhoes ei geiniog brin at godi'r coleg' er mwyn i'w fab ei hunan beidio â medru nac iaith ei dad nac ystorïau'i dadau na gwybod dim am 'adlais cerddi ei ieuenctid pell'. Mynych y dywedwyd mai'r gwahaniaeth rhwng colegau Prifysgol Cymru a phrifysgolion dinasoedd masnachol a diwydiannol Lloegr yw mai meistri masnach a diwydiant a greodd y sefydliadau Seisnig ond ceiniogau'r werin a gododd golegau Cymru.