Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adlewyrchiad

adlewyrchiad

A golau cochlyd y wawr yn sgleinio ar ei wyneb ac adlewyrchiad y goleuadau blaen yn disgleirio'n wyn yn ei lygaid ymddangosai fel y diafol ei hun, meddyliodd Gareth.

Ni ragwelwyd na fyddai ganddi, o leiaf ar y dechrau, na'r agwedd meddwl, na'r pwysau a fyddai'n ei galluogi i lunio polisiau na fyddai'n adlewyrchiad uniongyrchol o bolisiau adrannau eraill Whitehall.

Adlewyrchiad o'r haul rywfodd ar y dwr a hwnnw'n creu goleuni ar ol i chi ddygymod a'r lle.

Deuai ffydd Hugh Hughes o'i galon, wedi'i seilio ar "adnabyddiaeth bersonol o Dduw a'i bethau% Adlewyrchiad o hyn oedd natur bersonol ei ymosodiad, ac o'i ganfyddiad o gyfrifoldeb pob unigolyn yn y byd hwn am ei weithredoedd, ac o'i atgasedd, felly, at naws haniaethol dadleuon yr academegwyr.

Cynnal arolwg o holl gynyrchiadau BBC Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchiad digonol o amrywiaeth diwylliannol ac ethnig Cymru ac y caiff materion portreadu eu monitro'n systematig.

Pa wendidau bynnag a ganfyddid yn ei berthynas â'i gydnabod, ei statws ar ei aelwyd ei hun ac adlewyrchiad ohono o fewn ei gymdogaeth a gyfrifai fwyaf.

Roedd gwasg yr oes aur yn adlewyrchiad o Gymru gymhleth oedd bron â chyrraedd y lan.

Mae'n werth gofyn i'r trydanwr sicrhau fod lampau niwl y car yn datgysylltu wrth i'r plwg fynd i mewn, neu fel arall fe all yr adlewyrchiad ar du blaen y garafan fod yn ddiflas pe baech angen defnyddio lamp niwl y garafan.

Gall goleuni deithio'n rhwydd o un pen i'r llall o'r ffibr, ond ni all ddianc drwy'r ochrau oherwydd fod adlewyrchiad mewnol ar y ffin rhwng y craidd a'r gorchudd.

Mae hyn yn adlewyrchiad o duedd gweinyddwyr trwy'r saithdegau a'r wythdegau i weld ysgolion bach fel 'problemau' costus i'w cau pan deuai cyfle oherwydd fod nifer y disgyblion wedi disgyn i'r lefel mympwyol o 16.

Roedd hi'n adlewyrchiad o'r holltau gwleidyddol, ieithyddol ac enwadol o fewn cenedl oedd yn mynnu ei diffinio ei hun mewn sawl modd gwahanol.

Mae'n ddigon tebyg i'r duedd (ar echel arall) i rai deithio'r byd gan weld adlewyrchiad o Gymru ymhob twll a chornel.

Adlewyrchiad o'r hyder newydd hwn ynglŷn â dysgu Hanes Cymru yw'r gyfrol Llunio Cymru Fodern gan Geraint Jenkins, sef y gyntaf mewn cyfres o bedwar gwerslyfr ar Hanes Cymru.

Ydy'n hanes cymdeithasol ni yn y papurach hyn neu a ydynt yn fwy o adlewyrchiad o feddylfryd y bobl sy'n creu hysbysebion?

Dengys y siart isod bod menywod yn ffurfio mwyafrif bach ymhlith y rhai a ddychwelodd yr holiadur, ond mae'r rhaniad yma yn adlewyrchiad eithaf cywir o'r Cymry Cymraeg.

Gallai weld adlewyrchiad cannoedd o lygaid yn ei ddilyn.

Credwn hefyd bod y rhaniad oedran uchod yn adlewyrchiad teg o'r Cymry Cymraeg yng Nghymru heddiw, ac felly rydym yn hyderus o ddilysrwydd y sampl o ran rhyw ac oedran.

Ni fynnai gerdded y bwrdd efo Merêd i fwynhau'r awel dyner a gwylio brig y llong yn corddi adlewyrchiad y lloer yn fyrdd o fflachiadau arian.

Ar ôl y datganiad ifanc, hyderus yna dipyn o ddisgyniad yw cyfraniad cyntaf y rhifyn cyntaf, sef telyneg gan Geraint Bowen nad yw'n ddim ond adlewyrchiad o delynegaeth John Morris-Jones:

Roedd y cyfanswm ceisiau, 5 - 2 i Gymru, yn adlewyrchiad teg ou rhagoriaeth.

Yn ein tyb ni, mae hwn yn galonogol, ac yn adlewyrchiad yn bennaf o'r teimlad o deyrngarwch sydd gan bobl tuag at bethau Cymraeg.

Syniad arall a gafwyd oedd "homologous structures" - nid oedd adlewyrchiad nag adgynhyrchiad yn digwydd rhwng y broses uwch- ffurfiannol a realiti'r sylfaen economaidd, ond yr oedd y strwythurau yn 'cyfateb' i'w gilydd, a gellid canfod y gyfatebiaeth hon trwy ddadansoddi.

Yna, cynigwyd y syniad fod 'pontio' yn digwydd rhwng y ddau ffurfiant - y tro hwn, yr oedd y broses yn fwy nag adlewyrchiad.

Er mwyn sicrhau fod lwc yn eu dilyn, bydd llawer tîm yn cael plentyn bach i fod yn fascot iddynt - adlewyrchiad hwyrach o'r adeg honno pan oedd aberthu plant i blesio'r pwerau tywyll yn beth cyffredin.

Roedd disgwyliadau mawr am y gêm hon ac fe gawson ni gêm oedd yn adlewyrchiad perffaith o'r gystadleuaeth, meddai cyn-gapten a golwr Cymru, Dai Davies.

roedd y gweithgor felly'n hollol fodlon bod cynnwys y llyfryn cofnod yn gyflawn ac yn gywir ac yn adlewyrchiad o asesu dilys.

Fel y clywe aelode o Glwb Caerdydd am y paratoi rhyfeddol yma, daethant i'r casgliad mai adlewyrchiad o banic ar y Strade oedd hyn i gyd, a bod hyn yn cadarnhau eu cryfder nhw fel tîm oedd yn siwr o fuddugoliaeth.

I raddau, maedosbarthiad daearyddol ein sampl yn adlewyrchu patrwm o ddosbarthu'r holiadur drwy'r papurau bro, ond hefyd mae'n adlewyrchiad o'r srdaloedd lle gwelir y dwysedd uchaf o ddarllenwyr..

Ond wrth gwrs adlewyrchiad o wrthdaro cymdeithasol ac o gydbwysedd grym o fewn y gymdeithas honno ydi pob gwasg a phob cyfrwng torfol.

I'r graddau hyn y mae hanes y plwyf hwn yn adlewyrchiad o blwyfi eraill Cymru yn eu hymdrechion i ennill bywoliaeth yn y ddau fyd.