Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adnabyddiaeth

adnabyddiaeth

Deuai ffydd Hugh Hughes o'i galon, wedi'i seilio ar "adnabyddiaeth bersonol o Dduw a'i bethau% Adlewyrchiad o hyn oedd natur bersonol ei ymosodiad, ac o'i ganfyddiad o gyfrifoldeb pob unigolyn yn y byd hwn am ei weithredoedd, ac o'i atgasedd, felly, at naws haniaethol dadleuon yr academegwyr.

Adnabyddiaeth lwyr o ddramâu Groeg yn unig oedd gan Aristotlys pan ymdriniodd â nodweddion drama drasig Efo 'ychydig o Ladin a llai o Roeg' treisiodd Shakespeare hwy i gyd bron.

Bachgen ifanc iawn oeddwn i pan gyfrannodd y bobl hyn eu pytiau yn y llyfr (oddieithr y mwy diweddar ohonynt) ac arwynebol iawn, ar y gorau, oedd f'adnabyddiaeth i o gymeriad neb y pryd hynny.

Rhywbeth yn debyg yw aduniad mewn coleg, ond bod yr adnabyddiaeth yno'n datblygu'n rhywbeth mwy clos a pharhaol weithiau.

Os na fedrwn ni heddiw hawlio'r un adnabyddiaeth gyfeillgar o gymeriadau'r Hen Destament, mae maniffesto taith Y Gohebydd yn crynhoi llawer o hanfodion crefft y gohebydd tramor.

Ehangder ei adnabyddiaeth o'r micro- a'r macrocosmos oedd yn ei wneud yn gwbl wahanol i holl feirdd a llenorion Cymraeg, nid yn unig ei gyfnod ei hun, ond rhai pob cyfnod.

Haera ef mai pwrpas swyddogol yn hytrach nag addurnol sydd i'r cymariaethau a'u bod yn taflu golau llachar ar gymeriad a digwyddiad yn ogystal â dwysa/ u'r adnabyddiaeth a'r dealltwriaeth.

Rŵan wrth imi edrych yn ôl fel hyn, ni allaf lai nag ystyried y sgarmes gi%aidd yna fel trobwynt mawr yn fy adnabyddiaeth o Talfan.

Ar hyn o bryd y mae PDAG yn cynghori'r system gyfan ar sail ymchwil ac adnabyddiaeth o bob agwedd ar addysg ym mhob sector, trwy ei gysylltiadau â'r gweithwyr yn y sefydliadau addysgol a'r asiantau cenedlaethol sy'n darparu ar eu cyfer, a thrwy gysylltiadau beunyddiol ag adrannau'r Swyddfa Gymreig.

A meddai Dryden, 'Petai wedi byw [Aristotlys] i weld ein dramâu ni buasai wedi newid ei feddwl.' Fel yr awgrymir yn y dyfyniad, adnabyddiaeth mor eang ag sy'n bosibl o amrywiol ffurfiau o amrywiol gyfnodau gan amrywiol lenorion o amrywiol ieithoedd sy'n gwneud barn sy'n werth dibynnu arni.

Adnabyddiaeth ac ymdeimlad o'r elfennau cyffredin hyn sy'n cynorthwyo dyn i ffurfio barn.

Prin y disgwylid i grwtyn chwilfrydig gydymffurfio a'r gwarharddiad.Fe wn i un peth i sicrwydd, i mi, wrth glustfeinio yno, ddod i wybod aml gyfrinach.Ehangwyd fy ngeirfa aflednais a ddeuthum i ddyfnach adnabyddiaeth o gymdeithas ddauwynebog y Cei.

Câi'r pleser o ddweud, "Dyna'n union fuasech chi'n ei ddisgwyl ganddo fo." Adwaenai bob awdur cyn iddo sgrifennu ac nid oddi wrth yr hyn a sgrifennodd, a darlun o'r adnabyddiaeth ydoedd pob tudalen iddi hi.

Gallwn ninnau ddweud fod Saunders Lewis y clasurydd - trwy'i adnabyddiaeth dosturiol o gymhlethdod natur dyn, a thrwy herio'i gymeriadau i fentro - ei fod yn osgoi ffurfioldeb crebachlyd y ddeunawfed ganrif, ac yn ymgyrraedd at synthesis rhwng clasuraeth a rhamantiaeth: prawf arall o annigonolrwydd y termau hynny.

Ond y pnawn yma yr hyn rwyf i am ei wneud yw adrodd ychydig o ffeithiau noeth am droeon ei yrfa cyn ei 'droedigaeth' ym Mhenllyn, neu'n hytrach cyn iddo ddod i'w wir adnabyddiaeth ohono ef ei hunan, gan awgrymu'n wyliadwrus fod a wnelo'r ffeithiau hyn, efallai ryw fymryn a delwedd ac arddull ei gerddi, a chan gadw mewn cof nad yw gosodiadau ysgubol ac anghyflawn am fywyd a chefndir unigolyn o fardd, weithiau gan y bardd ei hunan, o fawr werth i'r neb a fyn o ddifri ei ddeall.

Problem adnabyddiaeth o'r hunan oedd yr un a gawsai sylw cynnar J.

Fel hen lanc ar y pryd prin iawn oedd fy adnabyddiaeth na fy ngwybodaeth intimet i o bobol trin gwallt merched!