Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adnabyddus

adnabyddus

Daeth yn adnabyddus trwy Gymru gyfan ym myd llenyddiaeth.

Nofel adnabyddus arall o'i eiddo oedd Kidnapped.

Ddydd Iau, mae'r gyflwynwraig deledu adnabyddus o'r Rhyl, Carol Vorderman, yn cyhoeddi'r cynllun yn swyddogol.

Nid ein bod yn chwilio am fargen wrth gwrs, gan fod y bachyn tynnu yn un o'r ategolion pwysicaf y byddwch yn eu prynu.Gwell glynu at rai o'r gwneuthurwyr mwyaf adnabyddus, megis Witter, sy'n darparu gwahanol fodelau ar gyfer gwahanol geir.

Pan ymddangosai'r rhain o flaen y camera, llifai sloganau adnabyddus y chwyldro o'u cegau.

O stiwdio Barcud, Caernarfon y bydd Nia a Rhodri yn cyflwyno holl fwrlwm y noson fawr gyda chynulleidfa fyw, adloniant a wynebau adnabyddus yn cymryd rhan ac yn ymuno yn yr hwyl yn ystod y rhaglen.

'Mae pob fersiwn o'r darlun symbolaidd ac adnabyddus yma yn gosod nid yn unig sialens dechnegol ond yn ein galluogi i godi nifer o gwestiynau am sefyllfa bresennol ei gwlad.

Mae Elin yn ymweld â chartre'r henoed ac yn methu adnabod Martha, hen fenyw a arferai fod yn adnabyddus yn y gymdogaeth fel person cymwynasgar oedd yn rhedeg siop y pentref.

yr oedd gan dafydd hughes, a oedd yn delynor adnabyddus ei hun, dri mab, joseph, david, a john.

Cafodd fy nhipyn haerllugrwydd ei geryddu gan Gymro adnabyddus a berchir yn haeddiannol am ei ymlyniad wrth heddwch ac wrth Gymru.

Ac mae'r ddau yn siwr o fod ymhlith cymeriadau mwyaf adnabyddus llenyddiaeth Saesneg.

Daethant yn gymeriadau adnabyddus a chymeradwy ym mywyd y ddinas.

Dywedir fod y gwr hwn, yn ei ddydd, yr un mor adnabyddus â Thwm o'r Nant, ein hanterliwtiwr mwyaf ni fel Cymry.

Tegla Davies yn adnabyddus i bob Cymro llengar a gwladgarol.

Yr oedd tad-cu Dafydd Pen-y-graig, Richard Cwm-garw, a'i frodyr Watkin a William a Morgan Cwm-garw yn ddynion adnabyddus yn y lle yn gynnar yn y ganrif o'r blaen, a magodd bob un ohonynt deuluoedd lluosog o fechgyn cryfion a merched glân.

Yn y cyntaf, er enghraifft, ceir peintiad adnabyddus Syr E. J. Poynter, Ffyddlon hyd Angau, llun canwriad Rhufeinig yn glynu wrth ei le pan oedd y diluw tân yn disgyn ar dref Pompeii.

Mae'n bosibl, felly, nad oedd Pwyll yn adnabyddus arbennig, neu nad oedd yn hysbys fel tad Pryderi.

Diddorol fyddai enwi ychydig o'r rhai mwyaf adnabyddus, megis Dafydd Cwm-garw, Siôn Cwm-garw, William Pistyll- llwyd, Dafydd Cae-glas, Hezekiah Cwm-garw, Siôn Cwm-teg, Pegi o'r Ffarmers, Nansen Pantycelyn, Watkin y Croffte, Dafydd Glynbeudy, Daniel o'r Bryn, William Penygraig, Angharad Azariah, Rachel William y gof, a llawer eraill ar hyd y cymdogaethau cyfagos.

Cynnyrch llai adnabyddus Cymru a welir ymhlith y cystadlaethau ffowls yn Llanelwedd yw'r ŵydd Brecon Buff a'r hwyaden fach sy'n ymfalchio yn yr enw Welsh Harlequin.

Tra adnabyddus yw'r hyn a ddywedir yn y Pedair Cainc am Wydion a Lleu yn mynd tua Chaer Aranrhod yn rhith beirdd o Forgannwg.

Cyfeiliodd Cerddorfa a Chorws Genedlaethol Gymreig y BBC i lawer o'r artistiaid yn ogystal â pherfformio anthem newydd a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan y cyfansoddwr cyfoes adnabyddus Karl Jenkins.

A phwy ohonom a ddymunai gael ei drin gan feddyg adnabyddus am ei ddawn i ladd cleifion?

Roedd y cynhyrchydd am ddefnyddio dyn camera adnabyddus, fe wrthododd un o reolwyr cyllid y Sianel gydnabod ei ffi drwy honni fod y ffi yn uwch na'r hyn yr arferai dalu am y math o raglen dan sylw.

Ac y mae rhai o'i emyna' yn bur adnabyddus er mai un cwpled y cofia'r mwyafrif amdano bellach, reit siwr:

Roeddwn i yn un o'r rhai oedd yn mynd allan, a'm cymydaith oedd person sydd erbyn hyn yn offeiriad adnabyddus.

Digwyddiad, nid anniddorol ac nid llenyddol ddibwys o bell ffordd, oedd ei ddarganfyddiad o darddiad un o ganeuon adnabyddus Islwyn--"Seren Heddwch".

Mae gwaith aentio Gwynedd ap Tomos wedi dod yr un mor adnabyddus a phoblogaidd erbyn hyn â'r gwaith arloesol y mae hi a'i gŵr Dafydd ap Tomos wedi ei wneud ac yndal i'w wneud i wireddu'r breuddwyd o greu yr oriel ym Mhlas Glyn-y-Weddw.

Mae Kellett yn enw adnabyddus yn y fro, wrth gwrs, yr un fath a Dowell, Joyce (clociwr), Aldrich, Royles a Maddocks.

Yn ffodus iawn, fel y digwyddodd, yr oedd Davies yn gyfaill agos i Matthew Parker, archesgob Caergaint, a hefyd yn bur adnabyddus â William Cecil, prif gynghorwr y Frenhines.

Mae'n bosibl mai'r mwyaf trwyadl yn ei esboniadau oedd Robin neu Robert Jones o Gaernarfon, brawd Elwyn Jones y datganwr adnabyddus o Lanbedrog.

Awdl delynegol, bert oedd yr awdl fuddugol, a bu'n awdl boblogaidd iawn am flynyddoedd lawer, yn enwedig un darn cywydd adnabyddus.

Yr oedd yn un o'r ychydig ysgolheigion proffesiynol a oedd yn adnabyddus i'r werin-bobl.

Peth ofnadwy yw bod yn anwaraidd, yntê, ond wrth gwrs mae tylwyth y Buganda yn adnabyddus am ei ddulliau modern ynghanol cyfandir heb ei lwyr wareiddio.

Mae Bayly'n adnabyddus am ei gyfraniad at y bywyd ysbrydol yn ei lyfr Yr Ymarfer o Dduwioldeb.

Mae Lewis yn un o feirdd mawl mwyaf y bymthegfed ganrif, fel y ceir gweld yn glir pan gyhoeddir ei holl waith o'r diwedd, ond y mae'n bennaf adnabyddus am un gerdd eithriadol, sef ei farwnad deimladwy i'w fab ei hun.

Ond anaml y clywch chi neb yn son am John Cale - cerddor a chyfansoddwr sy'n fwy adnabyddus yn America nag yng Nghymru.

Cefais fy nghyhuddo unwaith o 'ddwgyd' yr enw oddi wrth y baswr lleol adnabyddus Jac Pennar Williams, ond gellid dadlau fod gennyf ddwbl hawl y cantor hynod hwnnw, hynod ei ddawn a'i lais - er ei fod, gyda llaw, yn gerddorol anllythrennog.

Ymhlith yr wynebau adnabyddus fydd yn galw draw i roi help llaw ar y llinellau ffon fydd Wit a Wat a'u ffrindiau, JOHN OGWEN, MAUREEN RHYS, MEDWYN WILLIAMS, MARGED ESLI a DAI JONES.

Wrth gymharu gwahanol esboniadau ar hanes, hawdd y gellir cydymdeimlo â barn adnabyddus yr hanesydd H. A. L. Fisher pan ddywedodd mai'r unig wers y mae Hanes yn ei ddysgu inni yw nad yw Hanes yn dysgu gwers o gwbl!

'Roedd amryw yn perthyn i'r garfan newydd hon yn y mudiad, y daeth eu henwau'n adnabyddus, fel F.

Ar y cyfan maen nhw'n lyfrau bwrdd bychan sy'n hawdd i ddwylo bach afael ynddyn nhw gyda digon o wrthrychau adnabyddus i'r darllenwr ieuenga.

Dyma un o awdlau mwyaf adnabyddus a llwyddiannus y ganrif.

Parhaodd cyfres newydd o The Slate â'r patrwm a ddechreuwyd llynedd o ffilmiau o'r ansawdd uchaf ar bwnc unigol: Karl Jenkins y cyfansoddwr a'r arweinydd, y darluniwr Jim Burns, yr animeiddwraig Joanna Quinn, y cyfarwyddwr ffilm Peter Greenaway, a'r nofelydd Dick Francis, bob un yn adnabyddus yn rhyngwladol, ond â'u gwreiddiau yng Nghymru.

Daeth Meredydd Evans, Robin Williams a Hugh Jones yn ffigurau tra adnabyddus.

Yn chwarae rhan David Davies, yr academig canol oed sy'n datblygu perthynas a Dafydd, mae WILLIAM THOMAS, actor Cymreig adnabyddus, sydd wedi ymddangos mewn nifer helaeth o gynyrchiadau Cymraeg a Saesneg dros y blynyddoedd..

Crydd oedd ei dad, fel ei daid, John Jones, gwr galluog ac adnabyddus ym Methesda.

Er bod yr arddull yn weddol debyg, ar strwythur dal yn adnabyddus fel Slip, mae gallur grwp i ychwanegu chydig o bop i fewn i'r caneuon wedi gwneud gwahaniaeth gwerthfawr.

Cymerodd ran mewn Western wedi hynny, A Long Ride From Hell yn 1968 ond pwy syn cofio am hwnnw heddiw tra bo Fistful of Dollars ar sbagetis eraill yn adnabyddus i bawb.

Yn êl y Vita Cadoci, fe ddychwel Cadog o Iwerddon ac ê i Frycheiniog i astudio dan gyfarwyddyd ysgolhaig adnabyddus.

Blackwell's Bookshops, yn Rhydychen: Un o'r cyflenwyr llyfrau academaidd ac ysgolheigaidd mwyaf adnabyddus ym Mhrydain.

Yna, wrth nesa/ u at neuadd Mynytho, lle mae englyn adnabyddus y diweddar Brifardd R.

Cymeriad adnabyddus arall oedd Williarn Jonff y Gof, neu 'Wil Fach-wen' fel y'i gelwid.

Yr oedd y fyddin hon wedi bod mewn pump neu chwech o'r prif frwydrau diweddaf - brwydrau ag y mae eu henwau a'u hanes yn dra adnabyddus i ni oll, sef brwydrau caerfa Fisher, Wilmington, Dyffryn, Shenandoah, Petersburgh, a Richmond .

Erbyn hyn mae ei henw yn adnabyddus i garwyr cerdd ledled y byd.

Yn yr awdl hon y ceir y cyfeiriad adnabyddus at 'unifersi Nedd', 'Ysgol hygyrch ysgolheigion'.

(profiad!) Fe wnaeth par priod adnabyddus iawn y penderfyniad.

Ar y dde ymhen hanner milltir saif fferm y Dderw lle'r ymosododd Plant Mat, yr ysbeilwyr adnabyddus o Dregaron, ar ryw ffarnwr ar ei ffordd i'r Sesiwn Fawr, a'i ladd.

Mewn ysgrifen boenus o ddestlus, gwbl unionffurf, fe geir un cwpled gafaelgar, os braidd yn adnabyddus, a buasech yn barod i haeru bod y gŵr a'i hysgrifennodd wedi cymryd ffon fesur i wneud yn siwr ei fod yn union ar ganol y tudalen.

Caewyd y gangen yn yr Wyddgrug ac fel 'P M Evans a'i Fab, Treffynnon', y mae'r cwmni'n fwyaf adnabyddus.

Daw gweddill y cast o'r Iseldiroedd gyda rhai ohonynt yn wynebau adnabyddus i gynulleidfaoedd Cymru a'r Iseldiroedd.

Cofiaf y diweddar Harry Roberts, cyn gadeirydd y Cor, ac yn un o'r dynion mwyaf ffraeth i mi ei adnabod, yn adrodd hanes y Cor yn canu mewn tref gyfagos ac organydd y capel, lle cynhaliwyd y cyngerdd, a oedd hefyd yn adnabyddus fel cerddor, yn gwrthod i Ffrancon gael defnyddio'r organ!

Dyfynnodd o'r llythyr adnabyddus ynghylch y berthynas rhwng Meddwl, Calon ac Enaid:

Mae'r hen siop a oedd yn gartref i'r teulu adnabyddus hwn bellach yn rhan o Fanc y Midland.

Wedi'r cwbl, yr oedd y dyn yn adnabyddus drwy Gymru gyfan, a byddai hanes ei gwymp oddi wrth ras ymhob papur drannoeth.