Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adnewyddu

adnewyddu

Cawn gyfle hefyd i ddeisyf arweiniad Duw ar y ffyrdd priodol i adnewyddu ein gwasanaeth a'n cenhadaeth iddynt.

"Rydym wedi cadw cymeriad y tai." Dywedodd, hefyd, fod y Cyngor yn falch o'r un math o waith adnewyddu a wnaethpwyd yn ardal Hirael, Bangor, lle roedd y tai yn edrych yn amrywiol, ac nid yn undonog o gwbl.

Gwrthododd toreth o Gymry adnewyddu eu trwydded deledu; arestiwyd a charcharwyd llawer o genedlaetholwyr eraill am beri difrod i drosglwyddyddion.

(v) Mewn ymgynghoriad â Chadeirydd yr Is-bwyllgor, i adnewyddu trwyddedau gyrwyr cerbydau hacni mewn achosion lle mae troseddau modurol, ar wahân i'r achosion lle y teimlir y dylid eu cyflwyno i'r Is-bwyllgor.

Teimlem, ac yn wir pery'r teimlad hwn o hyd, y dylai pobl if ainc a geisiai adeiladu tai neu adnewyddu hen dai, gael blaenoriaeth.

(b) Derbyn y drefn a nodir yn yr adroddiad i ymdrin â cheisiadau gan lanlordiaid am archwiliad o eiddo i ddibenion eu ceisiadau am grant adnewyddu.

Yn ôl yr adroddiad cafwyd sicrwydd na fyddai gostyngiad yn lefelau cynnal a chadw y rheilffordd ond ni chafwyd sicrwydd gan y Rheilffyrdd Prydeinig ynglŷn â chodi dynodiad y rheilffordd o felyn (a oedd yn golygu na fyddai'r trac newydd yn cael ei osod ond na fyddai gostyngiad yn ansawdd y gwasanaeth yn ystod y cyfnod yn arwain at breifateiddio os oedd hynny'n digwydd) i reilffordd werdd (a olygai ychydig o adnewyddu trac newydd ac y byddai hyn yn gwella amseroedd siwrniau).

Adnewyddu capeli mewn ardaloedd lle mae dyrnaid o Gymry Cymraeg yn dal i gadw Seion, Soar a Bethlehem i fynd ar gost gynyddol, pan fyddai pawb, a dweud y gwir, yn gallu ffitio i fewn i festri Seion yn deidi.

Beth yw eich barn chi am y cynllun adnewyddu hwn ym Methesda?

Yn yr un modd mae'r polisi ariannu cyhoeddus presennol yn rhwystro'r Gymdeithas rhag gweithredu rhaglen sylweddol o brynu ac adnewyddu nifer fawr o dai yn yr ardal sydd yn wag neu heb eu defnyddio llawer.

Ond penderfynodd Cyngor Sir Ceredigion i beidio adnewyddu cytundeb yr athrawes ym mis Medi gan nad oedd arian ar gael ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Roedd yn werth, yn wir, roedd yn rhaid adnewyddu a pharatoi'r capel ar gyfer cynnydd y dyfodol.

Ac mae Cyfeillion y Ddaear a Chyngor Diogelu Cymru Wledig hefyd wedi beirniadu'r cynllun adnewyddu am nad yw yn cynnwys unrhyw waith insiwleiddio a bod y tai yn colli cymeriad oherwydd y defnydd o pebl dash a ffenestri plastig gwyn.

Ac fe aeth y capel ati i adnewyddu a chryfhau'r gwaith.

Ysgol y Garth: Bu cryn sylw yn y wasg yn ddiweddar, i'r cynlluniau sydd gan gymdeithas Tai Eryri i adnewyddu hen Ysgol y Garth.

"Roeddem ni fel Cyngor yn teimlo fod Bethesda yn y gorffennol wedi cael ei adael i fynd i lawr, a'n gobaith yw y bydd y cynllun adnewyddu yma a'r Ganolfan Chwaraeon newydd yn codi ysbryd Bethesda," meddai.

(ii) Sefydlu strategaeth a chanllawiau newydd ar gyfer ymdrin â cheisiadau am grantiau adnewyddu tai.

(iv)I adnewyddu trwyddedau gyrwyr cerbydau hacni ond bod unrhyw achos lle bu newid yn yr amgylchiadau i'w ystyried gan yr Is-bwyllgor.

Yr oedd diddordeb yn yr Oesoedd Canol wedi ei adnewyddu ac wedi lledaenu, ac yr oedd agweddau anghyfarwydd yr Oesoedd hynny'n tynnu mwy a mwy o sylw.

Ceisiai adnewyddu ffydd ei bobl trwy bregethu efengyl a darddai o'i thraddodiad ei hun: cyhoeddai gyflawniad yr amser a'i egluro trwy sôn am y gobaith yn ysgrythurau ei genedl am oes fesianaidd, oes sanctaidd, a'i chyfiawnder a'i chariad yn amlygu holl angerdd ac arddeliad yr Ysbryd.

Yn eu plith roedd hyd yn oed lond blwch o sbringiau o wahanol faint a chyda hwy llwyddodd y gof i adnewyddu hen ynnau nad oedd wedi cael eu tanio ers deng mlynedd neu ragor.

Ac yn fuan iawn mae 'mi Mym an mi Dad' yn gweld eu gwyn ar hen adfail o fwthyn ac yn cael grant adnewyddu i'w wneud yn fynglo.

"Roeddwn yn falch iawn o'r cyfle i gael adnewyddu fy nhŷ," meddai Sheila Williams.

Mynnai eu deuoliaeth hwy wedyn y byddai'n rhaid i ryw doriad sydyn, rhyw newid radical, ddigwydd i adnewyddu'r natur ysbrydol.

Credu y dylid adnewyddu'r hadau.

Ymateb cyntaf i eiriau fel llyfrau, ffynhonnau, dysgawdwyr a goleuadau yw un o werthfawrogiad; mae llyfrau yn cyfoethogi dyn, ffynhonnau'n ei adnewyddu, dysgawdwyr yn ehangu'i wybodaeth, goleuadau yn ei arwain yn y tywyllwch.

Nid at Rwsia garpiog y mae troi am help i hybu masnach a chreu cyfalaf i brynu ac adnewyddu nwyddau sylfaenol i'r economi.

Mae'r Gymdeithas yn ymgyrchu i newid yr amodau grant i'w galluogi i ail-afael mewn rhaglen adnewyddu o bwys.

Yn ol Ieuan Lewis, Prif Swyddog Technegol Cyngor Arfon, nid oedd ei adran wedi derbyn unrhyw gwynion am y gwaith adnewyddu, ac roedd y perchenogion wedi arwyddo ffurflen i ddatgan eu bod nhw'n hapus efo'r cynllun cyn i'r gwaith ddechrau.