Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adra

adra

Mae'r gyfrol yma'n cynnwys Rysait Aros Adra felly os yr ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth i greu cwynion newydd, mi gewch sawl symptom gwreiddiol.

Ond mi benderfynais i un peth ar ei ben cyn mynd adra.

Pan landiodd Begw ym Mhendre, doedd neb adra ond fy nain, a phan ddywedodd Begw fod Rondol wedi marw ac nad oedd ganddi'r un ddima i'w gladdu, ar ol paned o de, fe gafodd chweugain.

Dyma fi a Robin El, wrth ddžad adra o'r ysgol yn tynnu'u cyrc nhw, new yr oedd y lôn yn un foddfa o dar 'run fath â'r Trinidad Lake, ac yr oedd yn rhaid i drigolion y Waen fynd trosodd i gae Tai Croesion i fynd heibio.

Gallwch chi fynd adra bora 'ma, Robin.

"Mi rydw i'n cofio amsar," medda fi, pan ges i gyfla i dorri ar ei draws o, "pan oeddwn i'n mynd hyd y ffyrdd yma hefo ceffyl a throl, ac wrth ddžad adra, yn gorfadd ar wastad fy nghefn yng ngwaelod y trwmbal yn sbio ar y cymyla, a'r gasag yn mynd ei hun, a phan fydda'r drol yn dechra sgytian, roeddwn i'n gwybod fy mod i wrth Tž Gwyn, achos doeddan nhw ddim wedi tario ddim pellach na'r fan honno." "Rwyt ti'n drysu yn y fan yna," medda fo.

Wyt ti'n cofio fel y bydden ni'n lluchio llinella o gynganeddion at ein gilydd wrth fynd adra o'r ysgol, fel mae plant heddiw yn lluchio pêl?

Roedd Francis yn un o'r 'dengwrs adra' mwyaf cyson yn y gwaith--pan na fyddai ar gontract.

Gyda lwc, mi fyddai adra ymhen pythefnos, efo'r dilead am fod yn hogyn da.

Cawsant baned o de cyn troi am adra.

Fydd hi'n dda 'i gael o adra eto...

'Bacha hi adra'!' Edrychodd Elen ar Meic am eiliad ac yna, trodd a rhedeg nerth ei thraed i gyfeiriad y dreflan.

Pan anwyd fi roedd dad wrthi'n priddo rhesi tatws ac yn rhoi pricia i ddal y pys -- gweler ei ddyddiadur am 7 Mehefin 1968 -- a phan gyrhaeddodd o'r sbyty'r noson honno roedd mam eisoes wedi dechrau 'ngalw i'n Canaveral Jones (CJ i'm ffrindiau yn y ddau gryd bob ochr i mi). Rwan, roedd hi wedi blino ac ar ôl dadlau tipyn bach fe lwyddodd dad i ddal pen rheswm a chael mam i 'ngalw i'n Arwel (ddim yn anhebyg i Canaveral ar ôl saith awr o epidurals). Dychwelodd dad at ei ei datws a'i bys a phan aeth o i nôl y ddau ohona ni adra o'r sbyty ar y 15ed fe ddigwyddodd sylwi ar y tystysgrif geni.

'Doedd 'na ddim son yr oes honno am rai'n cysgu trwy'r dydd a ddim yn deffro nes ei bod yn amser mynd adra, a doedd 'na neb i roi help i rai na wnai neb arall eu helpu.

Chi'n gweld 'roedd 'y nhad yn fwy doniol adra, nid yn unig am y ffaith ma' ni fel teulu oedd yn clywed y jôcs gynta' (a chlywed pob un, nid y rhai dethol), ond 'roedd nhad yn ffraeth ei dafod beth bynnag fo'r sefyllfa, does dim pryd bwyd wedi mynd heibio, na fydda nhad wedi dweud, neu wneud rhywbeth doniol.

I eraill ohonom yr oedd yn braf cael bod yn un o'r kids am wythnos er i'r lle droi yn dipyn o stomp erbyn dydd Sadwrn ac i minnau, fel sawl un arall, godi llaw a dweud ta-ta yn gynnar ar warchodwyr y maes parcio a'i hel hi am adra.

'Wedi gaddo mynd adra,' meddai gan estyn ei law am y platiaid cinio a estynnai'r robot iddo.

Fe'i cynheswyd fymryn wrth gofio am y dyddiau ysgol rheini pan fyddai Gwyn yn rhuthro am adra a'i wynt yn ei ddwrn a'i ben yn llawn syniadau.

A'r wythnos hon dwi wedi bod adra'n sâl am dridiau.

Pan gyrhaeddodd fy nhaid adra y peth cyntaf ddywedodd fy naid wrtho oedd 'Begw druan!

I mewn i'r fasged fawr yr aethon nhw i gyd i'w cario adra, ac mi 'u rhannwyd nhw wedyn, fel bod 'na ddigon i swpar yn Cae Hen a Nant-y Wrach.

(Dyna fel 'ryda ni i gyd; mi fentrwn adra pan fydd pob drws arall wedi cael ei gau rhagom ni).

Ac erbyn i mi gyrraedd adra a'u hagor nhw, roeddwn i yn iawn.

Roeddwn yn siarad hefo fo ar y lon ar y ffordd adra 'ma, ac roedd yntau'n dweud wrtha i fod Begw wedi marw a'i fod heb ddim i'w chladdu, ac mi rois chewugain iddo' 'Wel,wel, wedi'n trin ni' annuwiol.

Tynnu'n coes ni oedd hi mewn gwirionedd, achos cerddad cyn bellad â'r Hen Eglwys ddaru hi - er mwyn i ni gael hel cocos cyn dŵad adra.

Gan Catrin Owan y cawn frechdan wrth ddwad adra o Ysgol Llanrhuddlad, cyn wynebu'r tair milltir trwy'r caeau am Frynteg lle'r oeddem yn byw.A dyna fyddai Catrin Owan yn ei ddweud wrtha'i bob dydd, 'Tasat ti yma ddoe mi fasat wedi cael jam arni!'.

Ond fel roeddan nhw'n 'i mordwyo hi tuag adra mi ddaliodd ryw nafadwch.