Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adroddai

adroddai

Ar ambell brynhawn Sadwrn yn yr haf âi â ni am dro i fyny at y Marchlyn am bicnic, ac yno ar lan y llyn adroddai hanesion am arwyr Cymru Fu wrthym.

Adroddai fy nhad amdano yn ymweld a chymydog adeg y Nadolig.

Un stori am gymeriad felly a adroddai oedd honno arn y pregethwr cynorthwyol hwnnw - a alwyd ryw Sul i bregethu mewn dwy eglwys, ryw dair milltir oddi wrth ei gilydd.

Gan fod cerddi'r beirdd proffesiynol yn cael eu datgan i gyfeiliant telyn neu grwth (mewn dull y collasom ni yn llwyr ei gyfrinach), fe ffurfiai'r beirdd ynghyd â'r telynorion a'r crythorion un dosbarth o wŷr wrth gerdd, a thebyg fod y cyfarwyddiaid - y gwŷr a adroddai'r hen chwedlau - hwythau'n perthyn i'r dosbarth hwn tra parhaent.

Weithiau, wedi gwasgu arno, fe adroddai ran ddilynol y stori; a rhywsut roedd gyda ni - fi yn arbennig - fwy o ddiddordeb yn y rhan hon o'r stori nag oedd ganddo ef.

Yr oedd yn gwmniwr diddan a byddai'n dda gennyf pe bawn wedi cofnodi llawer o'r pethau diddorol, ac yn wir hanesyddol bwysig a adroddai wrthyf am y teulu ac am fy hen ardal.

Wrth iddyn nhw weithio, adroddai'r plant un o benillion y chwyldro: