Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adroddodd

adroddodd

Wedi cyrraedd y Wernddu taflodd ei hun i gadair freichiau, ac adroddodd, mewn cyn lleied o eiriau ag a allai, hanes yr ymgyrch wrth ei chwaer Gwen.

Sioe Ffasiynau: Adroddodd yr Ysgrifennydd ei bod wedi llwyddo i gael Helga Morgan o Landudno i gynnal y Sioe gan nad oedd Cwmni Laura Ashley yn dymuno dod.

Adroddodd am y digwyddiad fel hyn: .

Fel yr adroddodd y Cyrnol Freeth mewn telegram i'r Swyddfa Gartref o'i bencadlys yng Nghaerdydd am chwarter awr wedi un yn y prynhawn:

TSB: Adroddodd yr Ysgrifennydd ei bod wedi anfon at fanc y TSB yn cwyno am ei agwedd tuag at y Gymraeg a'r diffyg ffurflenni Cymraeg oedd ar gael.

Yn Aberystwyth adroddodd hanes y Rhuban Heddwch ac eglurodd sut y bu iddi ddechrau ar y gwaith.

Ac yna adroddodd yr hanes a oedd yn llosgi drwy'r dref.

Adroddodd yr Ysgrifennydd fod Mair Elvet Thomas wedi anfon pecyn o gardiau (a cherdd y Parch.

Roedd un o storïau mwyaf dwys y flwyddyn, hanes dychrynllyd Josie Russell ond un sy'n rhoi hwb i'n gobeithion yn bwnc rhaglenni radio a theledu rhwydwaith: adroddodd Josie's Story yr hanes ar BBC Un a defnyddiodd BBC Radio 4 ddyddiaduron personol a theimladwy Shaun a Josie Russell yn Life with Josie.

Is-bwyllgor Celf a Chrefft: Adroddodd Pat Lloyd fod y pwyllgor wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd, y mae tri grŵp yn paratoi ar gyfer Sioe Llanelwedd.

Adroddodd bod trafodaethau gyda chwmni penodol a'u bod yn argoeli'n dda am gael cytundeb gyda'r cwmni.

Is-bwyllgor Celf a Chrefft: Adroddodd Averill Thomas fod y pwyllgor wedi mynd i'r afael a chystadleuaeth Llanelwedd, y thema yw 'Ehangu Gorwelion - Cymru ac Ewrop'.

Cangen Rhostryfan: adroddodd y Llywydd fod aelodau cangen Rhostryfan wedi bod yn gweithio'n galed iawn ers y pwyllgor rhanbarth diwethaf.

Adroddodd ymhellach fod dwy aelod yn llai eleni yn y rhanbarth.

Profiad bendithiol i gapel llawn oedd hynny, yn arbennig pan adroddodd Lowri Haf Morgan brofiad y bobl ifainc eu hunain.

Adroddodd mai cyfuniad o Arfon, Dwyfor a Meirionnydd byddai'r Cyngor newydd.

Adroddodd yr hyn a welodd wrth y Capten a hwyliodd y llong i Bombay er mwyn ei hatgyweirio.

Yn dilyn llythyr i'r Caernarfon and Denbigh yn cwyno nad oedd y papur am dderbyn adroddiadau Cymraeg, adroddodd yr Ysgrifennydd ei bod wedi derbyn galwad ffon yn dweud bod croeso i bob cyfraniad Cymraeg yn y papur.

..' Rheolir y frawddeg nesaf gan ferf sydd yn cyfleu gweithred feddyliol - 'Penderfynodd'; yna daw dwy ferf sy'n adrodd gweithrediadau go iawn ar ei ran ef, sef 'Cyfeiriodd' ac 'adroddodd'.

Ysgol Breswyl: Adroddodd yr Ysgrifennydd mai ym Mangor y cynhelir yr Ysgol Breswyl eleni a'r thema fydd 'Ewrowawr'.

Adroddodd Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Thai nad oedd sicrwydd y byddai'n gallu mynychu'r cyfarfod.

Adroddodd papur newydd mai cynllun ffrog Versace drawiadol a wisgwyd gan Miss Hurley yw'r ysbrydoliaeth y tu ôl i gynllun lliwgar ar fysus yr ardal.

Yn dilyn ein cynnig i'r Cyngor Cenedlaethol, adroddodd y Llywydd y penderfynwyd yn y Cyngor wahodd siaradwr/wraig yn ôl yr angen.

Cyngor Gwlad: Adroddodd Mary Vaughan Jones fod llyfr o luniau bro Eco'r Wyddfa ar y gweill gan y Cyngor Gwlad.

Is-bwyllgor Chwaraeon: Yn absenoldeb swyddogion yr is-bwyllgor adroddodd Delyth Murphy fod y rhanbarth wedi gwneud yn arbennig o dda yn y Chwaraeon Cenedlaethol yn Y Drenewydd.

adroddodd debra yr holl hanes.

Cyfeiriodd ei gamre tuag yno, ac adroddodd y chwedl wrthynt, gan dynnu allan ei awdurdod.

Adroddodd y pentrefwyr y stori rhyfeddol am ddeallusrwydd, teyrngarwch a mentr ei gŵn.

Chwylbro: Adroddodd y Llywydd fod y swyddogion rhanbarth wedi bod yn chwarae Chwylbro ym Machynlleth ym mis Ebrill ac anogodd bawb i drefnu cael y gêm yn eu canghennau.

Adroddodd yr Ysgrifennydd mai'r unig ohebiaeth dderbyniodd oedd cyfraniadau.

Adroddodd yr Ysgrifennydd na ddaeth enwebiadau i law am swyddi Is-ysgrifennydd ac Is-drysorydd cenedlaethol.

Er nad oedd yn anghytuno â hyn, adroddodd y Prif Weithredwr bod angen cadw llawer o'r gwybodaeth yn gyfrinachol rhag amharu ar y cais grant y Cwmni i'r Swyddfa Gymreig.

Falle y gall hi gael rhywun i ofalu am Dilys a'r plant." Adroddodd y plant holl hanes yr ynys, oddi wrth yr anffawd i'r cwch.

Rhai dyddiau ynghynt, adroddodd y Press Association fod y llinellau ffôn i gyd wedi'u rhwystro gan delegramau yn galw milwyr yn ôl i'W dyletswyddau oblegid y streic.