Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

aelodaeth

aelodaeth

Mae aelodaeth y paneli a'r gweithgorau hyn yn adlewyrchu amryfal agweddau ar addysg Gymraeg, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r gwahanol sectorau addysg a rhanbarthau Cymru.

Mae pob mudiad yn gwerthfawrogi eu hen wynebau ynghanol llanw a thrai yr aelodaeth gyffredinol a tydi Cymdeithas yr Iaith yn ddim gwahanol i hynny.

Ynddynt y canfu ef a'i gymheiriaid y cyfle i ehangu gorwelion eu hawdurdod ac i sicrhau swyddi brasach ar lefel leol, er enghraifft, Dirprwy-Raglawiaeth, Aelodaeth Seneddol ac Uchel Siryfiaeth.

Unwaith eto, dylid nodi bod aelodau Cymdeithas Bob Owen yn derbyn copi o'r cylchgrawn fel rhan o'u tâl aelodaeth.

Rwyf hefyd yn gyfrifol am baratoi rhestrau aelodaeth (fesul rhanbarth, cell, coleg, ysgol ac ati) a labeli aelodaeth yn ôl y galw.

O ganlyniad i archwiliad a wnaed gan arbenigwyr ar ran y Cyfundeb a'r adroddiad a gafwyd am ddiffygion yr adeilad, yn ogystal â'r ffaith fod rhif yr aelodaeth erbyn hyn wedi'i haneru i'r hyn a fu yn y gorffennol, rhoddwyd ystyriaeth ddwys i'r priodoldeb o gwtogi ar faint y capel.

Tua'r un adeg sylweddolodd Roger Fox, Cyfarwyddwr Cymdeithas Ddrama Cymru, fod angen cryn dipyn o genhadu ymysg y cwmni%au amatur Cymraeg ac mai prin iawn oedd aelodaeth Gymraeg y Gymdeithas.

Nid oedd mwyach yn sefydliad byw, a chyfrifid hi fel rhyw gymdeithas hanner-dirgel gyda'i defodaeth arbennig, heb fod ganddi unrhyw hawl i aelodaeth gyffredinol, megis y Rechabiaid a'r Seiri Ryddion.

Dewisir aelodau'r is-bwyllgorau o aelodaeth y Pwyllgor Rheoli ac nid oes neb wedi ei gyfethol.

Gan fod yr aelodaeth yn galw gweinidog atynt, yr oedd modd iddynt wneud eu dewis ar sail profion o dduwioldeb a amlygwyd ym mywyd y pregethwr.

Yna, fel y daw yr adroddiad at ei derfyn gyda hanes ei dderbyniad i lawn aelodaeth o'r capel ym Mhennod XXV, dyna Hiraethog yn codi awgrym y mae eisoes wedi'i wneud ac yn sôn am garwriaeth Bob a Miss Evans.

Y Swyddog Gweinyddol sy'n gyfrifol am yr ochr weinyddol i weithgarwch y Gymdeithas -- golyga gydweithredu â'r Swyddogion Codi Arian, Mentrau Masnachol, Aelodaeth a'r Trysorydd.

Awgryma aelodaeth Harris yng nghwmni meirchfilwyr Sir Frycheiniog ei agosrwydd at y sefydliad Seisnig.

Grwp Gweinyddol a Senedd y Gymdeithas sydd yn trafod gwaith y Swyddog Aelodaeth.

Hwyrach mai dynion yw mwyafrif aelodau'r Gymdeithas Gerdd Dafod a bod hyn yn esbonio'r rhaniad uchod, a dylid cofio bod yr aelodau yn derbyn copi o'r cylchgrawn fel rhan o'u tâl aelodaeth.

Gwir mai'r clwb lleol ple mae'r aelodau yn cyfarfod yn gyson o wythnos i wythnos yw pwerdy'r mudiad - yno y ceir y gyfathrach glos, yno y ceir y gwmni%aeth ddiddan, ond y perygl o gadw o fewn muriau'r clwb lleol yw i'r aelodaeth ddiflasu gan nad oes sialens ychwanegol iddynt.

Gwaith Swyddog Aelodaeth Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw gofalu amaelodaeth y Mudiad.

Derbyn Aelodau Braint yn ystod Oedfa Gymun mis Mai oedd derbyn dau berson ifanc o'r Ysgol Sul i gyflawn aelodaeth o'r Eglwys a'u clywed yn rhoi eu haddewidion i fod yn fyddlon i Iesu Grist.

Ein gobaith yn awr yw dechrau cynyddu aelodaeth y mudiad ymhellach trwy greu ymgyrchoedd aelodaeth yn y gwahanol ranbarthau mewn cydweithrediad efallai â'r Swyddog Ymgyrchoedd, Charlie Williams.

Yn y llythyr yn trosglwyddo aelodaeth a anfonwyd gan ysgrifennydd Eglwys Ebenezer, Llanelli at ysgrifennydd Rhydyceisiaid, at un o'r plant yn unig y cyfeirir, sef Euros.

Tybed a oes gwahaniaeth rhwng derbyn a darllen cylchgrawn sy'n cyrraedd person fel rhan o dâl aelodaeth i glwb neu gymdeithas ?

Wrth i ni godi tâl aelodaeth ffurfiol eleni 'rydym yn hyderu y bydd ein haelodau'n fwy ymwybodol eu bod yn perthyn i fudiad a'r mudiad hwnnw'n tyfu ac yn ymestyn i hyrwyddo defnydd o'r iaith Gymraeg trwy'r wlad.

Aelodaeth Gweithgor Ad-drefnu Llywodraeth Leol

Aeth a'i docyn aelodaeth i'w hen eglwys ym Methel, ond nid Bethel ei blentyndod a'i lencyndod mo'r pentref bellach ac y mae digon o dystiolaeth ar gael iddo ganfod hynny'n fuan.

Bydd aelodaeth y Senedd gyflawn ar ei newydd wedd fel a ganlyn: (i) cadeirydd; (ii) is-gadeirydd ymchwil a pholisi; (iii) is-gadeirydd cyfathrebu; (iv) is-gadeirydd ymgyrchu gweithredol; (v) is-gadeirydd gweinyddol; (vi) trysorydd; (vii) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp ymgyrch Deddf Iaith i'r Ganrif Newydd; (viii) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp Ymgyrch Addysg; (ix) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp Ymgyrch Cymunedau Rhydd; (x) cadeirydd pob rhanbarth (ynghyd â chynrychiolydd ychwanegol mewn rhanbarthau lle mae celloedd byw oddi fewn iddi, sef adolygiad blynyddol yn unol â'r defn bresennol); (xi) golygydd Y Tafod; (xii) swyddog masnachol; (xiii) swyddog adloniant; (xiv) hawl i gyfethol 3 aelod e.e. i redeg ymgyrch dros dro arbennig neu i gel cynrychiolydd uniongyrchol o gelloedd myfyrwyr.

wedi derbyn cynnydd mewn ariannu cynigiodd Ellen ap Gwynn y dylai'r tâl aelodaeth i CCPC.

Doedd ond ychydig o aelodau, dim ymgyrch aelodaeth, a dim prês, ac yr oedd yn rhaid i'r aelodau ennill eu bywoliaeth.

Bellach mae'r Gymdeithas hefyd wedi ethol Swyddog Aelodaeth ymhob Rhanbarth.

ARGYMHELLWYD ychwanegu cadeirydd y Pwyllgor Polisi at aelodaeth y Gweithgor.

I gael wybodaeth pellach am ein gwaith, neu aelodaeth neu rhoddion, defnyddiwch y ffurflen uchod, neu'r cyfeiriadau post ac e-bost.

Nid poeni am y statws, nid poeni am yr aelodaeth ond poeni sut yr oedd grym am gyrraedd y cymunedau.

Byddai, mi fyddai'r plant yn tyfu'n gryf, yn cael eu hysgol yn rhad ac am ddim, ac yng ngolau'r addysg rhad hwnnw'n tyrru'n eu holau i chwyddo cyfoeth, aelodaeth, a dylanwad y capel.

Y mae yn aelod o'r Eglwys Lan Gatholig trwy'r holl fyd, a dylai fawrhau braint yr aelodaeth aruchel honno.

Cyfrannodd Dewi Jones yn sylweddol i ddatblygiad y mudiad yn y Sir, nid yn unig fel Arweinydd Clwb, ond hefyd gyda'r profion medrusrwydd sydd mor bwysig i'r aelodaeth.

Oherwydd natur ddethol yr aelodaeth bron na ellid dadlau fod dechreuad y Dafydd i'w olrhain yn ôl i gyfarfyddiad cyntaf OM Edwards a Puleston Jones â John Morris Jones.

Mae aelodaeth o'r grŵp Heddlu a'r Gyfraith yn agored i bob menyw yn y mudiad sydd am gymryd rhan yn bennaf mewn dwy agwedd ar waith CiF ymgyrchu ar yr naill law, a hyfforddi Heddluoedd Cymru ar y llall, gan geisio hyrwyddo gwell dealltwriaeth o sefyllfa anodd a pheryglus dros ben, menywod a phlant a beryglir gan drais gan yr union berson ddylai fod yn eu hamddiffyn.

Mae gan y Swyddog Ymgyrchoedd wedyn gyfrifoldeb dros y Grwpiau Craidd, gan wneud gwaith ymchwil ar eu rhan, rhyddhau datganiadau i'r wasg a chysylltu â'r aelodaeth yn gyffredinol ar ran y grwpiau craidd.

Efallai bod Tafod y Ddraig a Chymdeithas yr Iaith yn bur ddieithr i chwi os digwyddoch ddod ar ein traws ni ar hap; os felly, a'ch bod am gael mwy o fanylion gyrrwch at un o'r cyfeiriadau E-Bost, neu'n well fyth llenwch y ffurflen aelodaeth a gyrru honno yn ôl.