Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

aethai

aethai

Aethai unwaith yn yr hanner cyntaf, ac ar ôl y gôl gosb a chael pas Moon o ryc, gwelodd ei gyfle a gwibio trwy'r bwlch i sgorio ar y chwith.

Er iddi, meddai, ei gynghori i fynd i'r angladd yn groes i'w ewyllys, rhag i neb ei amau, ac addo dal dano, aethai at yr Uwch-arolygydd Prothero yn unswydd i'w fradychu.

Aethai yntau "i wynfa'r haul at yr anfarwolion." Pan glywais am farw fy nyweddi, y geiriau a ddaeth i'm meddwl oedd: Safodd yr Iesu ar y lan.

Nid aethai neb i'r drafferth i ymwthio drwy'r drain a'r danadl poethion i fynd ar ei gyfyl.

Aethai diwrnod cyfan heibio ers iddo gael ei ffics diwetha a doedd Howard ddim wedi teimlo mor ofnadwy yn ei fywyd.

Aethai hyn yn gylch wedyn o ddirywiad cynyddol.

Nid aethai'r mwyafrif mawr ohonynt i'r prifysgolion na chael fawr o addysg yn yr ysgolion Gramadeg.

Aethai'r Cymry i Iwerddon am ganrifoedd i geisio lloches a chymorth, ond try Manawydan at Loegr.

Aethai drwy wythnos gyntaf yr arholiadau, ond gwyddai fod ei bapurau yn un gybolfa hurt ac nid oedd ganddo fawr o gof beth y bu'n ei ysgrifennu.

Oherwydd hynny penderfynwyd fod yn rhaid wrth adeilad mwy - aethai'r hen gapel yn rhy fychan ers blynyddoedd.

Aethai Einion (Capten Einion Roberts wedi hynny Llys Fair) i Hull i ymuno ag un o longau Radcliffe, sef yr SS Llandeilo, neu y Llanwern.

Er na ellir rhoi llawer o goel ar hynny, mae'n werth crybwyll bod yr hanesydd Rhys Amheurug o'r Cotrel yn son am feirdd Rhys ap Tewdwr yn ymweld a llys Iestun ap Gwrgant ym Morgannwg - dywed mai hyn fu dechrau'r ymrafael rhwng y ddau dywysog; mewn un copi'r hanes, dywedir mai beirdd Morgannwg a aethai lys Rhys, ac fe'u disgrfir hwy'n ei foli mewn cerdd.

Ac fel yr oeddwn yn cydyfed gydag eraiU mewn un ty tafarn, cynigiodd un o'r cwmpeini sofren i oferddyn a elwid Ifan y Gof, os aethai allan drwy y dref yn noeth; ond nacaodd hwnnw fynd.

Ond ni fedrai egluro pam nad aethai i dy ei mam fel y gwnâi yn ddieithriad, na pham yr oedd wedi dewis gadael y plant ar ôl, na pham nad oedd ei mam nac un aelod arall o'r teulu wedi clywed gair oddi wrthi.