Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

afal

afal

'Efalla y medra i ennill afal, neu oren.'

Nid oes Deddf Disgyrchiant, ond yn ein meddwl ni, i egluro'r afal yn syrthio.

Tynnodd fol afal a phwt o gortyn o boced ei drwsus a'u cyflwyno fel tystiolaeth.

Atebodd Idris hi'n bendant ac yn derfynol nad oedd am ildio'r Afal Aur, ond nid cyn i'r Ffantasia ffug afael ynddo gerfydd ei fraich i ddwyn yr afal hud.

Os daw e ar draws yr afal, mae'n siŵr o fynd ag e oddi arnat ti, dyna'i addewid i'r hen wrach.

Brysiem adref wedyn am bythefnos o wyliau gan ddawnsio'n hapus, wedi anghofio'n llwyr am Fwgan y Foty, yr oren a'r afal yn flasus iawn a'r melysion wedi diflannu ers meitin.

a dihuno i weld bod yr afal wedi hen ddiflannu.

Roedd Idris ar fin rhoi'r afal iddi pan sylwodd ar ymddygiad y bêl.

Rho'r Afal Aur i mi.'

Bryd hynny y cofiodd Idris gyngor Ffantasia na ddylai roi'r afal i neb ddim hyd yn oed iddi hi.

Rwy'n cofio diwrnod y te parti yn yr ysgol fod hi wedi ei gwisgo mewn gwisg wen, a roedd yn ferch landeg hefyd, a roedd yn eistedd wrth ryw fwrdd bach ac yn rhoi oren ac afal yn llaw bob plentyn a'r genethod yn rhoi "curtsie% iddi a'r bechgyn yn salwtio.

Bydd y goeden afal yn dwyn ffrwyth cynyddol bob blwyddyn dros y 5 mlynedd nesaf yn union fel y bydd Cymdeithas yr Iaith yn disgwyl i'r C.C.T.A. fabwysiadu cynllun 5 mlynedd i greu Coleg Cymraeg i Sir Gaerfyrddin.

'ONd os daw'r cawr ar dy draws di, dyna ddiwedd arnat ti!' 'Ond chi ddwedodd wrtha i am beidio byth â rhoi'r afal i neb - ddim hyd yn oed i chi eich hunan,' amddiffynnodd Idris ei safiad.

Swp pys Mam efo golwythau o ham cartra ynddo fo, a tharten afal I ddilyn.

Hwnna yw e, ife?' meddai'r crwydryn, a thôn ei lais yn newid, a chyn i Idris gael cyfle i'w rwystro, ysgythrodd am y gadwyn yr oedd yr afal yn hongian wrthi.

'Tybed ai' ti yw'r bachgen a gafodd yr Afal Aur?'

Bu'n rhaid iddo gyfaddef mai ef oedd y bachgen a gafodd yr Afal Aur, a chollodd y crwydryn arno'i hun yn lân o glywed hynny.

A chan nad oedd cylch hud o'th amgylch bydde dy elynion wedi dwyn yr Afal Aur hefyd oni bai imi ddod heibio mewn pryd.'

'Lawer gwaith fe fues i eisie gweld yr Afal Aur, ond fe fethais yn deg â dod o hyd i'r llwybr drwy'r berllan.

'Wel, edrychwch, dyma fe fan hyn,' meddai Idris, gan ddangos yr afal yn ddiniwed.

Cododd cywilydd ar Idris a gofynnodd yn isel i'r llew sut y gwyddai ef fod yr Afal Aur yn ei feddiant.

Ac yn yr Unol Daleithiau defnyddir betys mewn pob math o gyfuniadau: betys efo oren, betys efo afal, betys ar dôst efo pennog ac wyau wedi eu berwi'n galed; betys mewn iogurt efo cennin syfi, sinamon a nytmeg - i enwi dim ond rhai.

Pan o'n ni'n blentyn roedd cael oren, afal a chnau yn werth y byd.

Rhag ofn i hynny ddigwydd, felly, rho di'r Afal Aur i mi.

A mwy o elynion Gwenhwyfar oedd yn disgwyl amdano ar ei daith, yn gwneud eu gorau i ddwyn yr Afal Aur.

Cwtogodd yr ynadon ar yr iawndal i'r Coleg trwy orchymyn o'r diffynyddion dalu £300 yr un i'r Coleg a £25 yr un at gostau cyfreithiol (1/3 o'r swm a hawliwyd gan yr erlyniad). Gwnaeth y ddau ddiffynydd dorri'r rhyddhad amodol yn syth gan ymuno ag aelodau o Gymdeithas yr Iaith i dorri darn o dir i blannu coeden afal o flaen prif fynedfa'r C.C.T.A. ym Mhibwrlwyd fel symbol o'r angen am gychwyn newydd.

Fe wna i fargen â ti - os caf i ddod gyda ti i edrych ar yr Afal Aur, a chael un cipolwg arno, fe gei dithe dy ddewis o'r tegane hyn.'