Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

afiach

afiach

Pan fyddid yn sôn am ei gampau'n gwagio siopau o'u nwyddau oll byddai hithau'n dal dano'n dweud, 'Wel, ddaru o ladd neb, yn naddo?' A phan ddaru o ladd Huws Parsli am y tro cyntaf dyma hi i'r adwy eto: 'Toedd dda gen i mo'r hen gingroen afiach beth bynnag.

Camp yr awdur y tro hwn yw iddo wrth greu nifer o gymeriadau, pob un yn afiach yn ei ffordd fach ei hun, lwyddo i gynnal diddordeb y darllenwr.

Ma' meddwl am orfod gwrthod bwydydd 'afiach' yn ddigon i wneud i my gladdu ym mocs bisgedi Mam.

Ond ar ôl amser hir pan ges i hyd iddo roedd yna hen liw afiach arno, am ei fod wedi mynd gyn hen ac wedi llwydo.

Ar y rhyngrwyd, cafwyd crwydro helaeth os nad afiach uwch ei farw a'r modd y bu iddo osod dryll i'w ben.

Daw rhaglen Jimmy Springer ei hun âr bobl ryfeddaf dan haul wyneb yn wyneb ai gilydd er mwyn diddorir pitw ei feddwl a bwydor cyneddfau mwyaf afiach mewn pobl.

Ond trwy gydol ambell noson clywai Wil nadu'r ci o wahanol gaeau, rhyw udo ymarhous a dolefus, ac yna cyfarthiadau caled ac afiach.

Cynddeiriogai wrth weld cannoedd o Gymry ifainc yn gorfod byw mewn tai afiach, bwyta ymborth pitw a derbyn cyflog druenus o fach am eu llafur hirfaith a chaled.

Pa gynllun afiach sydd ar y gweill a pha mor isel medra o suddo ac yna ei gyfiawnhau ei hun.

I'r tadau Methodistiaid Calfinaidd ym Mon, ac yn wir ym mhob ardal yng Nghymru bron, roedd Gwyddelod a Phabyddion i'w hosgoi ar bob cyfrif, ac felly roedd llongau Cymreig yn perthyn i Fethodistiaid Calfinaidd Cymraeg, gyda chapteiniaid a swyddogion a oedd yn aelodau o'r un enwad, yn llawer mwy deniadol na llongau porthladdoedd Lloegr a oedd yn llawn o Wyddelod tlawd, afiach.Dyma pam y daeth llongau Davies Porthaethwy mor boblogaidd a chawsant lwyddiant ysgubol yn y fasnach i Ogledd America, gyda'u llongau'n cludo llechi ac ymfudwyr i Quebec, Efrog Newydd a New Orleans, ac yn dychwelyd gyda llwythi gwerthfawr o goed Gogledd America i adeiladu tai a llongau yn yr hen wlad.

Er iddo wadu'r cydraddoldeb sydd yn ymhlyg yn nysgeidiaeth Crist cam dybryd a gafodd y meddyliwr gonest hwn pan drodd y Natsiaid ei gred yn yr Uwchddyn i'w melin afiach eu hunain: yn y bon, ei orchfygu ei hun yw camp Uwchddyn Nietzsche a byw'n beryglus yn y meddwl, gan gefnu ar deganau gwael y dorf.

Yn gwneud i mi deimlo'n euog, ac afiach, ia - ond ddim yn gyfforddus!

Ochr yn ochr â hyn roedd tuedd i gollfarnu'r dosbarth cyfalafol am fethu yn eu dyletswydd at y miloedd o bobl a oedd wedi eu crynhoi at ei gilydd, yn ôl eu gorchymyn, i leoedd afiach.

Hebddynt hwy buasai'r sefyllfa Gymreig yn fwy afiach nag y bu, yn wleidyddol a chymdeithasol yn ogystal â chrefyddol.

Dau achwyniad arbennig yn erbyn y drefn yma oedd ei bod yn gwneud yr economi mewnol yn israddol i gyflwr y fantolen allanol a lefel y gyfradd ac, yn ail, fod unrhyw gyfundrefn sefydlog yn debyg o fagu rhyw grynofa afiach o hapfasnachu yn y farchnad gyfnewid dramor.

Roedd y gymysgedd afiach o waed a baw yn ei gwneud yn amhosib gweld ei wyneb yn iawn, ond am ryw reswm, gwyddai Myrddin yn union pwy oedd o.

Ond dydi gwybod hyn ddim yn ei gwneud hi'n ddim haws i reoli'n chwant am y bwydydd 'afiach'.

A 'does gen i ddim llawer i'w ddweud wrth arolygon barn, nac am y gystadleuaeth afiach rhwng y sianeli teledu ar bwy sy'n ennill fwyaf o wrandawyr.