Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

aflendid

aflendid

Mae Gwenallt yn archwilio pynciau fel natur pechod yn yr awdl, ond cythruddwyd y beirniaid gan y disgrifiadau agos-at-yr-asgwrn o ryw a geid ynddi, yn enwedig mewn llinellau fel 'Ar hyd ei blows biws rhedai blys bysedd'. Galwyd yr awdl yn 'bentwr o aflendid' gan John Morris-Jones.

Fel hyn yn unig yr argyhoeddir fod bardd yn adnabod y byd yn ei gymhlethdod cordeddog, ac y geill greu rhywbeth sy'n feicrocosm o'r byd, yn cynnwys ei elfennau gwrthgyferbyniol, ei gariad a'i gas, ei hyfrydwch a'i aflendid, ei fwynder a'i dristwch, ei eni a'i farw.

Y cwestiwn hanfodol, meddai ef, yw a yw 'pentwr o aflendid' yn hanfodol mewn darn arbennig o lenyddiaeth.