Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

aflonydd

aflonydd

Ar ysbrydion aflonydd Teulu Gwyn ap Nudd mae'r bai.

Yn yr awdl hon mae'r bardd yn dychwelyd at y thema gyfarwydd o filwyr dau Ryfel Byd yn aflonydd yn eu beddau am fod yr heddwch eto yn fregus dan gysgod y bom.

Gwelai'r ji-binc a'r titw, a'r llinosiaid aflonydd.

Mae o wedi bod wrthi'n ffoi erstalwm rŵan, yn ffoi'n gylch o amgylch y byd a'r ysbrydion aflonydd ar ei sodlau'n ei hambygio ac yn ei gosbi.

Tynnodd Aun ddarn o bren un deg wyth centimedr o hyd o'i fag a cheisio mesur y pysgodyn aflonydd o faen ei drwyn i fforch ei gynffon.

ac ugeiniau o ddynion yn haner noethion yn gwau trwy eu gilydd fel morgrug aflonydd, a'r chwys yn disgyn oddiwrthynt yn gafodydd i'r llawr; twrf y morthwylion a therfysg y peirianau mor ddychrynllyd, nes crynu y mynyddau cyfagos i'w sylfeini.

Yr wythnos ddilynol ('chwanegol!) bum innau'n ddigon dewr i stwffio i mewn ac eistedd ar y silff - da- acyna prowla 'chydig o amgylch yr ogof yma heb gwmni, mae yn anodd mynd ati ac yn ddigon peryglus i raddau heb dipyn o brofiad cerdded creigiau ag ochr mynydd uwchben y mor aflonydd....

Roedd fel petawn i wedi dihuno'r ysbrydion aflonydd.

Byddaf yn dioddef o symptomau fel coesau'n crynu a'r bol yn aflonydd oherwydd fod arna'i ofn.

Trodd y Cyrnol a galwodd ar i un o'i is- gapteiniaid beri i'r ddau ffariar brysuro; yna aeth yn ei ol at yr heol fawr ac ailddechrau marchogaeth 'nol a blaen yn aflonydd.

Teimlai'i hun yn llawn o ryw egni aflonydd.

Nid oedd ond rhaid iddi ei wylio yn syllu i'r pellter aflonydd i weld hynny.

Pan nad oedd El Presidente'n agor ei geg, fe symudai ei draed yn aflonydd neu edrychai ar ei wats.

At hyn oll, roedd y doctor yn byw mewn corff pur aflonydd.

Diolchwn i Ti am ddygyfor aflonydd y môr, am amrywiaeth yr anifeiliaid, am liwiau digymar blodau, am ffurfiau gosgeiddig y coed, am ruthr y gwynt a chryfder oesol ein mynyddoedd.

Rydych chi'n aflonydd iawn ar hyn o bryd Leo, amser i symud ymlaen falle; ond mae rhywbeth fel petai yn eich dal yn ol.

Llwyd yr enaid a'r tafod aflonydd, y Llwyd hanfodol nerfus, a gyflwynir i ni, Llwyd y crwydryn ysbrydol (amheuaf na wiw inni ei alw yn bererin, achos y mae cryn wahaniaeth rhwng crwydryn a phererin).