Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

afraid

afraid

Afraid sôn am gryfder y Saesneg yn ein cymdeithas yn gyffredinol; mae'n treiddio i bron bob cilfach ohoni, yn yr ardaloedd gwledig fel yn y trefi a'r dinasoedd.

Afraid dweud i'r ddau gyflwr newid yn ddramatig.

Afraid yw crybwyll ei fod yn brydlon wrth y bwrdd brecwast drannoeth, ond yn rhy eiddgar a chynhyrfus i fwyta llawer.

Yn anffodus, er eu pwysigrwydd ac er eu llwyddiant, prin yw nifer yr ysgolion Cymraeg cydnabyddedig, ac afraid yw sôn am sefydliadau Cymraeg yn y sector addysg uwch.

Serch hynny, yn groes i'r hyn a gredai'r mwyafrif o bobl, ychydig o garcharorion a fu farw ar fwrdd y llongau carchar a deithiai i Awstralia a 'does dim sail i'r cyhuddiad cyffredin mai diffyg cydymdeimlad ar ran yr awdurdodau fu'n gyfrifol am farwolaethau afraid yn ystod y siwrnai hir.

Afraid yw dweud mai fi oedd y trydydd gan amlaf.

Fe fydd y Dr William Griffith eisoes wedi manylu ar y cyrsiau addysg a gynigid yng Nghaergrawnt yr adeg honno, fel mai cwbl afraid ydyw i mi wneud hynny hefyd.

Afraid fyddai imi ddechrau manylu ar gyfoerth y llyfrgell honno.

Roedd y diweddar Raymond Williams, yn fwy na neb, yn ymwybodol o'r tueddiad Prydeinig - a Chymreig, afraid dweud - i osgoi gorfod wynebu cwestiynau dirdynnol ein hoes trwy weu mytholeg briodol o'n cwmpas.