Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

agendor

agendor

Wedi camu drwy'r drws yn y wal goncrid-flocs, neu'n hytrach drwy'r agendor lle buasai, gan ei fod wedi cwympo ar ei ben i'r llaid yng ngenau'r twnnel, tynnwyd llun arall o Eluned a minnau - y tro hwn, yn fwy llwyddiannus, ar gamera wincad llygad llo David Lewis, sy'n dangos yn amlwg ein bod yn falch o'n gorchest yn dwyn y cerdyn.

Ac wedi cyfaddef bod agendor rhwng delfryd ac ymddygiad yn fy arferion bwyta, megis mewn llawer o bethau eraill, rhaid imi ganmol y bacwn a'r wy a gawsom i frecwast bob bore cyn cychwyn ar y daith, a'r bara toddion bras nad yw dietegwyr heddiw yn ei gymeradwyo, y brechdanau ham, a'r caws, a'r tomatos a'r afalau a baciwyd beunydd ar ein cyfer.

trwy nodi sut y gellid cryfhau statws y Gymraeg yn y gymuned leol a thrwy geisio pontio'r agendor rhwng y Cymry Cymraeg a'r Cymry di-Gymraeg lle mae hyn yn berthnasol.

Wrth gwrs, byddai'r esboniad hwn yn ateb rhai o'r posau oedd wedi peri cymaint o benbleth iddynt: pam roedd rhai pobl yn methu â'u gweld fel personau ond yn gweld effeithiau eu presenoldeb; pam roeddynt yn teimlo fel bodau ar wahân yn eu hen gynefin, yn fwy felly nag yr oedd traul y blynyddoedd yn ei esbonio; pam roedd agendor diadlam rhyngddyn nhw a'r bobl.

Llew Jones oresgyn y broblem honedig hon yn ddidrafferth trwy lunio stori ddigon gafaelgar i bontio unrhyw agendor.

Ar wahân i ambell eithriad prin, mae agendor truenus rhwng safonau'r perfformiadau Saesneg a'r rhai cymraeg.