Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

agor

agor

Wrth orwedd yn ei ymyl ar y gwely, a'r llenni ar agor i adael golau dydd i mewn, teimlai Hannah'n eiddigeddus o'i iechyd.

Yr hyn ddigwyddodd felly oedd i un mudiad sefydlu patrwm o fwydo babanod dan flwydd oed am ddeg o'r gloch ac eto am ddau o'r gloch bob dydd, tra bod mudiad gwahanol ym mhen arall y ddinas yn agor ei ddrysau i fwydo mamau, a neb ond mamau, am hanner dydd.

Ddydd Gwener, a hithau'n boeth, roedd y drysau a'r ffenestri ar agor ac mae'r brif fynedfa ar agor i ymwelwyr rhwng dau a chwech y prynhawn a rhwng saith ac wyth i dadau.

Uchafbwynt arall yn natblygiad yr Antur oedd agor eu siop - Siop Bryn Pistyll - ym mis Medi eleni.

Syr Julian Hodge yn agor Banc Masnachol Cymru.

Maent yn ei agor hefo cyllell, ac yn ei ail danio, ac i fyny'r rhaff â hwy, cyn gynted ag y gallent, a dyrna glec a thwrw mawr gan y cerrig yn rhowlio i lawr wyneb y graig.

'Tasa'r drws 'na'n agor rŵan, fedrach chi ddim cerddad allan drwyddo fo heb dynnu sylw hanner y byd.'

Chwiliwch am icon ClarisWorks a dwbl-gliciwch arno i'w agor.

Am gael gair efo Mr Rees cyn iddi agor, medda' fo." Does gen i ddim cystal trwyn a Snowt am stori, ond mae gen innau glust sy'n gwrando.

Mae hwn yn un o'r dyfeisiau cyfryngol mwyaf arwyddocaol yn Gymraeg ers agor S4C ar ddechrau'r 1980au, ac mae eisoes yn denu cannoedd o ymweliadau gan siaradwyr Cymraeg ledled y byd.

Mewn cyfrol fer o 116 tudalen y mae'n agor cil y drws ar fyd sydd, diolch i'r drefn, yn ddieithr i'r rhan fwyaf ohonom.

Yna safodd am eiliad â golwg feddylgar ar ei wyneb cyn troi yn ei ôl, agor drws y parlwr, rhoi'r golau ymlaen a chamu i'r ystafell.

Bu agor ar y Sul yn destun trafod yng Nghymru unwaith eto.

Wrth iddi agor ei llygaid gwelodd bod ei llofft yn llawn o fwg.

trigolion Lianaelhaeam dros gadw ysgol y pentref ar agor.

codwch fwyn gyfeillion I agor drws i ni.

Agor pwerdy Dinorwic.

Rhaid oedd i Enlli agor ei dillad a byseddodd y blismones hi drosti yn dra thrwsgl.

Panic llwyr--agor y drws i'r cefn, a fflame yn dringo i fyny'r llenni.

Esso yn agor y burfa olew gyntaf yn Hwlffordd.

Mae'r rhain yn denu trychfilod yn yr haf yn ogystal â'r Nico sydd yn agor pennau'r hadau i chwilio am fwyd.

Os na ddewch chi i agor y blydi drws y funud hon, rydw i'n mynd i'w gicio fo i lawr!" Ar sþn y fath awdurdod, trodd Morfudd ar ei sawdl, a phrysuro cyn gynted ag y cariai ei chrydcymalau hi yn ôl at y drws.

Rhuthrodd Stevens i agor bwlch o bedair ffrâm a chyrraedd 5 - 1.

Agor gwarchodfa adar Penclacwydd ger Llanelli.

Curais ar y drws, a chlos o ato o dan fy ambarel, a chlywed sŵn traed rhywun yn dod i'w agor.

Agor rhan o'r M4 ger Pen-y-bont.

Agor Coleg Harlech.

Disgynnodd yr ordd hefyd ar y ddaear wrth ei ymyl gan agor ffos ddofn fel archoll yn y pridd islaw.

'Bu (ei fam) agos allan o'i phwyll am lawer o wythnosau, gan godi bob awr o'r nos wedi claddu ei gŵr a'i dau fab, ac agor y ffenestr gan rhyw led-ddisgwyl eu gweled (ei gŵr a'i dau fab) yn dyfod adref o'r gwaith.

Yn olaf mae'r frenhines ei hun yn berson cwbl anghymwys i'r gwaith o agor estyniad y Llyfrgell gan ei bod yn greadures cwbl ddiddiwylliant -- un o philistiaid amlycaf Prydain.

Ni soniodd y tro hwnnw am Adar Rhiannon 'yn y perl gynteddoedd/sy'n agor ar yr hen anghofus for'.

Agor cronfa Clywedog a chychwyn adeiladu cronfa Llyn Brianne.

Heddiw mewn llawer ardal gwelir adeilad mawr ar agor i gynulliad bychan ar y Sul ac yna ar glo am weddill yr wythnos.

Roedd e'n gorwedd â'i wyneb i waered ac ar agor ar y llawr o dan y gadair.

Yn allweddol, cafwyd cwymp o £10,000 yn nifer y di-waith yng Nghymru rhwng agor y Cynulliad ym Mai 1999 a Hydref 2000.

Rhyfedd na fyddai teulu a gafodd gymaint o brofiad o hynny wedi dysgu'r wers honno ac wedi bod yn llai parod i agor ei ddrysau fel y gwnaed yr wythnos diwethaf.

Doedd dim bariau ar y ffenest ac roedd y drws ar agor.

Agor y draffordd M1.

Wrth agor yr iet, a throedio trwy'r stecs sy ym mhob adwy, maen clo ar waith y dydd oedd canfod ymysg olion mynd a dod ôl olaf y fuwch ddi-ras na ddychwelai mwy.

Agor canolfan haul Y Rhyl.

Gwelais fod yno gantîn wedi agor ac ychydig o giw yn casglu.

Agor chwareli Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog i ymwelwyr.

Yn anffodus roedd wedi cloi ond gan fy mod yn mynd i lawr allt tynnais yr allwedd o'r 'ignition' i'w agor.

Newydd gael pum munud o flaen amyn nhw mae o, wedi cael ei draed yn rhydd am y tro cyntaf ers cantoedd, plîs wneith hi agor y drws!

Mae'n cymryd amser mawr, gan eu bod yn dechrau gyda phwys o bowdr ac yn ei gynyddu fel y maent yn mynd ymlaen, nes o'r diwedd y maent yn penderfynu bod y graig wedi agor digon i gael ei phowdro i ddod allan.

Tan hynny, yr oeddwn i wedi bod dan yr argraff fy mod ar fy ngholled o fethu ag agor y drws arbennig hwn yn fy nheledu.

Tybed, a fyddai'r merched yn gallu agor y drysau angenrheidiol?

'Ac ella y byddwn ni'n agor y blanhigfa i'r cyhoedd, ychwanegodd Lleucu.

Y mae'n od fel y bydd drws cae%dig yn eich cymell i'w agor.

Hyd yma, y mae grwpiau o rieni sydd dros addysg Gymraeg yn troi at yr awdurdod i ddod o hyd i adeilad a staff i agor ysgol gyfrwng Cymraeg newydd.

Cwmni Ford yn agor ffatri yn Abertawe.

Un cysur sydd yna, nad oes unrhyw fwriad i ddathlu cychwyn go iawn y mileniwm gyda sbloet fel un y llynedd! A fydd yna ddim ail-agor y Dôm a thrio eto.

Mae Alison yn son am ferch syn dipyn o bishyn! Yn agor gyda sain gitars amrwd syn effeithiol ac ynan datblygu i fod yn eitha roci.

Byddai yntau'n sgrifennu i ddweud pryd y byddai'n cyrraedd (bys hanner awr wedi pump o Fangor gan amlaf), a byddai hi'n agor y ffenestri.

Y mae heddiw yn un o ddiwrnodau mawr holl hanes Cymru - y diwrnod y bydd y Frenhines yn agor yn swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol.

Ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi i Saunders Lewis draddodi'r ddarlith 'Tynged yr Iaith'. Agor gwaith dur Llanwern.17 yn marw o'r frech wen yn Ne Cymru.

Agor gwaith glo brig Betws, Rhydaman.

(Mae'n agor drws ei llofft ei hun a mynd i mewn.) Fy ystafell i yw hon.

Yn crynu ac yn chwys i gyd, mi edryches lan, a dyna lle'r oedd mistir yn hongian wrth drawst, a'i dafod allan a'i ddau lygad ar agor yn rhythu arna i.

"Mi weles i e'n mynd drwy'r clos pan o'wn i'n dod allan o'r tylcie moch, a sgidie tŷ am ei draed e a'i got ar agor yn hedfan

'Roedd yr hyn ddigwyddodd wedyn fel ffars Brian Rix; nhad yn neidio o'i wely, y tŷ'n ysgwyd, drws ystafell gysgu mam a nhad yn agor a chau, drws ystafell gysgu ni yn agor, yr ystafell fel bedd, Wili a Glyn yn y gwely mawr yn cuddio o dan y blancedi a finna yn y gwely bach un lygad ar agor yn gwylio'r digwyddiadau, a gweld nhad un llaw yn dal y 'long johns' i fyny a belt yn y llaw arall yn colbio'r gwely.

Cynnal y Refferendwm cyntaf i benderfynu a ddylid agor tafarndai ar y Sul yng Nghymru.

Mae'n agor yn Uffern, a'r llu cythreuliaid yn trafod Cymru o flaen Beelzebub.

Darlledu yn dod i Gymru ar ôl agor Gorsaf 5WA yng Nghaerdydd.

Symudwyd hi i Lanbedr Pont Steffan yn y ganrif ddiwethaf ar ol agor gorsaf reilffordd.

Rhedodd tri neu bedwar o ddynion o'r cysgod ac wedi diffodd y peiriannau aeth y peilat o'i sedd ac agor y drws a neidio allan.

Agor gorsaf radio annibynnol gyntaf Cymru, Sain Abertawe.

Yn y gwanwyn mae'r blagur yn chwyddo ac yn agor i orchuddio'r goeden a chanopi o ddail.

Roedd unrhyw dir llygredig i fod yn ddiogel cyn i'r parc gael ei agor.

Wedi cnocio'r drws eto, dyma fo'n ei agor ac yn gweld bod bync Douglas yn wag.

Bu bron iddo â mygu wedi i Marie agor y drws a'i arwain drwyddo.

Wedi bod ar y môr ers wyth mlynedd ar hugain, meddai, ac yr oedd yn fêt ar un o'r llongau cyntaf i fynd drwy'r Suez Canol ar ôl i'r culfor hwnnw gael ei agor chwe blynedd yn ôl, ac yr oedd yr hen forwr yn ddisgrifiwr byw.

Tra oedd eu mam yn dweud wrth Iona am fynd i eistedd at y ffenestr ac yn gwneud i Rolant agor y ffenestr er mwyn iddi gael mwy o wynt, edrychodd y pump ar ei gilydd.

Diwrnod agor trydydd adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Defnyddiwch gymaint o Gymraeg ag sy'n bosibl wrth gadeirio, e.e. wrth agor a chau'r cyfarfod, wrth ofyn am sylwadau, wrth fynd drwy'r agenda.

Agor rhan o'r M4, y draffordd drefol gyntaf ym Mhrydain, i osgoi Port Talbot.

AGOR RHAGOR O ANRHEGION - Norman Closs Parry

Mae'n eu bodio, yn eu troi drosodd, yna mae'n rhoi cynnig ar agor y bag creision.

Dim ond ar ôl oriau o aros, o obeithio ac o syrffedu y bydd drysau'r cysegr sancteiddiolaf yn agor, ac y daw'r arweinwyr allan i geisio argyhoeddi cynulleidfa o siniciaid proffesiynol fod rhywbeth o dragwyddol bwys wedi ei gyflawni.

O'r diwedd, mae'r bag yn clecian agor ac mae'r creision yn tasgu i bob man.

Ni chawsom yr un driniaeth, er bod yn rhaid i ni agor cist y car a dangos pob llyfr oedd gennym.

Agor gorsaf niwcliar Trawsfynydd.

Llusgodd Dilwyn ei hun o'r cefn wrth i'w fam agor y drws.

Dyna'r ffordd orau i ddal cathod gan eu bod nhw mor hoff o browla yn y tywyllwch." Gwyddai pob un ohonynt fod Wyn wedi deffro o'r diwedd, a'i fod cystal â neb am ddefnyddio'i ddychymyg ar ôl iddo agor ei lygaid yn iawn.

Y mae cyfandir mawr yn agor o'n blaen.

Roedd - - yn pryderu fod drysau yn agor yn Lloegr i gwmniau annibynnol nad ydynt yn agor yng Nghymru ac fod tan-gapitaleiddio yn mynd ymlaen yn y sector oherwydd Ffioedd Rheoli isel.

Bu'r flwyddyn a aeth heibio yn un gofiadwy i genedl y Cymry: agor y Cynulliad Cenedlaethol a, llai na deuddeg mis wedyn, ymddiswyddiad dramatig y Prif Ysgrifennydd Alun Michael; y gêm agoriadol yn Stadiwm y Mileniwm ac, wrth gwrs, Cwpan Rygbi'r Byd a drodd Caerdydd yn un parti mawr ar ddiwrnod y gêm derfynol.

Agor y Cynulliad yng Nghaerdydd.

Ond nid oherwydd y bygythiad, yn gymaint ag oherwydd cyfoeth operatig y llais yr ufuddhaodd hi yn y bôn, a chyn agor y drws, trodd ei phen i roi cip arni ei hun yn y drych ar y silff ben tân.

Roedd y postman wedi bod, a Mam, ar ben y bwrdd, newydd dynnu llythyr o'r amlen a'i agor ar y lliain ar fwriad o'i ddarllen.

iii) Cofiwch gau un dror cyn agor un arall.

O agor hwn gwelwn fod anrhegion prin ynddo i'n cario drwy'r heth a'r hirlwm nes bydd Mawrth arall ar y gorwel ...

Maen arwydd eithaf trist on hamserau i gymaint o bobol ruthro i agor neges yn dweud hynny oddi wrth rywun cwbwl ddieithr.

Agor ambell i anrheg gan Mam a Dad.

ITV yn agor yn Llundain.

Pan fydd ein llygaid ar agor, gwelwn bethau oherwydd eu bod yn adlewyrchu goleuni, a'r goleuni adlewyrch sy'n dod i mewn i'n llygaid.

Agor amgueddfa Sain Ffagan.

Ers iddi agor, bu+m yn awchu am gael gweld Amgueddfa'r Pack Age yng Nghaerloyw.

Cafodd fwy o drafferth i agor y llidiart.

Ac mae hi yn fy mhoeni i bod yr angen i newid y drefn lywodraethol o'r gwaelod i fyny yn dechrau cael ei anghofio ar ein crwsâd i agor yr adeilad newydd hwnnw yng Nghaerdydd.