Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

agoriadol

agoriadol

Sgoriodd Matthew Elliott 62 i Forgannwg - sgôr uchaf y batiad, ac yn ystod y prynhawn fe gafodd y batiwr agoriadol o Awstralia ei gap gan Matthew Maynard.

At Fethesda y cyfeirir yn y cwpled agoriadol, wrth gwrs, a'r olygfa a gyflwynir ynddo yw honno o chwarel lechi Y Penrhyn yn un graith enfawr ar wyneb y mynydd, yn bonciau a thomennydd ar draws y lle ymhob man.

Rhoir natur y llanc inni, yn gryno a chytbwys, yn y llinell agoriadol, gyda'r gair 'oer' yn yr esgyll yn wrthgyferbyniad didostur i'r 'twymgalon'.

Un o nodweddion bywyd Cymru ym mlynyddoedd agoriadol y ganrif oedd y dyheu cyffredinol am ddeffroad ysbrydol.

Mae'n anodd heddiw deall pa mor chwyldroadol oedd y Stryd pan gychwynnodd: cyfres am bobl gyffredin o'r dosbarth gweithiol yng ngogledd Lloegr gyda cherddoriaeth agoriadol ddigalon.

Roedd on anlwcus i weld ei ergyd on mynd heibior postyn yn y munudau agoriadol.

Bu'r flwyddyn a aeth heibio yn un gofiadwy i genedl y Cymry: agor y Cynulliad Cenedlaethol a, llai na deuddeg mis wedyn, ymddiswyddiad dramatig y Prif Ysgrifennydd Alun Michael; y gêm agoriadol yn Stadiwm y Mileniwm ac, wrth gwrs, Cwpan Rygbi'r Byd a drodd Caerdydd yn un parti mawr ar ddiwrnod y gêm derfynol.

Byddaf yn clywed hefyd gri'r gylfinir yn y rhan agoriadol o'i wythfed symffoni.

Fe fethon nhw ag ennill un gêm yn rowndiau agoriadol y gystadleuaeth am y tro cynta ers 1986.

Mae ymrwymiad y darlledwr i newyddion yn parhau i fod yr un mor gadarn ag erioed (ystafell newyddion BBC Cymru yw'r ail fwyaf y tu allan i Lundain) a gweddnewidiwyd y ddwy brif raglen newyddion teledu, Wales Today a Newyddion, gyda set stiwdio newydd, teitlau agoriadol a cherddoriaeth newydd sbon.

Ar ôl colli yn eu gemau agoriadol, llwyddodd Llanelli a Chaerdydd i ennill.

Yn syml mae Connect dipyn yn drymach na'r trac agoriadol, ac yn fwy nodweddiadol o'r Gwacs.

Sweden a Twrci, a gollodd eu gemau agoriadol yng Ngrwp B syn chwarae heno.

Mae'r portread agoriadol o gyflwr Cymru'n rhoi cyfle i Derfel bardduo'i elynion, trwy sylwadau'r cythreuliaid, er enghraifft, ar y cyfoethogion (t.

O'r diwedd gwnaed y tasgau olaf ac roedd yr eglwys hardd yn barod ar gyfer y gwasanaeth agoriadol.

Mae Lloegr wedi cael cychwyn da yn nwy awr agoriadol y prawf cynta yn erbyn Pakistan yn Lahore.

Efallai bod rhai gwleidyddion, gohebwyr, gwylwyr a gwrandawyr wedi diflasu ar etholiadau'n gyffredinnol eleni, ond roedd ansawdd yr apêl agoriadol yn yr ornest Ewropeaidd yn druenus.

Yn y teyrngedau a dalwyd iddo ar ôl ei farw dywedwyd llawer, fel yn rhan agoriadol yr ysgrif hon, am ei anwyldeb a'i agosatrwydd.

Ond yn y bennod yma ein pwrpas yw ymdrin â'r 'agwedd' gyntaf o'r gêm - sef y symudiadau agoriadol.

Roedd o'n anlwcus i weld ei ergyd o'n mynd heibio'r postyn yn y munudau agoriadol.

Fe fydd y darllediadau'n cychwyn nos Wener Hydref 1 gydag uchafbwyntiau gêm agoriadol Cymru yn erbyn Yr Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.

Ond fel y dengys y darn agoriadol hwn o'r nofel, mae'r mab yn mynd yno'n llawn gobaith...

Daeth y noson agoriadol i ben gydag un arall o gantorion dwyrain Ewrop, Klaudia Dernerova, soprano o Slovakia.

Fe ddechreua Just Enough Education to Perform yn yr un modd yn union â'r albym flaenorol, wrth i'r gerddoriaeth gynyddu'n raddol nes ffrwydro tua munud wedi i'r trac agoriadol, Vegas Two Times, ddechrau; ond yr hyn sy'n fy nharo i wedi'r ffrwydrad hwn yw pa mor debyg i gerddoriaeth Aerosmith yw'r gân yma.

Gellir ymgorffori perfformiad yr Artist neu ran ohono mewn Dilyniant Agoriadol neu Ddilyniant Cloi neu i Raglen arall yn yr un gyfres fel Cip-yn-ol neu Gip-ymlaen drwy dalu tal ychwanegol (gwweler Atodlen A).

Gwahoddwyd nifer dda o bobl i'r seremoni agoriadol yn cynnwys Maer Aberconwy, Cynghorydd R.

Yn ei bennod agoriadol i'w Iyfr enwog Williams Pantycelyn, y mae Saunders Lewis yn darlunio'i wrthrych fel gwr digymdeithas.

Noder ymhellach nad oedd y dyn yn helpu i wneud bwyd nac yn helpu i lanhau'r tŷ: cerdded y mynydd y mae Morgan yn 'Buddugoliaeth Alaw Jim' nid cynorthwyo'i wraig er bod Tomi'r crwt wedi bod yn beryglus o dost; mynd 'i ben y drws i synfyfyrio' y mae Wat Watcyn yn 'Diwrnod i'r Brenin,' a mynd yno i 'ddisgwyl am ei frecwast' er bod y dyddiau i gyd yn wag iddo; a beth a wna Idris yn rhan agoriadol 'Gorymdaith' ond gorwedd ar ei wely?

Mae Bwrdd Criced De Affrica wedi cyhoeddi na fydd y batiwr agoriadol Herschelle Gibbs yn y garfan ar gyfer y daith i Sri Lanka fis nesa ar ôl i Gibbs gyfaddef ei fod o wedi derbyn cynnig o $15,000 gan ei gapten Hansi Cronje i sgorio llai nag ugain o rediadau mewn gem undydd yn India.

Mae Cymru wedi ennill eu gêm agoriadol yng nghystadleuaeth rygbi 7-bob-ochr Hong Kong.

Dechreua'r trac agoriadol gyda swn dwr yn llifo ac mae'n agoriad effeithiol i'r gân Dysgu Nofio - un o uchafbwyntiau Clockwork.

Colli yn ei gêm agoriadol yng ngystadleuaeth y Cwpan Intertoto wnaeth Cwmbran ddoe.

Yr anerchiad pwysicaf, fodd bynnag, oedd un Saunders Lewis yn y cyfarfod agoriadol ar "Egwyddorion Cenedlaetholdeb" a gyhoeddwyd yn ddiweddarach fel pamffledyn cyntaf y Blaid.

Mae pob rhaglen yn awr â brand adnabod y BBC i'w weld yn y teitlau agoriadol.

Bur flwyddyn a aeth heibio yn un gofiadwy i genedl y Cymry: agor y Cynulliad Cenedlaethol a, llai na deuddeg mis wedyn, ymddiswyddiad dramatig y Prif Ysgrifennydd Alun Michael; y gêm agoriadol yn Stadiwm y Mileniwm ac, wrth gwrs, Cwpan Rygbir Byd a drodd Caerdydd yn un parti mawr ar ddiwrnod y gêm derfynol.

Yn y gêm agoriadol ar Gwrt Rhif Un bydd Martina Hingis yn wynebu Angeles Montolio.