Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

agosach

agosach

Ac yn raddol, fel y datblygai'r ddealltwriaeth hon, aeth yn agosach at y pwynt lle gallai droi'n ôl at ei brofiad cynnar, a'r bywyd clos, cyflawn, yr oedd yn ei weld erbyn hyn trwy lygad plentyn a llygad dyn.

"Ond cofia," ychwanegodd, "mi fydd yn rhaid i ti roi cweir i un o'r hogia cyn y cei di lonydd ganddyn nhw." Er cased gen i glywed y newydd hwn ganddo, sylwn gyda boddhad ei fod wedi newid y "chi% bell i'r "ti% agosach ac anwylach.

Rhaid croesi Bwlch Maloggia (Maloja) dros ugain milltir i ffwrdd ym mhen uchaf y dyffryn, i gyrraedd Chiavenna a Milan ond nid yw'r ffordd fawr yn gorfod ymdrechu yr ochr yma i'r bwlch hwnnw, dim ond dilyn cwrs Afon En (yr Inn yn Awstria) ar ei thaith dros y dolydd eang ac, yn agosach i'w tharddiad, trwy gyfres o lynnau mawr heb eu hafal.

ch) Siarad am CYD mewn cyfarfodydd o ganghennau Merched y Wawr a chymdeithasau eraill er mwyn creu cysylltiad agosach rhwng Cymry Cymraeg a dysgwyr.

Dymuniad y pâr oedd i rywun gymryd gofal o'r ty tan y bydden nhw'n ymddeol, ac awgrymodd Myrddin y bydde Aurona a finne'n barod i 'neud--neidio am y cyfle fydde'n agosach at y gwir.

Derbyniwyd dirprwyaeth o Bwyllgor y Maes Chwarae a chytunwyd mewn egwyddor a'r cais a gyflwynwyd ynglŷn a'r manteision o gael cydweithrediad agosach a'r Cyngor.

'Ers lawer dydd, pan oedd y Llydawyr yn feistri ar eu gwlad eu hunain, yr oedd cysylltiadau llawer agosach rhyngddynt a Sbaen.

Teimlai Vera'n agosach ato ef nag y gwnâi at eraill y gweithiau iddynt; roedd hi'n gartrefol ac yn gysurus yn ei gwmni, ac er nad oedd hi'n un i hel clecs, roedd Edward Morgan wastad yn barod am sgwrs ac ni fyddai, fel y rhan fwyaf o'i chyflogwyr, yn siarad byth a beunydd am ei hunan.

Ac er iddyn nhw dynnu'n agosach gyda gôl gosb arall, gyda rhediad athrylithgar gan Arwel Thomas - ailagorodd Cymru'r bwlch - y maswr yn ad-dalu ffydd Graham Henry ynddo mewn un symudiad.