Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

agosaf

agosaf

Fe'i sadiodd ei hun, ac wedi sticio'r fforc yn y glun agosaf ato, chwiliodd â'r gyllell am y cymal cyntaf.

Mewn gwirionedd, dyma'r peth agosaf a gawsom erioed at gyfundrefn addysg genedlaethol Gymraeg.

Droeon eraill buasai gennyf i a'm cyfeillion agosaf gynllun cyfrinachol ar y gweill.

Gan mae dyma'r cynghorau sydd agosaf at y bobl a'r cymunedau, mewn sawl ystyr, gallant baratoi awgrymiadau ar sut i ddiogelu ac i hyrwyddo iaith Gymraeg ar y lefel mwyaf sylfaenol e.e.

Bydd tocyn record punt i'r ateb agosaf.

Darganfu seryddwyr, wrth ddefnyddio telesgopau grymus, mai'r seren ddis- glair agosaf wedi'r haul yw Alffa Centawrws, a bod y goleuni oddi ar ei hwyneb yn cymryd dros bedair blynedd i gyrraedd atom.

Ar yr ochr agosaf o'r saith safai porth mawr sgwâr gyda phâr o dyrau main, isel wrth yr ystlysau.

Ond gwyr y Cymry fod y gelyn yn fyddar yn y glust agosaf ato.

O ran yn unig, mi gredaf, y gall dyn ddechrau deall am y Creu; oblegid y mae'r gamfa olaf un byth bythoedd hed ei dringo a hynny am y rheswm syml ei bod yn symud ymhellach o'n cyrraedd po agosaf y meddyliwn ein bod a'n troed arni.

Fel arweinydd y Cuban American Foundation, MasCanosa yw'r dylanwad pwysicaf ar bolisi yr Unol Daleithiau tuag at Cuba, ac un o'i gydweithwyr agosaf yw mab yr Arlywydd George Bush.

Senedd Ewrop yw'r un agosaf a chyn hir iawn mater pwysig etholiad cynghorwyr i'r Ynys Mon newydd.

Daeth y llais o'r tu ôl i'r milwyr, o gysgod y tryc agosaf, mor sydyn ac mor annisgwyl fel y safodd pawb yn ei unfan yn fud ar amrantiad.

I mi, merch yw'r un a gyferchir yn y penillion ac ol-athronyddu methiant carwriaeth yw'r cynnwys, sef ceisio dadansoddi'r gyfathrach agosaf a mwyaf personol a all ddigwydd rhwng mab a merch.

Ac wrth gwrs, Iran, Afghanistan a Pakistan yw'r cymdogion agosaf yn y rhan yma o ganolbarth Asia - gwleydd Moslemaidd bob un.

Bydd hi'n fraint i gael gwrthod talu, dros y ddau ymgyrch hawliau sifil agosaf at fy nghalon.

Talfan oedd fy ngelyn pennaf ond fe'i parchwn o'n fwy nag y parchwn yr un o'm cyfeillion agosaf.

Y mae'r Ysgol Feithrin agosaf yn Nhrelewis yr ochr draw i Lyn Ogwr (Ogmore Vale) o Nant-y-moel a mynychir hi gan ddyrnaid bach o blant oddi yno.

trillwyn ucha oedd y lle agosaf ond ni wyddai 'r un o 'r tri a oedd yno deleffon.

Faint o'r werin hon sydd heddiw yn derbyn 'propaganda' toreithiol y cyfryngau (ac yn hyn o beth mae Radio a BBC Cymru wedi bod ar eu huchelfannau) sydd yn barod i grogi ei harweinydd Arthur Scargill o'r 'Gibbett' agosaf?

Gwelir mai amonia yw'r agosaf, o ran ei briodweddau, at ddwr, ond ni fyddai hwn yn addas oherwydd ei fod yn hylif ar dymheredd rhy ise.

Sgriblo pentwr o lythyrau, symud gwartheg a defaid i gaeau ffres a chasglu'r buchod sydd agosaf at eni lloi i'r cae ger y buarth.

O dan y ffurfafen yr oedd adenydd pob un wedi eu lledu nes cyffwrdd â rhai'r agosaf ato, ac yr oedd gan bob un ohonynt ddwy i guddio'i gorff.

heb betruso dim dringodd yn eon i ganol canghennau agosaf yr helygen, ac oddi yno fe 'i gollyngodd ei hun i lawr nes cael ei ddwy ar y gangen fawr uwchben y dyfroedd gwyllt gwyllt paid a bod yn ffŵl ^ l, ffred, gwaeddodd wil arno arno mae 'r afon 'na 'n ddofn cofia !

Mae ei ymddygiad dirwestol a chyfiawn yn gosod Robert Pugh y Trawscoed - ei gymydog agosaf - yn y cysgod gydol y nofel o ran synnwyr cyfiawnder a phob dim arall.

Ynddo roedd nodyn yn ymddiheuro am "fenthyca'r car" ac unrhyw drafferth a achoswyd o ganlyniad, ond roedd cariad y gūr a sgrifennodd y nodyn wedi ei tharo'n wael ac yntau wedi gorfod ei rhuthro i'r ysbyty yn y car agosaf.

Eithr y mae'n amlwg nad oedd hyd yn oed disgyblion agosaf Iesu yn barod i fentro gydag ef yr holl ffordd ar y dulliau eraill - dulliau'r deyrnas, dulliau'r rhai addfwyn, y rhai pur o galon, y tangnefeddwyr, y dulliau y gellir eu galw, yn eu gwedd negyddol, yn 'ddulliau di-drais'.

Yn y sêt agosaf, oddi tano, yr oedd dynas ieuanc, ac yn nhalcen y sêt wrth ei ochr eisteddai dyn ieuanc.

(Gweler y Nodiadau isod) ii) Os yw'r ddamwain yn fwy difrifol ac os nad oes modd ymdrin â hi yn y gwaith yna fe/ ddylai'r aelod o'r staff fynd ar unwaith i Adran Ddamweiniau yr ysbyty agosaf.

Mae'n rhyfedd meddwl hyn, ond petawn i wedi penderfynu mynd yn dwrne, neu yn athro, neu yn ocsiwni%ar, mae'n debyg mai'r peth agosaf i ysbryd y buaswn i wedi'i weld fuasai'r cipolwg achlysurol yma ar Miss Jones Bach ar Stryd Fawr y Blaenau am hanner nos.

Neilltuwyd rhan arall o'r iard ar gyfer trigolion y stryd agosaf.

Doedd neb ar fwrdd y British Monarch wedi gweld llong arall ers oriau maith, ac roedd y tir agosaf fil o filltiroedd i ffwrdd!

Oherwydd hynny trefnwyd imi gael mynd i 'Gapel Cymraeg' y ddinas agosaf.

Yna camodd ymlaen a fflachio'r golau ar y gilfach agosaf ato yn y mur.

Ni chadwodd ddyddiadur, ni sgrifennodd ddim am ei waith, ac roedd mor ddi-sôn-amdano'i-hun fel mai ychydig iawn o'i gyfeillion agosaf hyd yn oed a wyddai gymaint a gyflawnodd yn ei luniau.

Gwahanol hefyd yw ei hoff gyrchfannau diwydiannol - hen chwareli sy'n mynd â'i fryd yn hytrach na phyllau glo, er mai'r rheiny oedd agosaf ato yn ystod ei fagwraeth yng Nghaerdydd.

'Roeddwn eisiau gweld y pridd yn disgyn o'r rhaw ar ben yr arch er mwyn anghofio'r holl hanes erchyll am byth." "Ond wnaeth hynny ddim digwydd?" gofynnodd y cyfaill agosaf ataf gan ail lenwi'r gwydryn.

b) Unwaith y mae'r holl staff/ymwelwyr wedi dod allan yn ddiogel o'r adeilad, mae'n rhaid hysbysu'r Heddlu a'r Frigad Dân ar unwaith yn y modd diogelaf agosaf.

Mewn gwirionedd mae'n eithaf posibl mai'r ddalen o'r eiddynt yn y gyfrol hon yw'r agosaf y deuant byth i anfarwoldeb, o du'r ddaear beth bynnag.

Mae'r gwasanaeth yn un gwerthfawr, yn arbennig i drigolion gwledig sy'n hen neu'n wael ac yn anabl i deithio i'r llyfrgell agosaf.

Wrth gyfiawnhau cynnwys clychau gwartheg yn symudiad araf ei Chweched Symffoni, mynnodd Mahler mai dyna'r sŵn dynol agosaf oll at yr awyr a'r unigeddau.

Rhuodd y ci agosaf ati gan symud yn nes.

Rhaid oedd pasio'r wyrcws i fynd i'r ysgol, ar hyd llwybr trwy'r cae agosaf at y muriau uchel nes cyrraedd y ffordd fawr.

Mae'n anodd i wleidyddion, mae'n anodd i academyddion, ond mae'n anos i lenorion gan y gall dewis sgrifennu yn yr iaith sydd agosaf at eich calon olygu aberth mawr, aberth ariannol wrth gwrs, ond aberth llawer dyfnach ei arwyddocad hefyd.