Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

aiff

aiff

Ond yn wir meddaf i chwi, er y diwrnod hwnnw, fe gymer y gŵr cyfoethog sylw manwl o'r wraig dlawd, ac efe a aiff heibio iddi gyda gofal.

I Ankst, mae delwedd y cynnyrch a aiff i'r siopau yn bwysig; dyna pam y maent yn mynnu cael cloriau lliw llawn, yn y gred bod rhaid apelio at y llygad yn ogystal â'r glust.

Y gwrthdaro rhwng y grefydd sefydledig a 'zel danbaid' y methodistiaid yw cefndir Merch y Sgweiar Bobi Jones a ymddangosodd yn Barn, gyda'i phortread byw o Theophilus Evans, ac aiff Elwyn L.

Os aiff y trosglwyddiad yn ei flaen, ac y maen 'os' go fawr, yn ôl cyn-golwr Cymru, Dai Davies.

"Dos di yn syth i nôl Cymro, ac i ddweud yr hanes am Dad wrth Mr Bassett, Idris," meddai Cadi, "ac fe aiff Deio a minnau i'r tŷ i gynnau tân ac i hwylio swper." "O'r gore," meddai Idris, ac i ffwrdd ag ef.

Os aiff bwrlwm y maes yn drech na chi yn ystod yr þyl, mae gwaredigaeth wrth law.

Aiff y ddwy, y naill i Gwm Irfon a'r llall i Gwm Elan, â chi i olwg sawl lle o ddiddordeb hanesyddol neu chwedlonol.

Ac i ffwrdd i haf arall tua'r de yr aiff adar fel y wennol a'r gôg.

Fel y mae yn ymbellhau oddi wrth y set deledu aiff y sain i lawr.

Does wybod i ba gyfeiriad yr aiff yr hogyn amryddawn hwn yn y dyfodol.

Yn anffodus, os oes pellter rhy faith rhwng y trawsyrrydd a'r derbynnydd yn y rhwydwaith ffôn collir gormod o oleuni ar hyd y ffibr ac aiff y neges ar goll.

Yn unol ag athroniaeth Tebbit, aiff June - merch Mona a mam ddi-briod - ar gefn ei beic i Birmingham am gyfweliad ar gyfer joban croesawraig gyda'r cynllun Youth Opportunity.

Os ceir y dyfarniad terfynol yn Lwcsembwrg þ ac rwy'n hyderus yr aiff Cyngor Gwynedd â'r mater i'r eithaf Ewropeaidd, os bydd raid þ bydd y dyfarniad hwnnw'n un tyngedfennol i'n dyfodol ni fel Cymry.

Mi gafodd rhai eu colbio ar gam." "Pwy oeddan nhw felly?" "Mae hi'n gyfrinach aiff hefo fi i'r fynwant.

(Yn ystod yr uchod, aiff LIWSI i fyny'r grisiau.

Os am ymlacio'n llwyr, gan ddianc yn gyfangwbl o reolaeth y byd o'i chwmpas, aiff Judith o dan y tonnau gwyllt.

Aiff y broses o ad-feddiannu yn ei blaen bellach: daw'r Rex yn slei bach yn fan ymarfer ar gyfer y drymiwr, sy'n cadw Tref yn effro yn ystod y nos, ac aelodau eraill pyncaidd ei grŵp; yn garej ar gyfer motobeic Dave na all fforddio talu'r drwydded ar ei gyfer; ac yn ganolfan gymdeithasol ar gyfer hen ferched y cartref lle cant eu suo i gysgu o flaen y teledu ddydd a nos.

Pan ddywed rhywun y geiriau "Llên Gwerin", fel arfer, fe aiff ein meddyliau i gyfeiriad ers talwm: daw i gof hen chwedlau, hen ddywediadau a hen gredoau, a teg yw dweud hefyd, yn nhyb y mwyafrif llethol o bobl, mai perthyn i'r gorffennol mae pethau llên gwerin hefyd, sef coblynod, tylwyth teg, cewri ac yn y blaen.

'Aiff e ddim i ffwrdd.

Dyma un o'r bobl brin hynny sydd â naws heddychlon yn ei chwmpasu ble bynnag yr aiff.

Aiff pethau o chwith: dyma ddifetha'r holl gnwd am ei bod yn rhy boeth iddynt dan ddaear.

Does 'na ddim smic mewn theatr os ydy'r gynulleidfa'n mwynhau eu hunain - ond os nad ydyn nhw, mae nhw'n rhyw wingo yn eu seddau ac yn pesychu,' ac er ei bod yn cael budd mawr o drafod yr amrywiol gymeriadau y mae'r cyfarwyddwr yn eu hanfon ei ffordd hi gyda'i chyd-actorion, aiff Judith yn ôl at ei greddfau ei hun er mwyn mynd dan groen y cymeriad.

Ac mae'r ffaith ein bod yn cael ein cystuddio heb beint neu ddau yn waeth na criwelti to animals, a does i ni ond un bai, ac mae hwnnw mor fychan fe aiff i mewn i las peint.

Aiff Trefor a'i dri mab gartref at eu mam, Nia, a'i hail ŵr, Dave: lleolir eu tŷ mewn rhes o dai ar fryn serth sy'n anelu am i lawr; mae Dave yn ddi-waith a dygir y fideo a'r soffa oddi arnynt fesul un.

Yn enwedig os aiff o i drafod y canlyniad efo Steve neu os bydd o wedi digwydd taro ar un o griw'r Afr am sgwrs.'