Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ailadrodd

ailadrodd

Gellir ailadrodd brawddeg o ragair Brad sy'n dweud 'nad hanes yw drama hanes eithr gwaith creadigol; dychmygol yn y pen draw yw'r holl gymeriadau.'

"Ddim hyd yma, neu fuaswn i byth wedi mentro ailadrodd yr holl stori wrthych chi heno." "'Rydym yn ffodus ein bod ni wedi gofalu am gaban," meddai fy ngwraig wrth i'r llong symud oddi wrth y cei yn Dover am un o'r gloch y bore.

Rhaid galw am bêl newydd fel na yr anlwc ei ailadrodd.

O reidrwydd ceir mynych ailadrodd, ac mae'r golygydd ei hun hefyd yn trafod y cerddi hyn.

Mae angen ailadrodd hanes yr ymgyrchoedd cenedlaethol.

Efallai fod yna gynhyrchwyr annibynnol yng Ngwynedd sy'n cofio ymadrodd Marx am hanes yn ei ailadrodd ei hun, y tro cyntaf fel trasiedi, yr eildro fel ffars.

Mae ailadrodd y gair "Dacw% yn diogelu'r pwyslais gwrthrychol ar yr hyn yw Crist ond y mae'n ei briodi'n gelfydd iawn â'r pwyslais ar ystyr y gwaith gwrthrychol i'n bywyd goddrychol ni,

Trwy ailadrodd y symudiadau o Lyn ddwy genhedlaeth yn ddiweddarach ym mherson Jane, mae Kate Roberts wedi creu argraff o newid parhaol, o gymdeithas ddiwydiannol newydd yn cael ei ffurfio trwy symudiadau pobl.

Mae adleisio seiniol brudd yn y llinell gyntaf yn ein paratoi ni'n bwysleisiol ar gyfer y patrwm cynnar: fe'i dilynir gan ng-n...ng...n ac yna gan ailadrodd ingol 'nid dy golli di' sy'n ateb yn union.

Eto, a dychwelyd at soned VI, y mae'r ailadrodd cystrawennol ar ddechrau'r llinellau cyflythrennol hyn.

Eisteddai'r plant mewn cylchoedd, yn ailadrodd sloganau:

Wedyn dyna ailadrodd yr un gosodiad, yn fwy grymus: diddim a mud yn y gofod yw 'holl drybestod dyn a byd'.

Hanes yn ei ailadrodd ei hun unwaith eto!

Rydych chi'n gynulleidfa rhy barchus i fi fentro ailadrodd rhai o'r storiau a'r dywediadau carlamus a oedd yn cylchredeg ar y pryd.

Gobaith Robert Croft yw y gall Morgannwg ailadrodd camp llynedd a chyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth.

Felly yr oedd dyfodiad y Gair yn gnawd dynol yn cyhoeddi fod Duw yn ailadrodd proses y creu.

Yn Gymraeg (ac yr oedd hynny yn syndod pleserus) ac yn Saesneg bob yn ail yr oedd y cyhoeddwyr yn mynnu ailadrodd eu neges drosodd a throsodd a throsodd a throsodd nid yn unig am chwarter awr a mwy cyn i bob tren gyrraedd ond, yn achos un tren, yn parhau ar cyhoeddiad fod y tren ar fîn cyrraedd hyd yn oed ar ôl iddi adael a pharhau ar ei thaith.

Defnyddir graffeg a fydd yn gyfrwng i'r disgyblion ryngweithio ac ailadrodd ar orchymyn y tywyswyr'. Y tywyswyr' fydd yn llywio'r rhaglenni trwy leisio'r patrymau iaith a'r eirfa yn y Gymraeg.

Nid oes angen ailadrodd eu hanes yma felly, ond rhaid pwysleisio un agwedd o'r gyfundrefn ddieflig a greodd gymaint o greulondeb a thristwch i filoedd o'r rhai a alltudiwyd.

Ac y mae'r ailadrodd ar 'hen' yn wirioneddol afaelgar.

Fe eisteddai'r plant mewn cylchoedd yn ailadrodd sloganau.

Wrth gwrs, y mae geiriaduron beiblaidd yn ailadrodd ei gilydd - wedi'r cwbl, nid oes llawer o le i wreiddioldeb wrth sylwi, dyweder, ar Jathniel neu Merathaim.

Mae'n gorfod ei ailadrodd ei hun o hyd; cyfyng yw'r iaith sy'n medru dirnad yr Anfeidrol.

Drwy ailadrodd y broses o restru yn ôl pellter teithio, ac atgenhedlu'n rhywiol y genhedlaeth nesaf, ceir esblygiad o 'DNA' sy'n cynrychioli'r llwybr byrraf rhwng y chwe phentref.

Mae'r hanes yn rhy wybyddus ac yn rhy drist i'w ailadrodd.

Wrth ailadrodd y gair 'pechod' yn ei 'Lythyr' yr oedd Saunders Lewis yn dangos yn glir ei fod yn ymwrthod â rhyw foesoldeb cysetlyd, arwynebol, ond yn Žedu yng ngrym moesol llenyddiaeth yn ystyr ehangaf a dyfnaf y gair 'moesol': h.y., yn gwrthod llenyddiaeth foeswersol, ond yn derbyn llenyddiaeth yr oedd ei harwyddocâd sylfaenol yn foesol.

Puleston Jones o Glasgow i Rydychen gydag OM Edwards, ac y mae'n werth ailadrodd ei eiriau ef wrth sôn am Gymdeithas Dafydd ap Gwilym.