Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

albwm

albwm

Wedi llwyddiant ysgubol eu hail albwm International Velvet a chaneuon fel Mulder and Scully, Road Rage a Strange Glue, roedd y cyngerdd hwn yn cael ei gynnal wedi iddynt ryddhau eu trydedd albwm Equally Cursed and Blessed, nad oedd yn fy marn i mor drawiadol ag International Velvet.

Dros y blynyddoedd mae John Griffiths a Kevs Ford wedi cydweithio gyda Datblygu, Ty Gwydr, Tystion ac Anweledig a nifer o artistiaid eraill ac yn yr albwm newydd mae cyfraniadau gan Lauren Bentham, Geraint Jarman, Sian James, Gai T, Ceri C, Jaffa ac MC Sleifar.

Mae cyfraniad Harvinder Sangha - a gyfrannodd hefyd i Hen Wlad Fy Mamau rai blynyddoedd yn ôl - yn un pwysig i lif y gân gyda'r bît ethnig yn amlwg ac yn sicr yn un o uchelbwyntiau'r albwm sy'n dangos yn eglur faint o feistri ar eu crefft ydy Llwybr Llaethog, yn gosod y llais mewn mannau allweddol yn y cyfoeth o gerddoriaeth.

O'r diwedd mae dyddiad rhyddhau albwm Caban wedi cyrraedd, a'r wythnos yma mae ‘na stoc go dda o'r cd's wedi cael eu dosbarthu i'r siopau.

Cyrhaeddodd yr albwm ddwy siart yr un pryd, y siart bop a'r siart glasurol.

Hunaniaeth - Un o uchafbwyntiau'r albwm a chân sy'n rhyngwladol ei hapêl.

Penderfynodd y grwp gyhoeddi'r albwm ar label Sain yn hytrach nag efo'r cwmni y cychwynnodd y grwp eu gyrfa gydag ef, Recordiau Gwynfryn.

Cân ola'r albwm sy'n eich gadael, unwaith eto, efo gwên ar eich wyneb.

O'r cychwyn, mae'n hawdd deall mai grwp hwyl ydy Caban ac ar glawr yr albwm mae'r aelodau yn gwneud pethau digon od a'r tu mewn i'r clawr mae yna lun o'r grwp yn pwyntio at barot.

Enw'r albym ydy D.I.Y. yn bennaf oherwydd i'r grwp gynhyrchu'r albwm bron i gyd eu hunain, ac wedi gwneud llawer o'r gwaith arni yn eu cartref wrth droed yr Wyddfa.

Ddydd Llun mae Bryn yn Virgin Megastore, Caerdydd, i arwyddo copïau o'i albwm ac yna yn Siop Eifionydd, Porthmadog, y diwrnod canlynol.