Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

allaf

allaf

Yn anffodus, fodd bynnag, rwy'n cael yr argraff nad yw'r rhan fwyaf yn fodlon rhoi cyfle i grwp hip hop fel y Tystion ac ni allaf ond gobeithio y bydd agwedd o'r fath yn newid cyn bo hir.

Ni allaf wadu na ddaeth lles materol o ymwadiad fy hynafiaid a'r Gymraeg.

Ni allaf feddwl am unrhyw wlad arall yn y Gorllewin oddi ar yr unfed ganrif ar bymtheg, ddim hyd yn oed wlad Babyddol, lle y tra-arglwyddiaethwyd mor llwyr ar y gair printiedig gan weithiau crefyddol ag y gwnaed yng Nghymru'r ganrif ddiwethaf.

Ni allaf weld chwaith y gwnai rhew niwed i blanhigion glaswellt, mae defaid yn pori trwy'r gaeaf nes bydd arwynebedd y borfa yn llwm iawn, hynny yw, wedi torri'r glaswellt yn agos iawn i wyneb y pridd ond heb ei niweidio ar gyfer porfa'r tymor dilynol.

Diwrnod mawr i ni pan oeddem yn yr ysgol oedd diwrnod te parti Plas Gwyn (ni allaf gofio y flwyddyn), ond yr arfer oedd te parti yn y pnawn a "concert" gyda'r nos, a byddai wythnosau o baratoi, canu ac adrodd a "drillio%, ac roedd meibion y sgweiar a rhai o'r gweision a'r morynion yn cymryd rhan yn y "concert" mawr yma.

Wel mi gan nhw eu gorfodi dwi'n credu, gan amgylchiadau, i ddod i delerau efo'r sefyllfa oherwydd faswn i'n meddwl, er na allaf siarad o brofiad, ymhlith yr hen oedd y styfnigrwydd yma, yr hen bobl yn ei chael hi'n anodd i symud a newid enwad, neu newid adeilad, addoldy, ond tydi bobl ifanc yn malio fawr ddim am bethau fel hyn, a 'dwn i ddim beth fydd dyfodol yr Eglwys neu'r Capeli os ydi'r bobl ifainc yn troi i fod yn Gapelwyr neu Eglwyswyr unwaith eto.

Er cymaint y mae rhywun yn edmygu clyfrwch y The Second Coming yna ni allaf yn fy myw beidio a chredu ei fod o hefyd yn amharchus o gred grefyddol miliynau o bobl.

Yn awr, ni allaf byth basio y siop arbennig hon yng Ngraigy-Don heb feddwl y dylid fod yna rhyw fath o arwyddbais uwch ei phen yn dweud 'By Appointment To The Prime Minister' yn union fel mae rhai ar strydoedd Llundain yn honni 'By Appointment' i'r teulu Brenhinol.

Ni allaf anghofio'r cymwynasau a dderbyniais, yn enwedig pan oeddwn yn dechrau mynd ar y teithiau pell.

Roedd yna reswm arall, ond ni allaf egluro popeth mewn llythyr.

Dim ond un anhawster allaf i ei weld mewn strategaeth o'r fath - y bydd rhai yn meddwl mai taid y babi ydi William, nid ei dad.

Ni allaf beidio a chredu fod y ffordd y mae Waldo'n defnyddio'r gair 'awen' yn arwyddocaol ac yn ystyrlon.

Ac ni allaf ond dychmygu beth fyddai wedi digwydd petai wedi dod.

Rŵan wrth imi edrych yn ôl fel hyn, ni allaf lai nag ystyried y sgarmes gi%aidd yna fel trobwynt mawr yn fy adnabyddiaeth o Talfan.

Tra bo BJ wedi cydio yn fy nychymyg, peri imi chwerthin yn uchel a fy ysgogi i droi'r tudalennau, ni allaf ddweud yr un peth am CJ.

Yn hapus iawn - er na allaf ddweud pa mor hapus yn union.

Ni allaf sôn am sefydlu Canolfan y De heb gyfeirio at brofiadau arbennig iawn a gefais fy hun wrth ymwneud â'r Weinidogaeth Gyfryngol ac â'r Crist presennol - profiadau sydd wedi cyfoethogi fy mywyd ysbrydol.

Wrth gwrs, nid oedd dim yn newydd yn y defnydd a wnaed o'r Ymofynnydd i amddiffyn safbwynt pan y'i heriwyd, nac yn ei ryddid i eraill ei ddefnyddio at yr un pwrpas; yn wir, ni allaf feddwl am un enghraifft pan wrthodwyd cyfle teg i ohebydd ddweud ei farn ar dudalennau'r cylchgrawn, boed y farn honno'n gam neu'n gymwys yng ngolwg y mudiad a'r golygydd.

A chan fy mod yn ysgrifennu'r geiriau hyn pan yw'r tanciau'n rhuthro ar draws Croatia a bomiau'n disgyn ar gartrefi, ysbytyau ac eglwysi yn y dalaith honno, ni allaf lai na theimlo pa mor argyfyngus yw'r galw arnom yn Ewrob i gefnu ar ryfel a thrais fel cyfryngau i ddatrys ein problemau.

Ni allaf ond teimlo'n obeithiol ar ôl clywed fod Bart Simpson wedi ei ddewis yn bedwerydd eicon mwyaf poblogaidd yr ugeinfed ganrif.

Eto, nid mater o seineg yn unig oedd troi at y gair 'cŵn', a daw hynny i'r amlwg yn y datganiad: 'A chyn belled â bod yr ystyr yn gefn i'r odl, ni welaf fi reswm yn y byd pam na allaf odli cŵn a sŵn'.

Er mor wrthun yw rhagfarn fel hon ni allaf feddwl am unrhyw reswm arall.

Yn naturiol, ni allaf ofyn i neb arall drysori'r galwadau ffôn hynny, ond yr wyf am i chi gofio amdanynt.

Fe'i daliodd o flaen y gynulleidfa rhwng bys a bawd, a chyhoeddi, 'Ma' 'na ddigon yn y potal bach yma i lladd chi i gyd!' Er cywilydd imi, ni allaf ddwyn i gof beth oedd y meddyg yn ceisio'i brofi yn y bregeth honno, dim ond i'r ffiol fygythiol gadw pawb yn bur effro o hynny ymlaen.

(Ni allaf gofio eu henwau) ac roeddent yn eithriadol o lan, ac fe arferent wneud eu bywoliaeth wrth werthu "bara peilliad" neu "muffins", a byddai mynd mawr arnynt yn yr ardal.

"Mi rydw i wedi cael strôc," sibrydodd yn wan yng nghlust Rex, "ac os na allaf fynd adref i le cynnes, a chael meddyg, mi fyddaf yn farw'n fuan.

Ac mae'n gas gen i hynny; fe allaf gael pregeth mewn capel.