Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

allanolion

allanolion

Diflannodd bron y cyfan o'r allanolion a'r digwyddiadau ategol arferol- diflannodd pob cymeriad arall am y rhan orau o'r hanes ond Sam ei hun a'r bodau lledrithiol y bu gyda hwynt Llwythir a gyrrir yr hanes â delwedd ar ôl delwedd, llun ar ôl llun, dyfalu ar ôl dyfalu, fel petai Tegla am gyrraedd pinaclau y profiadau mwyaf amhosibl eu dweud ac yn methu â theimlo ei fod yn ymdrechu digon.

Ymdrin â phethau ymylol bywyd yr oedd hi, yr allanolion yn unig.

Sylfaen yr ymwybyddiaeth fodern, meddai, oedd ymdeimlad o annibyniaeth ar allanolion ynghyd â ffydd yng ngallu'r dyn unigol i ateb cwestiynau dyrys bywyd drosto'i hun.

Ond nid digon sôn am allanolion bethau'r eglwysi a chwarae â'u hystadegau.

Condemniai'r rhai amlycaf ymhlith y Phariseaid am eu gorfanylder ynghylch allanolion dibwys a'u hesgeulustod o egwyddorion pwysfawr y datguddiad o ewyllys Duw a roddasid iddynt.