Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

allant

allant

Mae llawer o deuluoedd, ar ôl cael gwaith yn weddol bell i ffwrdd, yn blino teithio bob dydd ac ni allant fforddio hynny, p'un bynnag.

A allant roi crynodeb mewn deg brawddeg o'i gynnwys?

Lle bo'r safonau'n anfoddhaol, bydd disgyblion yn ddihyder wrth siarad ac yn methu cyfathrebu'n effeithiol; dealltwriaeth gyfyngedig sydd ganddynt o'r hyn a glywant ac ni allant gynnal sgwrs estynedig; cyfyngedig yw'r rhan y maent yn ei chwarae mewn cyflwyniadau a thameidiog yw eu cyfraniadau at drafodaeth grŵp a dosbarth.

Iddyn nhw, ffordd o ddial ar droseddwyr yw eu carcharu a'u cadw dan glo lle na allant amharu ar weddill cymdeithas.

Mae'n well iddyn' nhw adael i bobl eraill wneud yr hyn a allant.

Tra bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn ymdrechu i ateb ein gofynion, ni allant ddarparu lle oherwydd y cwtogi ariannol.

Gall darluniau fel hyn ddweud llawer wrthym am ffasiynau gwragedd yn y cyfnod hwn ond ni allant ddweud wrthym sut roeddent yn meddwl nac yn teimlo.

Cymer drugaredd ar y rheini ymhlith ein pobl ifainc sydd ar ddisberod ac mewn ing ysbryd, rhai yn gaeth i gyffuriau, rhai yng nghrafanc alcoholiaeth, rhai'n distrywio eu bywyd trwy drachwant, rhai'n anobeithio am na allant gael gwaith a rhai'n teimlo fod bywyd yn wag a diystyr am eu bod yn gwrthod goleuni'r Efengyl.

Mae rhyw gemegyn arbennig yn ei faw sy'n gwneud i'r defaid gosi cymaint fel na allant 'fyw yn ei crwyn' yn llythrennol.

Cyhyd ag y mae ganddynt y priodfab gyda hwy, ni allant ymprydio.

Ni allant neu ni fynnant weld mai amddiffyn eu cenedl, eu hiaith neu eu hunaniaeth y mae pob cenedlaetholwr mewn unrhyw wlad.

Dychwelant fel ysbrydion am na allant dderbyn eu cyfrifoldeb am yr hyn sydd wedi digwydd iddynt.