Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

allasai

allasai

Golygfa hynod y sylwasom arni yn ymyl y fan honno oedd gweld oenig na allasai fod yn fwy na diwrnod oed dilyn ei fam ar faglau o frwyn, a hithau'r famog wedi ei chneifio.

Yn yr un modd mewn ardaloedd di-Gymraeg, gallasai'r peuoedd hyn weithredu fel sylfaen i ail-sefydlu rhwydwaith o gymdeithasau Cymraeg allasai greu impetws ieithyddol deinamig.

Mewn gwirionedd, ni allasai unrhyw gerdd fod yn nes at ruddin y testun hwnnw.

Y bardd yn unig a allasai ateb hyn; ef yn unig a wyddai beth oedd ei neges - os oes nege ynddi.

Dim ond mam mewn trallod a allasai ffarwelio â phlentyn o'i chroth ei hunan er mwyn i'r plentyn gael dillad, bwyd, to dros ei ben, ac yfory, o bosibl, gwaith.

Pe digwyddasai dyn dieithr fod yn teithio ar y ffordd hon, ac heb wybod am helyntion pedair blynedd a basiodd, buasai yn anhawdd iddo ddychmygu beth allasai fod y mater, beth oedd yn bod, beth oedd wedi dygwydd.

Petasai wedi cael addysg Prifysgol, mi allasai yn hawdd fod wedi gwneud marc." Yn ei flynyddoedd olaf yr oedd yn bur feudwyaidd.

Yr ŵyl orau allasai tad fod wedi'i rhoi i'w blant a'u codi yn y gymdeithas orau yn erbyn pob anhawster.

Roedd wedi cael yr arian trwy gytundeb teg, cytundeb a allasai fod wedi gweithio yn ei erbyn.

Prynasid hi yn y ffair am na allasai ei phrynwr wrthsefyll apêl ei phen main gyda'r trwyn cau, a'i chroen tenau llac, a'i phwrs llydan cymesur.

Fe allasai fod wedi bod yn waeth arnyn nhw.

A pha laethwr ffyddiog a allasai wrthsefyll y fath ben a chroen a phwrs - holl deithi amlwg Seren?