Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

alle

alle

'Fe alle fod rywle rhwng saith a deg o Gymry ar y daith,' meddai.

Fe alle fod yn waeth! Mi gollodd tîm pêl-droed Guam 16 - 0 yn Tajikistan yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd ddoe.

Doedd gen i'r un syniad ar y pryd beth oedd y ffrwyth, ond wrth ei flasu y prynhawn hwnnw, a chael 'y nghyflwyno am y tro cynta i'r melwyn dwr, fe alle unrhyw un gadw'i caviar a'i siampên--ar yr eiliad honno, fedre dim byd melysach na brafiach fod wedi gwlychu 'ngwefuse i, ac roedd oerni a ffresni'r sudd yn adfywio ceg oedd yn boenus o sych.

Dim ond y ficer alle fod wedi dweud hynna heb gal llond pen gen i.

Fy nheimlad i oedd mai dim ond hyfforddwr o'r peder gwlad alle gael ei ddewis ond maen amlwg nawr nad felna mae hi.

Beth alle'i wneud ichi?

Fe alle rhyw grwt fel fi, hyd yn oed, weld hynny.

Wrth gwrs, alle inne mo'i gweld hi chwaith.

Fe alle hynny fod yn bwysig iawn yn y diwedd.

Ond un peth alle fynd yn ei erbyn yw'r tebygrwydd cryf y bydd Cymru nawr yn anfon y prif dîm ar daith i Siapan y flwyddyn nesaf.

Pe alle cefnwyr y ddau dîm fod wedi aros yn y stafelloedd gwisgo am yr hanner cynta, gan mai brwydr bersonol rhwng y blaenwyr oedd hi am ddeugain munud cyfan, a Selwyn Williams yn ymddangos yn feistr ar y meistr Gareth Edwards.

Mae rhywrai gerllaw yn siarad amdanat ti, ac fe alle fynd mlaen am beth amser, felly paid rhoi cyfle i bobol ddweud pethau cas amdanat ti.