Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

allent

allent

Aeth defnyddio Saesneg ym mhob cyfathrebu swyddogol yn gyfrwng i atgoffa'r Cymry o genhedlaeth i genhedlaeth na allent fwynhau ffafr y wladwriaeth ond i'r graddau yr oeddent yn dirmygu'r Gymraeg.

Yr oedd hi'n dechrau nosi nawr ac ni allent weld ond ffurf y tŷ mawr rhyngddynt â'r awyr, rhiw silŵet llwyd ar "sgrin" ruddgoch y machlud tua'r de-orllewin.

Galwodd ar y ddau ffariar a gofynnodd iddynt a allent wneud rhywbeth dros dro.

Gwêl y corws o wragedd cyffredin a glywir yn y ddrama hon, agweddau ar fywyd na allent fod yn ymwybodol ohonynt mewn drama naturiolaidd.

Mae'r rhan fwyaf yn adnabod o leiaf un oedolyn arall sy wedi llwyddo i ddysgu'r Gymraeg yn rhugl, ac yn y modd hwn dymchwelwyd y mur seicolegol a oedd yn dal rhai yn ôl am na allent gredu ei bod yn bosibl iddynt hwy siarad a deall Cymraeg.

Ond mae Egwyddor Ansicrwydd Heisenberg yn cadarnhau yn awr beth mae'r seicolegwyr wedi ei wybod yn eu calonnau, er na allent ei ddatgan yn glir, sef na all dau berson fyth wneud yr un mesuriad a chael yr un atebiad yn union.

cofient adegau pan allent gerdded hyd y lan a gwylio 'u hynt, a 'r afon yn loetran lifo dan y coed, ond nid felly 'n awr.

Ni allent ddianc i unman am eu bod ar grib bryn isel.

Ganwyd Phil ar ddiwedd y ganrif o'r blaen pan oedd nerthoedd grymus yn dygyfor ar bob llaw, mewn cymdeithas a gwlad a byd, ac ni allent lai na dylanwadu ar drigolion y cyfnod.

Fe wnaeth ef y rhain yn ieirll ar y Gororau nid yn unig er mwyn iddynt amddiffyn ei deyrnas ef ei hun rhag y Cymru ond hefyd er mwyn iddynt filwrio yn erbyn y Cymry a thrawsfeddiannu cymaint o'u tir ag a ddymunent neu ag a allent.

Un tro pan oedd ewythr iddynt yn tynnu eu coesau, gan ddweud na allent wneud pennill i'r basn cawl, a oedd ar y ford ar y pryd, gan ei bod yn amser cinio, fe Iwyddodd y ddau i lunio'r pennill hwn, a hynny cyn pen winc.

Ni allent glywed sŵn ond roedd yn amlwg fod hwn eto, fel y lleill, yn teithio yn weddol gyflym ar hyd y ffordd.

Erbyn iddyn nhw weld perfformiad Cura, y mae'n nhw'n falch na allent ei fforddio.

CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Weithredwr fod Cyngor Sir Gwynedd eisiau saith cynrychiolydd ar y pwyllgor oherwydd mai dyna'r nifer isaf a allent ei ddewis er sicrhau y gynrychiolaeth angenrheidiol i'r grwpiau ar y cyngor.

Gan mai byr iawn oedd yr arhosiad, ni allent dderbyn llawer o addysg.

Tramwyai yr Yswain a'r Person, a'r hen bobol pan allent, hyd y ffyrdd, ond teithiai'r gwŷr ieuainc rhyfygus bron fel yr ehed y frân yn syth ar ôl y cŵn.

Clywent sŵn isel, rhyfedd, yn dod o gyfeiriad y ffynnon a chasglent mai y garreg oedd yn symud, er na allent ci gweld yn glir iawn.

Ni allent aeddfedu ond mewn fframwaith cymdeithas â'i gwerthoedd a'i thraddodiadau ei hun.

Ymddangosai Alun Michael yn ddiffuant o ddiolchgar iddi am gyfraniad amserol a rhoddodd sicrwydd fod pob hawl i aelodau'r Cynulliad berthyn i'r Seiri Rhyddion ond na allent ddisgwyl bod uwchlaw arolwg.

Ac er yr holl faneri oedd i'w gweld, ni allent guddio llymder y lle yn gyffredinol.

Nid oedd yn bosibl na gweld y tan o'i achos ef na chael lle i eistedd, a gwnai yntau sbort am ben y beirdd eraill yn y cwmni drwy ofyn cwestiynau iddynt na allent eu hateb.

Y mae'n eglur na allent roi eu hamser fel y dylid i ganfasio a lecsiyna, a lleddfent eu cyd wybod drwy ymroi i ofyn y cwestiynau hyn mewn ffurf fanwl iawn, ac o leiaf i ystyried atebion.

Ond gan fod mater yn llygredig iddynt hwy, ni allent gredu mewn gwir ymgnawdoliad.

Ond Eglwyswyr oedd y Methodistiaid yn gyfreithiol ac ni allent osgoi gwg yr ustusiaid.

Pe byddai lloer fe allent weld ac wedyn .

Roedd yna fath o eglwys gynulliedig o siaradwyr Cymraeg na allent, hyd yn oed pe dymunent, ymwrthod yn llwyr a chynhesrwydd y profiadau a'r cofion a oedd yn gyffredin iddynt.

Yn y cyfamser, er ein bod ni'n gwybod nad oeddem yn cario dim anghyfreithlon i mewn, 'roeddem yn chwysu wrth feddwl beth allent wneud â ni.

I bobl na allent fewnforio bwydydd o wledydd tramor, amser pryderus oedd twll y gaeaf.

Dan fwngial awgrymodd rhai gwyr oedd a gwragedd ifanc y dylid ei ysbaddu, ond roedd hynny'n rhy beryglus i un yn ei oedran ef ac ni allent fforddio ei golli Chwerthin am ben yr awgrym a wnaeth hynafgwyr y llwyth Y gwir oedd nad oedd yr un o'r gwragedd ifanc y daeth Hadad yn agos atynt yn ddeniadol iawn yn ei farn ef, a byddai'n rhaid iddynt hwy dalu â'u bywyd pe baent yn dangos ffafriaeth tuag ato.

Gwelwyd sawl achos yn y blynyddoedd diwethaf lle'r oedd pobl wedi lladd fel ymateb i gamdriniaeth annioddefol neu am na allent oddef yn hwy gweld rhywun annwyl iawn mewn ing dychrynllyd.

Cwmni dynion fel Cela Trams a Dik Siw, a'u bryd ar wneud arian mor ddidrafferth ac mor gyflym ag y gallent; dynion na allent ddioddef wnionyn o fewn milltir iddynt.