Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

allforio

allforio

Mae Canolfan Geneteg a Biotechnegol Havana yn allforio meddygaeth o safon uchel, gan gynnwys brechiadau ar gyfer llid yr ymennydd a Hepatitis B.

Rhoddodd y galw mawr am lechi Gogledd Cymru yn ystod y ganrif ddiwethaf gyfle i'r ardal ddatblygu fel man allforio unigryw ac, oherwydd pwysau a maint y cynnyrch, y llongau hwylio a ddarparai'r dull gorau o gludo.

Erbyn heddiw, mae diwydiant teledu Cymraeg yn allforio i'r byd — arwydd o'r hyder a roddodd brwydr y Gymdeithas i bobl Cymru.

Agor doc 'Queen Alexandia' yng Ngherdydd i allforio rhagor o lo.

Bu hwn yn cyd-weithio â Bowser i sefydlu harbwr i allforio'r glo a ddeuai o Gwm Capel a'r mannau eraill.

Protestio ar faes awyr Abertawe rhag defnyddio awyren a logwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru i allforio lloi.

Un o ddiwydiannau coll y Rhos, bellach, yw allforio ein merched i Loegr (gan amlaf) i weini.

Yr adeg honno rhaid oedd allforio unrhyw gynnyrch tebyg i lo gan nad oedd rheilffyrdd i'w cael a defnyddio'r camlesi'n ychwanegu'n ddirfawr at y gost, a'r gwaith yn llafurus iawn.

Tybiai rhai, yn hollol gywir, fod cyfundrefn sefydlog yn golygu ffrwyno prisiau mewnol er mwyn diogelu'r lefel allanol; ond hefyd, os goddefid i brisiau allanol amrywio, y gallai prisiau mewnol gael eu rhyddhau heb unrhyw angen sicrhau'r cyflenwad o nwyddau a gwasanaethau ar gyfer allforio.

Maes o law dododd ef yr eitemau hyn ar werth eto a gwerthodd Bwll Gaunt i gwmni stanley o Ogledd Lloegr a rhain yn allforio'r glo o'r doc newydd.

Wrth gwrs mae yna broblem fechan o allforio'r tapiau fideo, ond stori arall yw honno!