Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

allor

allor

Mi wnaf fy mywyd yn allor i atgofion fy nghendl.

Y mae'r erthygl gyntaf yn y casgliad yn dwyn y teitl, "Tân ar Allor Cambria: y Cymnry a'u Crefydd".

Gwenodd ar Leusa Parry, a oedd wrth ei phleser yn llnau'r brasus: llawenydd ei bywyd hi oedd y sglein ar yr allor: Talai o'i phoced ei hun am y Brasso ar ôl i Undeb y Mamau gwyno ei bod yn defnyddio gormod ohono; ond ni ddychwelodd Leusa Parry ei gwên, ac roedd hynny'n brifo o gofio fel y bu hi'n ddadlau drosti.

Pobl unplyg, gweddigar, duwiol, yn mwmian emynau wrth ladd y gwair a chywain y cynhaeaf, yn cynnal y weddi deuluaidd bob bore wrth ford yr allor, gan dynnu Duw i lawr i'r ceginau rhwng y potiau a'r pedyll.

'Roedd atal y Gadair a'r Goron yn broffwydol o feddwl fod cenhedlaeth arall ar fin cael ei haberthu ar allor Rhyfel.

Tynnodd y llysiau o'r fasged a'u gosod yn chwaethus o flaen yr allor ac ar sil y ffenestri.

Mae allor yn y gongl yna i offrymu rhai fel chwi." Torrais allan i chwerthin a dilynodd pawb arall.

Ni allai gofio llawer am y gwasanaeth, ond daliai i gofio'r naws a phob manylyn am yr addurniadaau a osodwyd o gwmpas yr allor: yr holl gynnyrch wedi'i osod i ddangos llawnder a gogoniant.

Ar yr aelwyd honno fe fydd ei dad yn tragwyddol gadw dyletswydd 'yn ei "un" iaith' ac ni ddaw'r un llanw i ddiffodd 'Tân y Nef' na dryllio'r allor:

Does neb yn hollol siŵr beth oedd diben gwreiddiol y meini hirion erbyn hyn þ efallai mai dynodi beddau arweinyddion y mae rhai ohonynt; efallai mai nodi man cyfarfod neu efallai mai rhyw fath o allor i'r hen dduwiau ydyn nhw.