Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

alltudio

alltudio

Fel y mwyafrif a wynebai'r crocbren, derbyniodd Smith bardwn a'i alltudio.

Cyfeddyf i Blaton alltudio'r beirdd o'i wladwriaeth oherwydd 'anfoesoldeb eu disgrifiadau o'r duwiau', ond am farddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, doedd dim culni ar ei chyfyl; eithriad oedd cael moesolwr fel Siôn Cent.

Fel y dywedwyd, bu lladrata yn gyfrifol am alltudio wyth troseddwr allan o bob deg.

Yn ystod cyfnod yr alltudiaeth, adferwyd nifer helaeth o ddeddfau llym y ddwy ganrif flaenorol, yn enwedig y rheini oedd yn ymwneud a lladrata - trosedd a fu'n gyfrifol am alltudio cyfran helaeth o'r carcharorion a gludwyd i Awstralia.

Ond wedyn, dim ond dadansoddiad athronyddol gofalus a wna'r tro i ddangos na ellir alltudio Duw a phwerau ysbrydol â syniadaeth mor dlodaidd.

Ond mawredd Pantycelyn, meddai, yw iddo allu ffrwyno'i ramantiaeth ac felly osgoi mynd i ormod rhysedd trwy alltudio'r rheswm o'i waith yn gyfan gwbl: 'Dechrau'n fardd rhamantus a wnaeth Pantycelyn, datblygu ei ramantiaeth a'i mynegi'n llawn, yna ei meistroli a thyfu i weledigaeth fwy.