Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

alwad

alwad

(Ar yr alwad, GARI yn llamu oddi ar ei wely a chychwyn i lawr y grisiau yn eiddgar.)

Yn dilyn y rali bydd nifer o aelodau'r Gymdeithas yn cychwyn ar daith gerdded i Lundain i gyflwyno'r alwad am Ddeddf Iaith Newydd i'r senedd yn San Steffan.

O hynny ymlaen, llywiwyd ei ddyfodol gan ei amgylchiadau teuluol, i raddau helaeth, a pharodd yr amgylchiadau hynny i'r alwad o King's Cross, pan ddaeth, fod yn un anodd penderfynu yn ei chylch.

Ymhen ychydig ddyddiau cefais alwad ffôn ganddo yn dweud bod y telerau'n dderbyniol ac yn gofyn inni fynd yno ymhen pythefnos, aros am ddeng niwrnod, ac y byddai ef yn danfon ticedi inni trannoeth.

Drwy dderrbyn yr alwad hon byddai'r Blaid Lafur hefyd yn rhoi William Hague mewn cornel.

Roedd y Cyngor wedi ymateb i alwad Cyfeillion y Ddaear i beidio a defnyddio pren caled trofannol, meddai, gan benderfynu, felly, defnyddio ffenesti platig.

Ond os daw'r alwad, grêt, bonws fydd hyn'na.

Yn ystod y tair blynedd ar ddeg ddiwetha daeth mwy a mwy o Gymry i weld bod hyn yn ddifyg sylfaenol, a dyma ran fawr o'r esboniad am yr alwad y dyddiau hyn o blaid trosglwyddo cyfrifoldebau Ysgrifennydd Cymreig i Gynulliad Cymru.

Yn sgîl y digwyddiadau crefyddol y daeth yr alwad am addysg fydol, a thra' roedd sylwedd un yn Gymraeg, roedd y llall yn hollol Seisnig.

Roedd yn Llundain, yn loncian yn gynnar fore echdoe, pan ddaeth yr alwad iddo ddod i Gaerdydd i lenwi yn rhaglen neithiwr.

Rhoddwyd Hanes yr Alwad gan Mr Lewis Owen, Ysgrifennydd yr Eglwys, a'r Siars i'r Gweinidog gan Ben Owen, Llanberis.

Mae'r 'orders' yn dod o'r top, Doctor, oherwydd mae'r gwaith sy'n cael 'i neud yma'n bwysig iawn - yn holl-bwysig os daw rhyfel." "'Dwy'i ddim yn siŵr iawn pam y ces i alwad i ddod 'ma..." "Proffesor Dalton - ein prif wyddonydd ni 'ma - ofynnodd amanoch chi'n bersonol.

O'r tūr uchaf y seinir y 'Mariacki' - yr alwad ar y trwmped sy'n glywadwy o bob cyfeiriad, ar yr awr, bob awr o'r dydd.

Ers tro bellach bu pwyslais ar gyflenwi bwydydd di-gemegau, ac oherwydd hynny'n iachach, a rhaid oedd ymateb i'r alwad.

'Bydd sawl un arall yn disgwyl yr alwad - fel Colin Charvis, Martyn Williams.

Watkins alwad, a daeth i'r ofalaeth i fyw yn Hydref y flwyddyn honno.

Diflaswyd ef ymhellach gan na chawsai alwad i weinidogaethu mewn Capel Annibynnol.

Ond dwi'n siwr nawr, fis yn ddiweddarach, ar ôl cael amser i eistedd lawr a meddwl, y bydd e - os daw'r alwad ffôn - yn cael gair gyda'r wraig a phenderfynu wedyn.

Y mae'n ddigon tebyg bod yna ambell i alwad afresymol, ond sut y mae gwahaniaethu?

os derbynnid galwad yng Nghanolfan Dolgellau wedi amser cau, gellid trosglwyddo'r alwad ar ei hunion i ganolfan gynghori arall oedd ar agor yng Ngwynedd.

yr amser y mae'r bom i fod i gael ei thanio; ble y gall y bom fod wedi'i gosod; oed, rhyw, acen ac unrhyw arwydd o gynnwrf, tensiwn neu fedd-dod yn y sawl sy'n galw; p'un a yw'r alwad wedi'i gwneud o flwch ffôn, wedi'i deialu i mewn neu yn dod o estyniad mewnol; p'un a oedd yr alwad yn swnio fel bod y sawl oedd yn galw yn darllen neges oedd wedi'i baratoi neu beidio.

Denwyd y genethod ag amrywiaeth o ffug addewidion, ond eu tynged bob gafael oedd bod yn buteiniaid at alwad y Siapaneaid.

Pe ceid neges neu alwad ffôn yn honni bod bom wedi'i gadael ar eiddo'r Gymdeithas (h.y mewn swyddfeydd, hostel) a bod y neges yn ymwneud â'r adeilad hwnnw, yna mae'n rhaid gwacau'r adeilad ar unwaith yn unol â'r trefniadau ar gyfer tân.

Mae gan Blair amser eto i adfer ei boblogrwydd ond bydd yn rhaid i Hague feddwl am strategaeth newydd wedi i'r etholwyr anwybyddu ei alwad i roi ffoaduriaid dan glo a saethu lladron.

Anodd oedd annerch yn gyhoeddus mor fuan ar ôl profedigaeth, ond rhaid oedd ufuddhau i'r alwad.

Gadawodd y dynion eu gorsafoedd a'u gweithdai yn llu, gan syfrdanu'r cyflogwyr, y Llywodraeth, y wasg, a'r undebau hyd yn oed, mor selog oedd eu hymateb i'r alwad.

c) Nodi union amser yr alwad ynghyd â:-

Methodd y diwydiant llaeth ag ymateb i'r alwad i reoli cynnyrch.

Dyma pryd y cafodd yr alwad i Brion a'r Glyn.

Go brin fod angen imi ddweud nad oedd ynar un alwad o Mozambique.

Yr oedd nifer o blacardiau yn dynodi enwau cwmnïau megis HSBC, Microsoft, Stena, BT at ati, gyda'r geiriau 'Mae'r Gymraeg yn anweledig!' Cafwyd negeseuon o gefnogaeth gan Dafydd Wigley AS AC, Elfyn Llwyd AS, ac Eurig Wyn ASE yn cefnogi'r alwad am Ddeddf Iaith newydd, a chawsom ein hatgoffa o'r sefyllfa warthus.

Mewn trafodaeth ar y mater hwn yn y dyfodol, ni fydd y Llywydd yn gallu bod yn amhleidiol wrth lywio trafodaeth i bwyso ar y Cynulliad i gefnogi'r alwad am Ddeddf Iaith.

Felly pan glywch chi rybudd i beidio siglo'r cwch peidiwch a meddwl am funud mai dyna'r tro cyntaf i'r alwad honno gael ei gwneud — fe'i gwnaed droeon dros y blynyddoedd.

Daeth yr alwad, a chredais mai dyna arweiniad cyfrin Rhagluniaeth; ac nid oes gennyf le i amau tiriondeb ei llaw na diddosrwydd ei haden.

I ble ac at bwy y byddai rhaid imi sgrifennu neu ffonio ar ôl hyn?' Ac yn wir, rhaid dweud fod llawer dyn i'w gael sydd wedi ymsuddo ym mheirianwaith bywyd i'r fath raddau nes ei bod yn anodd iawn meddwl amdano fel person: gyda'i holl gyfryngau wrth ei benelin, gyda'i holl effeithiolrwydd at ei alwad, nid yw'n neb na dim - fel dyn.

Wedi gorffen ei gwrs addysg, cafodd Edwin alwad i Salem, Bae Colwyn.

Daeth yr alwad yn sgîl ei gamp yn cipio wyth wiced i Forgannwg yn erbyn y tîm o'r Caribî yr wythnos ddiwethaf.

Er bod carfanau yng Nghymru yn erbyn y Rhyfel, fel yr anghydffurfwyr a oedd yn ymfalchïo yn nhraddodiad heddychlon Henry Richard, a ddywedodd fod 'pob rhyfel yn groes i ysbryd Crist', ffafriol at ei gilydd oedd yr alwad am wirfoddolwyr.

Roedd y Parchedig Sam wedi bod yn ffyddlon i'w alwad ac yn ffyddlon i'w braidd.

A phan fu hi (Helen Maryr r) aaglen ffôn ar y radio ni chafwyd yr un alwad ar y pwnc er i'r cyflwynydd, meddai, wneud ei orau i gael aelodau o'r frawdoliaeth gudd i gwyno.

Mae deg pwynt i'r alwad y mae Cymdeithas yr Iaith yn ei gyflwyno i'r Cynulliad y diwrnod hwnnw.

Bum yn meddwl droeon fy hunan am yr un peth, ond ni wneuthum ddim i ddyfod a'r bwriad i ben, gan na thybiwn fod y darllenwyr yn galw am hynny....Erbyn hyn, yr wyf wedi fy mherswadio fod gofyn ymhlith y darllenwyr am nodiadau golygyddol, a'm dyletswydd innau yw ufuddhau i'r alwad.

Cafodd alwad i weld ci'r ferch a llwyddodd i'w wella o'i salwch.

Mae rhai o aelodau Cymdeithas yr Iaith ar daith gerdded i Lundain i gyflwyno'r alwad am Ddeddf Iaith Newydd i'r senedd yn San Steffan.