Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

alwedigaeth

alwedigaeth

ohonynt fel hyfforddiant i ymladdwyr ac arweinyddion ifainc.' Rhaid oedd atgoffa Geraint o'i ddyletswyddau ac y mae rhywbeth chwithig fod tad oedrannus yr arwr yn gorfod ei gyrchu adref i ymgymryd â'i briod alwedigaeth.

Prin yr ystyriai, er hynny, mai 'i alwedigaeth ef oedd ysgrifennu cyfrolau ar egwyddorion cenedlaetholdeb.

Ymadael yn hwyr yn y prynhawn yng nghwmni gwr cymharol ifanc o'r enw Josepho - peintiwr wrth ei alwedigaeth cyn y rhyfel, ond wedi gorfod ymuno â'r fyddin.

Argraffydd ydoedd wrth ei alwedigaeth; priododd un o ferched y Rhos, sefydlodd fusnes yma, ac efo a'i deulu, gyda chymorth y Cymro pybyr hwnnw, William Stephen Jones, a sefydlodd ac a gynhaliodd yr Herald.

Meddai Henry Rees yn y nofel: 'Yng Nghymru heddiw dyma'r alwedigaeth uchaf oll, ac y mae'r werin yn gwybod hynny.

Wrth edrych arno gellid credu mai cigydd oedd wrth ei alwedigaeth ond byddwn yn dod i wybod mwy a mwy amdano cyn dod i ddiwedd y llyfr hwn.

Cawsai ei addysg yn Eton a Choleg Eglwys Crist, a bargyfreithiwr ydoedd wrth ei alwedigaeth.

Trafeiliwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, a deuai adref dros aml benwythnos.

Ond mae hon yn alwedigaeth sydd ar gynnydd gydag agoriadau ar feysydd criced ar hyd a lled Prydain heb sôn am Wimbledon ac yn awr ein caeau golff.

Athro oedd Mr Jenkins wrth ei alwedigaeth ac yn brifathro poblogaidd iawn yn Ysgol Cwmfelin am nifer o flynyddoedd.

Athro Saesneg oedd fy nhad wrth ei alwedigaeth.