Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amaethyddol

amaethyddol

Mae 'na ddwy ran i Aberdaron: y pentref glan y mor a'r ardal amaethyddol, oedd, oherwydd yr amaethyddiaeth, yn debyg iawn i ardaloedd eraill drwy Gymru.

Crwydro o gwmpas y ffair, felly, a wnai ef, arogli'r sŵn, a lled gyfarfod a hwn a'r llall, heb dorri'r un gair a neb yn iawn, megis mewn sioe amaethyddol.

Digon iddo ef oedd cyfuno'i ddamcaniaeth wleidyddol â gweithredu ymarferol ar batrwm diwygiadau amaethyddol George N.

Yr unig swn yno oedd peiriannau amaethyddol, bywyd gwyllt, anifeiliaid fferm a nentydd.

(e) Ar gyfer lladd-dŷ a diwydiannau a busnesion gyda chysylltiadau amaethyddol a/ neu bwyd ac anghenion lleoli arbennig.

Nes i Sajudis ddechrau ymgyrchu am ryddid, doedd hi ddim wedi ymwneud â gwleidyddiaeth; economegydd amaethyddol oedd hi a fu'n astudio ym Mhrifysgol Manceinion.

Serch hynny, nid yw'r sioeau amaethyddol yr ydych yn ymweld a hwy yn ystod yr haf yn cynnwys dosbarthiadau ar gyfer y bridiau Cymreig yn unig.

Dichon ein bod yn rhy agos i'r rhain i sylweddoli eu dylanwad ar fywyd gwerinol amaethyddol Cymreig cefn gwlad.

Oherwydd mai canrif amaethyddol oedd yr unfed ganrif ar bymtheg i'r rhelyw o Gymry, yr oedd cysylltiad agos iawn rhwng dyn a'r ddaear.

Y trydydd casgliad o eiriau, ymadroddion ac idiomau o'r byd amaethyddol.

Trafodwyd y mater gyda'r perchennog pryd y cyfeiriodd at y ffaith mai ar gyfer pwrpas amaethyddol oedd y sied (nid ar gyfer anifeiliaid) a'i fod wedi gwasgaru "hardcore% tros y llain er mwyn cael mynedfa rwyddach i'r tir.

Er gwaethaf y gofid ynghylch colli 73 o swyddi'r wythnos yn y byd amaethyddol a'r colledion pellach ym myd cynhyrchu, cafwyd arwyddion cadarnhaol.

Yn ffodus, ac oherwydd pwysau cyson a pharhaol o du'r undebau amaethyddol, mae'n fwy na thebyg y caiff gwaharddiad parhaol ar yr hormon yma gael ei gyflwyno maes o law.

Ond yn ystod ac ar ôl yr Ail Rhyfel Byd, gwelwyd chwyldro arall yn camu ar draws cefn gwlad Cymru ac yn wir ar draws y rhan helaethaf o'r Byd Datblygiedig - sef yr Ail Chwyldro Amaethyddol - chwyldro oedd yn aml mewn gwrthdrawiad ag egwyddorion cynaladwyaeth.

Cais llawn - tŷ unllawr amaethyddol a modurdy Rheswm: I roddi cyfle i'r Is-bwyllgor Ymweliadau ymweld â'r safle a chyflwyno adroddiad.

Yn gyntaf y mae parhad y diwylliant gwledig ac amaethyddol yng nghanu prydyddion fel Ifor Cwm Gwys, Rhydderch Farfgoch a'r brodyr Eiddil Llwyn Celyn a Chawr Dâr.

Ceir disgrifiad manwl o amaethyddiaeth Epynt, a chilieni yn arbennig, gan Ronald Davies yn ei lyfr, a dengys fywyd fyddai'n nodweddiadol o ardal amaethyddol yng nghefn gwlad Cymru cyn yr Ail Ryfel Byd.

Ond daeth tro ar fyd Denzil pan gafodd gyfle i ddychwelyd at ei wreiddiau a chael swydd fel gofalwr amaethyddol yn y Plas.

MAE CEFNDIR CYMDEITHASOL, amaethyddol a gwerinol Eifionydd yn rhan annatod ohonof, a thros y cyfnod o ugain mlynedd y bu+m yn yr Alban a Lloegr a thros y môr nid aeth diwrnod heibio na chefais gip a r Eifionydd yn nrych fy meddwl.

Fy nghyngor i'r rhieni hynny a fyn i'w brid arbennig hwy o fab afradlon fynd yn awdurdod amaethyddol yw iddynt gadw'r peth bach cyn belled ag y medrant oddi wrth bridd a baw.

Mae'r system graddio yn ceisio crynhoi nodweddion hinsawdd, tirwedd a phriddoedd mewn un system sy'n disgrifio tir yn ôl ei ddefnyddioldeb amaethyddol.

Mae'r pwyllgor yn argymell y dylai'r hylif fod yn ôl ar silffoedd y siopau amaethyddol.

Bryd hynny yr oedd Sinn Fein am ddisodli'r Blaid Wyddelig fel erfyn gwleidyddol y mudiad cenedlaethol; y Cynghrair Gwyddeleg yn ymdynghedu i edfryd yr iaith Wyddeleg; y Gymdeithas Wyddelig Athletaidd yn trefnu chwaraeon traddodiadol Gwyddelig; y Mudiad Cydweithredol Amaethyddol, y Mudiad Undebau Llafur dan arweiniad rai fel Connolly, y theatr, y cwbl yn rhannau o'r Mudiad Cenedlaethdol - heb sôn am yr l.RB Yr oedd y rhwyd wedi ei thaflu mor eang fel nad oedd angen i ŵr ifanc wneud mwy na mwynhau chwarae bando (...) ar brynhawn Sul, ac yr oedd wedi ei dynnu i fewn i'r mudiad.

Hyd yn oed o fewn sector sydd a chynrychiolaeth mor uchel nid yw'r rhagolygon am sefydlogrwydd economaidd yn rhai addawol iawn, gan fod llawer o'r ardal wedi'i dynodi yn Ardal Amaethyddol Llai Ffafriol.

Os yw gor- gynnyrch yn y diwydiant glo neu'r diwydiant dur yn ddrwg i'r economi beth am orgynhyrchu a gor-gynnyrch yn y diwydiant amaethyddol?

Ond, ac yntau'n un o dras amaethyddol ac, o ran anian, yn gredwr mewn datblygiad a chynnydd, mae ei adroddiadau hefyd yn taflu goleuni ar America'r wlad fawr, flaengar, gyda'i diwydiannau cotwm ac olew, ei ffatri%oedd caws a'i bwydydd anghyfarwydd; roedd hefyd yn anelu at roi gwybod i'r Cymry gartre' am fywyd eu cyd-wladwyr a ymfudodd tros yr Iwerydd.

Wrth gyferbynnu cefndir y nofelau hyn a chefndir llenyddiaeth Saesneg Iwerddon,mae Saunders yn nodi fod bywyd Iwerddon yn dal i fod yn amaethyddol, heb ei gyffwrdd gan ddiwylliant diwydiannol Lloegr.

Gallaf ddychmygu clywed hen arogleuon amaethyddol wrth bori drwy'r gyfrol hon.

Nid maestref oedd Penrhosgarnedd ei ieuenctid, ond cymuned wledig, amaethyddol gan fwyaf, a'i bywyd yn troi o gwmpas gwaith y tymor, addoldy, ffair, a phlas Y Faenol.

Arhosodd Llanaelhaearn yn ardal amaethyddol wasgarog hyd at ddiwedd y ganrif ddiwethaf pryd y trawsffurfiwyd y cylch yn llwyr gan ddyfodiad y chwareli ithfaen ar hyd yr arfordir.

Yr oedd y Rhyfel Degwm yn frwydr economaidd yn y bon, wrth gwrs, oherwydd y sbarc a gynheuodd y tan oedd y dirwasgiad amaethyddol ar ddechrau wythdegau'r ganrif ddiwethaf.

Mae'r ffigurau uchod ychydig yn annisgwyl o gofio mai dynion yn bennaf sy'n gweithio ar y tir yng Nghymru, ond mae'n bosib mai esboniad am hyn yw mai merched yn bennaf sydd wedi arfer llenwi ffurflenni yn y gymdeithas amaethyddol, ac wedi gwneud hynny yma hefyd ar ran y teulu cyfan.

Tyf llawer o blanhigion eitha cyffredin yma ond yn doreithiog mewn cymhariaeth a phorfeydd mynyddig a thir amaethyddol llawr gwlad.

Nid yn aml y gwelir peth fel hyn, er bod adran amaethyddol y Brifysgol erbyn hyn wedi llwyddo i gael defaid i fwrw ŵyn bob mis o'r flwyddyn, beth bynnag yw'r fantais o hynny, rhagor na mynd i'r lleuad.

Mae amaethyddiaeth, er nad yw'n cyflogi gymaint ag yn y gorffennol o bell ffordd, yn dal i chwarae rhan bwysig yn yr economi, ond oherwydd y newidiadau mewn dulliau ffermio ac yn y Polisi Amaethyddol Cyffredin, mae'n debyg y gwelir gostyngiad pellach sylweddol yn y nifer a gyflogir yn ystod y deng mlynedd nesaf.

Ar hyd arfordir gogleddol yr ynys ceir cipolwg ar hanes amaethyddol pwysig Ynys Môn, gyda hwyliau Melin Llynnon yn llywodraethu dros Landdeusant ac yn parhau i droi hyd heddiw.

Er enghraifft, gall lluniau sy'n dangos datblygiadau yng nghynlluniau amaethyddol De-Ddwyrain Asia gael eu dangos mewn rhaglenni a chynyrchiadau cwbl wahanol i'r ni wreiddiol.

Cynhyrchwyd darllediadau amlwg hefyd o'r Sioe Frenhinol Amaethyddol yn Llanelwedd, sef uchafbwynt y calendr gwledig.

Yn ol y papur y dirgelwch oedd fod yr hwch wedi geni dau fochyn bach saddleback du, tri mochyn bach coch smotiog a dau bach glas, tipyn o gymysgwch ac yn ddigwyddiad arbennig iawn, hyd yn oed i giamstar ar fridio fel Hugh, a ddisgleiriodd yn y maes yma pan oedd yn efrydydd yng Ngholeg Amaethyddol Glynllifon.

Ychydig iawn o dir Cymru sy'n y graddau uchaf, gyda chyfran helaeth felly yn dir o ansawdd isel o ran ei ddefnyddioldeb amaethyddol.

Nid ydyw system amaethyddol sydd wedi datblygu tros amser o fewn cyfyngiadau'r amgylchfyd yn rhydd o effeithiau'r ffactorau wrth iddynt amrywio'n flynyddol a thymhorol.

Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod sector y amaethyddol yn parhau yn gadarn a llewyrchus, nid yn unig fel un'r prif ffynonellau incwm, ond hefyd fel ffactor i gynnal y boblogaeth wledig gynhennid, cadwraeth y tirwedd ac i sicrhau parhad hunaniaeth diwylliannol a ieithyddol ardal y Parc.

Mae danfon plant i feithrinfeydd yn debyg i gadw cywion mewn ffatrioedd amaethyddol...

Yn gyffredinol mae systemau amaethyddol yn datblygu o dan ddylanwadau cyson hinsawdd, tirwedd a phriddoedd ond mae'r ffactorau hyn hefyd yn dylanwadu ar batrymau amaethu o fewn blynyddoedd a thymhorau.

Mae'r ffaith fod y tir yn ymyloll hefyd yn golygu mai cyfyng iawn fydd unrhyw gyfle i arall gyfeirio i gynhyrchion "non-surplus", fyddai'n angenrheidiol dan yr adolygiad ar y Polisi Amaethyddol Cyffredinol sydd yn effeithio ar eidion, defaid a llefrith.

Erbyn heddiw, mae'r darlun wedi llonyddu rhywfaint ac mae lefel gwaith amaethyddol yn gyson yn yr ardal.

Roedd mynd i'r Coleg Amaethyddol, un d'wrnod yr wsos, wedi gadael ei ôl ar Malcym.

Mewn marchnata y mae'r gyfundrefn amaethyddol wedi newid, a rhywfodd neu'i gilydd deuir i'r casgliad nad oes dim o waith llaw dyn yn byw nac yn aros byth; mae'n tyfu ar ôl ei eni nes cyrraedd ei uchafbwynt as yna mae'n gwywo a marw.

Gwasanaethodd ar y pwyllgorau canlynol, Ffyrdd, Iechyd, Lles, Adeiladau, Cyllid ac Addysg Amaethyddol, ac yn enwedig y Pwyllgor Addysg a oedd yn delio â materion lle'r oedd Edwin yn neilltuol gymwys i roi arweiniad.

Y mae cwningod yn ail da i'r llygod mawr yn eu gallu i epilio'n gyflym ac y mae'r golled a achosant i gynnyrch amaethyddol yn arswydus.

Enghraifft syml o hyn yw catalogau sioeau amaethyddol, sy'n adlewyrchu newidiadau ym myd amaeth gyda chatalogau cynnar a dosbarthiadau niferus yn orlawn o geffylau gwedd tra bod catalogau diweddarach yn cynnwys mwy o ddosbarthiadau ar gyfer mnerlod bychain i'r plant.

Hwy sydd wedi newid ein bywydau beunyddiol trwy ddefnyddio cynnyrch naturiol a chynnyrch gwneud i greu moddion newydd, defnyddiau amaethyddol a dilladau newydd.

Sioe Amaethyddol Cymru yn symud i'r maes sefydlog yn Llanelwedd.

Ar y llaw arall cytunir mai gwerin amaethyddol fu'n trigiannu yma ers cantoedd, a honno yn ymdroi yn niwydiant hynaf dynolryw, ac yn gofyn am gynhorthwy crefft a dawn.

Bydd hefyd yn taro ei law front ar ein haelwydydd amaethyddol, ac yn fwy na dim, yn taro unigedd troeon ein harddegau.

Enillodd Taro Naw y wobr am y rhaglen newyddion a materion cyfoes orau yn yr Wyl Ffilm a Theledu Celtaidd gydag adroddiad teimladwy ar deulu o fferm fynydd Gymreig a orfodwyd i ymfudo i Ganada oherwydd yr argyfwng amaethyddol yng Nghymru.

Cais llawn - adeilad amaethyddol gyda thanc slyri odditano - dim gwrthwynebiad.