Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amau

amau

Bellach, roeddwn yn dechrau amau y milwr yn stesion Corwen y diwrnod cynt a ddywedodd fod digon o gantîns ar gael; soniodd o ddim am y chwarter milltir o giw a welech ymhob lle felly.

Bu Henry Jones fyw'r rhan fywaf o'i oes trwy gyfrwng y Saesneg, ond ni wybu ef erioed amau ei Gymreigrwydd nac amau beth oedd ystyr bod yn Gymro.

Rhoddasai ei ddiffuantrwydd a'i allu meddyliol iddo awdurdod yn yr eglwys na feiddiai ac na ddymunai neb ei amau na'i aflonyddu.

Ar hyd y blynyddoedd, fe fu sawl sgandal o'r fath - Beddau'r Proffwydi gan WJ Gruffydd yn amau moesoldeb ambell flaenor; y gerdd Atgof gan Prosser Rhys yn awgrymu fod perthynas hoyw yn bosib yn Gymraeg ac awdur Saesneg fel Caradoc Evans yn ennyn melltith am weddill ei oes oherwydd ei bortread di-enaid o'r gymdeithas wledig, grefyddol, Gymraeg.

Yn aml fe gafodd y Chwaer Jean ei dihuno gan filwyr arfog ganol nos a'i chroesholi am eu bod nhw'n amau ei bod hi a'i chyd-weithwyr yn rhoi lloches i'r FMLN.

Rwy'n amau a oes perygl i fywyd o gwbl pan yw'r dynion hyn ar y llongau."

Y parthau hynny a roes Daniel Owen i ni wedi'r cyfan ac ni raid amau ar ôl darllen eu gwaith fod yr Ifansiaid, ganrif wedi ei farw, yn dal mewn cyswllt â'r Gymraeg a glywsai ef yn feunyddiol.

Pam na fasech chi wedi gofyn i mi ddod gyda chi?" "Roeddwn i'n amau eich bod chi'n cysgu..." "O, siŵr, fe fydda i'n syrthio i drymgwsg cyn gynted ag y bydd 'y 'mhen i ar gobennydd.

Cymysgedd yr ydw i'n dechra amau y byddai o ddirfawr les i Gruff acw wrthi - achos mai fo ydy'r unig ddyn yng Nghymru, synnwn i ddim, sy'n cwyno ei fod o wedi blino gormod a bod ganddo fo gur yn 'i ben ar yr un pryd.

Nid oes lle i amau nad oedd yna wir ymdrech i wneud cyfrifiad addysgol.

Cyn codi'r llyfr roeddwn i'n amau y buasai y fersiwn Saesneg yn tynnu fy sylw ac yn amharu ar fy mwynhad.

Er hynny, nid oes lle i amau nad yw Eglwys Llanddewi Brefi'n hynafol.

Nid oes lle i amau na fu'r Dirprwywyr yn dra-diwyd wrth gasglu manylion perthnasol.

Rydw i'n amau a fyddai Sais wedi dilyn yr un trywydd.

Er iddi, meddai, ei gynghori i fynd i'r angladd yn groes i'w ewyllys, rhag i neb ei amau, ac addo dal dano, aethai at yr Uwch-arolygydd Prothero yn unswydd i'w fradychu.

Roedd wedi amau fod rhywbeth ar droed a hithau wedi bod yn ei osgoi'n ddiweddar.

Os wyt ti'n fodlon, fe ddof i draw yr wythnos nesaf, gan ofalu gwneud hynny'n ddi-lol wrth gwrs, rhag iddyn nhw amau dim.

Rhaid amau a fydd yr Awdurdod newydd yn medru bod yn "brif awdurdod yng Nghymru% ar addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer y fath ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig.

Wedi pasio drwy'r mannau angenrheidiol heb gael fy holi neu fy amau - mae edrych yn betrusgar mewn maes awyr yn wendid - dyma fi'n setlo ar yr awyren.

Cyhoeddwyd ugeiniau ohonynt yn y papurau newydd dros y blynyddoedd, ac mae lle i amau fod ambell stori ddi-sail wedi cael ei darlledu hefyd.

Ond bocsiwr oedd Joe Erskine, a fyddai neb a ŵyr rywbeth am y bysnes yn debyg o amau nad y 'Jolting Joe' oedd y bocsiwr pwysau trwm medrusaf a fu yn y gwledydd 'ma erioed.

Er bod dau o feirdd Arfon, sef Dafydd Ddu Eryri a Hywel o Eryri, wedi'u gwahodd i'r orsedd gyntaf, ni ddaethant ar ei chyfyl am eu bod yn amau honiadau Iolo Morganwg ynglŷn â hynafiaeth y mudiad.

Fe sieryd hynny'n huotlach na'r un perorasiwn, canys bydd lilith yn dechrau amau erbyn hyn eich bod yn ffermwr profiadol iawn.

Pawb yn ei gofio, pawb yn siarad yn angharedig amdano oherwydd ei wendid, am ei fod e'n amau atgyfodiad yr Iesu, ei Fishtir.

Ymateb Aled Davies, cyd-gadeirydd y Gymdeithas oedd amau cymhelliad yr ymateb: 'Byddwn yn cwestiynu pa mor debygol yw hi y byddai'r tri arweinydd yma wedi dod at ei gilydd o'u gwirfodd i greu ymateb unedig.

Mae Cymro arall yn Amsterdam ar y pryd, David Davies, darlithydd cerdd priod, canol oed, sy'n dechrau amau ei rywioldeb.

Pob parch i bawb sy'n cael Cerddi'r Gaeaf at eu chwaeth (ac 'rwyf innau yn eu mysg) ond yr un parch i'r rhai y mae eu barn yn amau'r clod a roir i 'Awdl yr Haf' ('rwyf ymysg y rheini hefyd).

Yn hardd a galluog ond heb un ffrind a allai fod wedi trafferthu digon i gyflawni'r ffafr syml o'i chadw'n fyw..." "Paid." "...All siarad o nawr hyd Ddydd y Farn newid dim ar y ffaith mod i wedi'i lladd hi, cyn sicred a phe bawn i wedi suddo cyllell ynddi a throi'n llafn yn y clwyf." "Roeddwn i'n amau.

Yr wyf yn amau nad oedd gan ein gwron fawr o amynedd chwaith at ei gyfoeswyr ymhlith y beirdd yr oedd cynffon y weledigaeth hon yn chwipio'u dychymyg, sef y rhai megis Saunders Lewis a Gwenallt a fynnai gysylltu'r Gymru oedd ohoni yn y tridegau gyda rhyw Gymru reiol ufudd-Gristionogol mewn gorffennol di-ffaith.

Fel ym mhob maes arall, mae gwaed newydd yn gwbl hanfodol i barhad y sector annibynnol, ac mae'n briodol iawn fod rhywrai o bryd i'w gilydd yn herio hen werthoedd ac yn amau dilysrwydd hen safonau.

Yn wir, rwy'n amau fy mod i fy hun yn un ohonyn nhw.

Ond llawer mwy difrifol na'r ddeubeth hyn oedd fod Evan Meredith yn amau fod i Forgan ran mewn dwyn achos o odineb yn ei erbyn yn llys yr esgob yn Llanelwy, er bod Morgan yn gwadu hynny; a hefyd y ffaith ddiymwad fod Morgan wedi helpu i sicrhay llaw aeres Maesmochnant, un o stadau cyfoethocaf y gymdogaeth, ar gyfer Robert Wynne, mab ei noddwr, Maurice Wynn o Wedir, er bod Edward Morris hefyd a'i lygad arni.

Pan grybwyllid enw Miss Lloyd mewn sgwrs dechreuai ei gwefus isaf grynu, ac rwy'n amau ai hiraeth am ei ffrind ddiweddar oedd y rheswm.

Caiff ei yrru gan ei ddicter diorffwys i'w sarhau'n gyson, amau cymhelliad pob gair a lefara a'i thrin yn is na baw sawdl, er mwyn gosod prawf ar ei ffyddlondeb iddo ac er mwyn dangos iddi nad yw ef wedi colli dim o'i allu fel marchog ymladdgar llwyddiannus.

Roedden ni wedi dechrau amau Twm Dafis, ydych chi'n gweld, rhwng y rhybudd gwirion roddodd o inni gadw o'r ynys, a'r bechgyn yn ei weld yn dod o gyfeiriad y traeth ben bore, ac Olwen wedyn yn ei weld yn mynd a'r sachaid bwyd o un o gytiau Cri'r Wylan .

Roedd plant yn gallu ei ddeall, ei fwynhau a'i werthfawrogi pan dueddai ambell adolygydd, efallai, i amau hynny nawr ac yn y man.

Fe allech chi gredu bod y Prif Weinidog yn ymgeisydd! Dim ond ynfytyn fyddai'n amau ased mor gref yw'r Prif Weinidog i'w blaid.

Does neb, am wn i, wedi amau'i gamp fel nofelydd plant, ond am y nofelydd oedolion - awdur Gŵr Pen y Bryn a Gyda'r Glannau - cymysg iawn fu'r farn.

Beth bynnag, roedden ni'n amau ers tro mai Eds oedd y tu ai/ i'r nifer lladradau fu'n digwydd o gwmpas Caer a gogledd Cymru yn ddiweddar, ond roedden ni'n methu'n lan a dod o hyd i'w guddfan .

Roedd rhai o'r hen bobl yn dechrau amau oedd hi werth byw mwyach.

Yn wir mae eisoes yn bell ar hyd y ffordd fel fy mod yn amau weithiau faint o actio sydd raid iddo ei wneud, onibai am gofio'r sgript.

Un o drychinebau'r sefyllfa bresennol yw bod y ddwy garfan hyn, er yn coleddu'r un nod, yn mynd i amau cymhellion a dulliau ei gilydd, a bod hynny yn ei dro yn esgor ar elfen o anoddefgarwch yn agwedd y naill at y llall.

Serch hynny, rwyn amau na fydd Caerdydd, Wrecsam nag Abertawe yn chwarae gemau cynghrair y penwythnos yna.

a gâf awgrymu ichwi y gellir amau'n gryf ddilysrwydd egwyddor tebyg i'r un yr ydych chwi sydd o blaid rhyfel amddiffynnol yn sefyll wrthi, ac na ellir ei gweithredu heb ei bod yn arwain o raid, fel canlyniad i hynny ac mor anochel â ffawd, i holl gamwedd ac erchylltra yr holl drefn ?

Yn wir, yr wyf yn amau y medrech gael unrhyw un i actio mor naturiol a doniol a'r wraig honno a gwynai fod ei gwrcath clwyfus yn anghofio ei fod yn hen, ac nad oedd mwyach yn abl i gwffio am y fraint o gael bod yn dad!

Nid wyf yn amau na chafodd Waldo'r math hwn o brofiad, a'i gael "in the silence of the night and in rare lonley moments", oblegid mae ganddo aml gyfeiriad at y ser yn rhwyllau yn llen y nos, ond gellir mentro dweud fod ei brofiad ef yn fwy cymhleth, yn fwy angerddol o lawer nag eiddo HG Wells.

Dechreuodd Merêd amau ei allu carwriaethol.

Dim ond dechrau Tachwedd, ar ôl derbyn llythyr gan y cyfieithydd, y cafodd wybod pam - roedd yr awdurdodau yn ei amau o fod yn ysbi%wr Prydeinig, ac am gyhuddo'r cyfieithydd o crimes against the state.

Ond roedd rhaid imi geisio ennill eich ymddiriedaeth yn araf deg, achos roeddwn i'n amau eich bod yn gwybod rhywbeth." "Sut hynny?" gofynnodd Marged.

Dichon hefyd mai ef oedd y 'William, abad Margam,' y dywed Thomas Wilkins iddo weld peth o hen hanes Morgannwg 'yn warrantedig' o dan ei law' o leiaf, nid oes amau ei ddiddordebau llenyddol.

Mae'r Uchel Lys ym Mhortiwgal wedi caniatau cais Ffrainc i estraddodi dyn sy'n cael ei amau o lofruddio myfyrwraig o Brydain.

Parry-Williams) y mae lle i amau na ddiflannodd y lilith gyda'r Dilyw.

Nid wyf yn amau nad yw'r mwyafrif ohonynt hwy wedi ei ddarllen.

Efallai fod rhyw gymaint o ddrwgdeimlad eisoes rhwng Evan Meredith a Morgan, gan fod ail ŵr Catrin, Oliver Thomas, yn frawd i chwaer-yng- nghyfraith Meredith, Seina wraig Morris Meredith o'r Lloran Uchaf yn Llansilin, a bod y teulu yn amau ei bod hi wedi ei briodi yn ei henaint er mwyn ei arian; hefyd yr oedd nai Evan Meredith, Edward Morris, wedi chwenychu ficeriaeth Llanrhaeadr ar ôl Oliver Thomas, er mai at y gyfraith fel bywoliaeth y trodd yntau'n ddiweddarach.

Fel llawer o'r straeon gwerin cyfoes, mae lle i amau mai stori o America ydi hi'n wreiddiol - er bod y sawl sy'n ei hadrodd yn taeru'r du yn wyn i'r hyn a ganlyn "ddigwydd i ffrind"...

Fel Sosialydd ar ddechrau Yn ôl i Leifior mae'n dal i amau bodolaeth Duw (i Gareth Evans mae'n Farcsydd, ac i Karl yn Gomiwnydd).

Efallai na ddylid amau'r posibilrwydd iddo fod yn rhyw fath o ddisgybl gynorthwywr i'r Esgob cyn mynd i Rydychen, ond edau go wan i ddal gafael ynddi fyddai damcaniaeth felly.

Nid oedd yno neb i amau dilysrwydd yr wybodaeth a roddwyd gerbron na chywirdeb y ffeithiau.

Cofiwch, fydda i ddim yn gwneud hyn ond yn nhywyllwch nos - rhag ofn i'r cymdogion amau mod i'n dechrau drysu!

Er iddo gael ei sicrhau nad oedd hynny'n bosibl mae'n amlwg ei fod yn amau mai wedi cael ei ddwyn yr oedd yr allwedd ac mai John y mab oedd y troseddwr.

Am gyfnod, mynnodd eu bod yn gwisgo sgertiau byr, a chyfeiriai atynt fel 'y lleianod chwyldroadol' - er bod lle i amau eu purdeb.

Am y dywaid ynddo, 'Nad ydyw Crist i'w addoli fel Cyfryngwr'." Serch hynny, y mae achos i amau fod y statws cymdeithasol a roddwyd i'r offeiriad, fel gŵr dysgedig, ac felly fel bonheddwr, yn corddi enaid Hugh Hughes gymaint ag oedd cwestiynau diwinyddol o'r math.

Arweinir ni i amau a yw'r nofelydd o ddifri am ­ Harri fod yn offeryn propaganda o blaid y gymdeithas ddi-ddosbarth.

Ond doedd dim ots ganddo yn y bôn sut gi a gâi, er y byddai'n well ganddo beidio â chael chihuahua gan ei fod o'n amau ai ci go iawn oedd hwnnw, ynteu lygoden o fath arbennig.

Cafwyd lle i amau ar adegau fod rhywbeth ar goll, un ai o gynnwys bwletin neu ynteu o grebwyll dehonglydd.

Efallai y byddai'n amau fy un i wedi gweld lle roeddem yn bwriadu mynd.

Ond y mae'n deg amau'r gosodiad hwn, oherwydd y gwir plaen yw bod llawer o Saeson sy'n cychwyn yn ein hysgolion yn adran y babanod yn dila eu Cymraeg yn un ar ddeg oed.

Mae'n iawn i amau eu nai%frwydd honedig.

Mae rhywun yn amau, yn awr, a fu inni werthfawrogi ar y pryd wir hyd a lled ei gelfyddyd oherwydd ein hanfodlonrwydd cyffredinol ar y pryd gyda phrinder a lleoliad oriau teledu Cymraeg a'r diffyg amrywiaeth.

A dwi'n amau dim bod coelio hynny yn beryclach na chyfarfod DML ar noson dywyll wrth weiddi nad oes angen Cymdeithas yr Iaith bellach.

yr oedd robert griffith yn hollol gywir yn cyfeirio at y ffaith fod david hughes wedi diflannu'n llwyr o gylchoedd cerdd dant, ond serch hynny mae aml i gyfeiriad yn ei farwnadau i'w ddawn fel telynor yn y gymdeithas o wyddonwyr ac arloeswyr peiriannegol yr oedd yn aelod ohoni yn llundain, ac yn wir mae lle i amau a fyddai ei ddyfais bwysig gyntaf wedi gweld golau dydd oni am ei allu fel cerddor.

'Roeddwn i'n amau y bore yma nad oeddet ti ar berwyl da, llanc.'

Gellid amau bod y bennod hon eto'n enghraifft o allu'r prif weithredwr i ddefnyddio cynghorwyr Sir Gâr.

Os oes lle i amau doethineb barn Gruffydd wrth ehangu maes trafod Y Llenor, nid felly cywirdeb ei reddf.

"O'i gymharu â rhai o'r symiau ar y rhestr cyfalaf, dyma swm bitw, bitw iawn," meddai'r Cung Huws, a ychwanegodd: "Dwi'n amau ers tro bod 'na gynllun gan y Swyddfa Gymreig, a gan Gwynedd hefyd, i sianelu arian mawr i ganolfan gwleidyddol poblogaidd sy'n cael eu gweld -- a hynny ar draul yr ardaloedd diwydiannol traddodiadol, lle byddai'r arian yn gwneud mwy o les.

Yr oedd hynny yn anodd - bod yn gyfeillgar ai chadw hyd braich yr un pryd rhag iddi amau.

"Roedd e yma ddoe..." Mae e'n troi i edrych arnat a'i lygaid yn dy amau.

Daeth yr alwad, a chredais mai dyna arweiniad cyfrin Rhagluniaeth; ac nid oes gennyf le i amau tiriondeb ei llaw na diddosrwydd ei haden.

Dyn cyfrwys oedd Vatilan, fel y dichon ichi amau eisoes, a dyn drwg iawn.

Fynna fo ddim ond i mi brynu pacad, ac mi fuo raid i mi setlo am hynny, er fy mod i'n amau'u bod nhw'n rhy fawr i fy mhib i.

Ni ellid amau dilysrwydd ei ddisgrifiadau o amgylchiadau byw y werin, gan fod arolygwyr eraill yn eu cadarnhau: yn wir, fel y cawn weld, byddai'r adroddiadau eraill yn dyfnhau'r argraff fod y bobl yn gwbl amddifad o gyfleusterau cymdeithas.

Tra oedd y disgyblion yn dyfalu beth i'w wneud, ac yn amau doethineb y bwriad i ddychwelyd ar y daith beryglus i Fethania peryglus am fod yr awdurdodau yn ceisio dal yr Iesu a'i ladd Tomos oedd yr un, parod i fynd gyda'r Iesu bob cam o'r daith, parod i wynebu'r canlyniadau.

Rwy'n amau bod a wnelon nhw â chyflwr dy dad-cu hefyd.

(yr oedd Sieffre o Fynwy wedi lleoli chwedl Brad y Cyllyll Hirion heb fod nepell o Gôr y Cewri) sydd yn awgrymu bod hynafiaethwyr y cyfnod yn dechrau amau ac yn gofyn am brawf bod y brad wedi digwydd.

Thema ganolog: Adwaith ac Ad-drefnu: y Rhyfel Mawr a'r adwaith iddo yng Nghymru; a'r modd y bu'n rhaid i Gymru aildrefnu yn fewnol ar ôl cael ei sugno i mewn i gyflafan y pwerau mawrion; y modd y dechreuwyd amau a chwalu'r hen safonau a fodolai cyn y Rhyfel, a'r Eisteddfod, yn arbennig, yn wynebu cyfnod o argyfwng gyda rhai yn proffwydo ei thranc.

Nid wyf yn amau dim na chawn ni lawer storm; gorau yn y byd, fe'n gwnânt yn well morwyr.

Rydw i, hyd yn oed, yn dechrau amau ai cael eu bwydo ynteu eu saethu yw tynged y trueiniaid.

Carwn gredu hynny, ond rwy'n ei amau, oherwydd gall y nawddogaeth, a'r gwobrwyon lawer sydd at wasanaeth ei Gweinidogion arwain at ddibyniaeth, os nad gwaeth ar ran ein gwŷr a gwragedd cyhoeddus.

Yn ogystal â bod yn gysylltiedig â marwolaeth Isabel Peake, mae o hefyd yn cael ei amau o lofruddio dwy wraig arall - gan gynnwys ei gariad.

Dechreuodd o leiaf rhai o'n harweinyddion amau ein syniadau rheibus gorllewinol - prin iawn yw'r rhai sy'n ymfalchi%o bod ein cyndadau (a Chymry yn eu plith), er enghraifft, wedi cwbwl ddileu llwythau a gwareiddiadau eraill yn Tasmania a De a Gogledd America.

Dwi'n amau inni ddod yn hynod o agos at y pwynt hwnnw fwy nag unwaith yr wythnos ddiwethaf.

Os clywaf ar y radio fod heddwch yn teyrnasu yng Ngogledd Iwerddon, y Dwyrain Canol a mannau eraill yn y byd, fe fydda' i fel Tomos yn amau'r ffaith, er mai dyna fy ngobaith a'm dymuniad.

Doedd neb o gwmpas Gwalchmai 'radeg honno'n amau'r hanes a ganlyn.Roedd Rondol a Begw, ei wraig, yn byw yng Ngwalchmai'r un adeg ag yr oedd fy nhaid a nain, William a Sydna Roberts, yn byw ym Mhendre yn ur un ardal.

Oes mae llai o amau nag a fu.

Hynny, a'r ofn o fod y tu allan i gylch y chwerthin ac amau, yn f'unigrwydd, mai fi a'i symbylodd.

Byddaf yn amau weithiau mai gwŷr a lesteirwyd gan eu rhieni rhag mynd yn feirdd yw'r estate agents un ac oll.

A dweud y gwir, doeddwn i ddim wedi amau o gwbl fyddai o'n dod.