Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

amcan

amcan

Un sylw ar gyfer yr academyddion cyn symud ymlaen - y mae pwysigrwydd neilltuol i lên gwerin cyfoes am ei fod yn cael ei astudio yng nghyd-destun y gymdeithas a'i creodd, ac felly yn ei gwneud hi'n haws i ddarganfod amcan neu bwrpas y stori neu'r gred - a thrwy hynny ddeall rhyw gymaint am ein cymdeithas a ni'n hunain ac am rôl llên gwerin drwy'r oesoedd.

Fy amcan i yn yr ysgrif hon yw mynd gam ymhellach,a gosod gweithiau Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr, nid er mwyn cyffredinoli ynghylch hanfodion neu ragoriaethau y naill na'r llall, ond gan obeithio y daw natur arbennig rhai gweithiau unigol yn amlycach o'r cyferbynnu.

Nid crynhoi nac adolygu ymdriniaeth JR yw f'amcan yma ond ceisio chwanegu rhywfaint bach ati.

Gad i ni ofyn am dy gymorth di, gad i ni ymdawelu gyda thi, a rho bwrpas ac amcan priodol i'n bodolaeth ni o fewn dy deyrnas.

Amcan y Blaid Genedlaethol yw - nid cadw'r Gymraeg fel ffetish yng Nghymru - ond ci gwneud hi'n bosib i bob Cymro fyw bywyd llawn, gwaraidd, dedwydd, cain.

"Hoff gennyf yw ateb y morwr hwnnw o Wlad yr Haf pan ofynnodd Coleridge iddo paham yr oedd wedi mentro ei fywyd i achub dyn na welsai erioed ac na wyddai enw na dim amdano : "Mae amcan gennym tuag at ein gilydd.' Meithrin yr amcan honno yw galwedigaeth greadigol dyn, ac wrth geisio gwneud byd teilwng o frawdoliaeth daw ef ei hun yn deilwng o'i fodolaeth.'

Prif amcan y llys brenhinol a'r llys lleol ydoedd cyfrannu at gynhaliaeth eraill yn ysbrydol yn ogystal â materol.

Amcan y cwrdd oedd ystyried cynllun arall a alluogai Lerpwl i gael y dwr heb foddi cartrefi.

Pregethai'n aml ar y Suliau, a'i unig amcan oedd "helpu allan" eglwysi o bob enwad.

Y mae Ellis Wynne yn feistr ar holl ystrywiau dychan, ond tra mae Dante yn hamddenol ddwys yn tynnu llun pob amgylchiad yn drwyadl a manwl, a'i drwytho â chydymdeimlad sy'n arswydo dyn gan ei ddifrifoldeb, sboncio'n heini o lun i lun cartwnaidd y mae Ellis Wynne a hynny mor ddisglair ddigri ei fynegiant nes lladd pob ofnadwyaeth gan y pleser o ddarllen; ac yn y proses, lladd ei amcan hefyd, petai waeth am hynny.

Amcan S4C yw dangos rhychwant eang o raglenni.

Y prif amcan yw ail-ddysgu pawb sut i fwyta'n gywir'.

Dafydd Wigley oedd y cyntaf i darfu rhywfaint, diolch byth, ar y tangnefedd gyda chais ymosodol am ddatganiad ar y sefyllfa ddiweddaraf i sicrhau arian cyfatebol ar gyfer cronfeydd Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd.

Nid wyf yn dweud fod hyn yn well nac yn waeth na dulliau'r llyfrau Saesneg; yn wir, credaf y gall y ddau fod yn dra effeithiol; nodi'r gwahaniaeth yw fy unig amcan yma.

Mae sgil-effaith buddsoddiad cyhoeddus yn S4C i'w weld yn y ffordd mae partneriaethau wedi datblygu ac wrth edrych i'r dyfodol bydd Huw Jones yn sôocirc;n yn benodol am bartneriaethau sydd eisoes wedi eu sefydlu neu a ddylai gael eu datblygu yng nghyd-destun cynlluniau Amcan 1.

Ceisia'r Oriel gyflawni sawl amcan.

Sôn am y drafodaeth rhwng Duw a'r enaid y mae Cradoc a'i amcan yw dangos cryfder aruthrol y rhwymyn cariad rhwng yr enaid a Duw.

Rhestrir 20 amcan: ar gyfer pob un, nodir beth fydd gorchwylion y Bwrdd yn y gwaith o'u cyflawni.

Amcan y frigâd fyddai ymladd dros annibyniaeth Iwerddon.

Nid amherthnasol yn y cyd-destun yma yw sôn am lyfr T Hudson- Williams, Y Groegiaid Gynt, er nad yw'r awdur yn honni fod y gyfrol honno yn fwy na llyfr rhagarweiniol, a ysgrifennwyd gyda'r amcan o roi rhyw syniad am gymeriad a diwylliant y Groegiaid i ddarllenwyr heb unrhyw gefndir o addysg glasurol.

Gwledda yw bwriad yr aderyn, ond gwasgaru hadau yn y modd rhataf posibl yw amcan y goeden.

Methodoleg Prif amcan ein harolwg oedd ceisio dod o hyd i sampl gynrychioladol o ddarllenwyr Cymraeg, a thrwy ddadansoddi ymateb y sampl honno, ddod i gasgliadau ynglyn â'u harferion darllen cy;chgronau, eu barn am y ddarpariaeth bresennol, ynghyd â'u barn ar beth hoffent weld yn cael ei gyhoeddi yn y dyfodol.

Amcan gwleidyddiaeth yw ymgeleddu bywyd dyn.

Doedd grantiau ddim yn cael eu rhoi am flwyddyn gyfan ar y tro; roedd angen cyflwyno cynlluniau busness manwl a'u trafod ac roedd y Bwrdd yn canolbwyntio ar fudiadau gyda'r prif amcan o hybu'r iaith.

Fe geir y teimlad mai'r amcan yw arddangos tebygrwydd y gorffennol i heddiw, er gwaetha'r gwahaniaethau arwyenbol, a hynny yn y pen draw er mwyn cyfleu'r syniad mai'r un yn ei hanfod yw'r natur ddynol ymhob cyfnod.

Edrychaf ymlaen at glywed beth fydd ei chyngor i'w mam ynglyn ag Arian Amcan Un ac yn y blaen.

Amcan gweddill y papur hwn yw ystyried yn fwy manwl, yn nghyd- destun gwasanaethau addysgol, pa unigolion a sefydliadau sy'n cyflawni gwaith o natur cyhoeddus a pha ystyriaethau ddylai lywio ffurf a chynnwys y cynlluniau iaith a ddarperir ganddynt.

Cario'r genadwri i'r cyhoedd anghrediniol oedd yr amcan.

Nod ac amcan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth gyhoeddi'r datganiad hwn yw gosod ein safbwynt yn glir ar egwyddorion sylfaenol ein prif ymgyrch, sef Deddf Iaith Newydd i'r Ganrif Newydd.

Yr amcan yw sicrhau bod talent a syniadau yn ffynnu ochr yn ochr â'r sgiliau rheoli sy'n galluogi talent greadigol i weithio mewn modd sy'n effeithiol o ran amser, arian a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Ond nid dyna'n nod - nid swydd grŵp ymwthiol yw ein gwir amcan sylfaenol - ond bod yn blaid benderfynol a gwydn.

Amcan y mudiad yw dangos sut y mae cŵn yn gweithredu fel cyfeillion a chynorthwywyr dynion.

Nid amcan y llith hon yw canu eu clodydd na disgrifio eu hamrywiol gyfraniadau i fywyd Cymru.

Dylai hynny fod yn I amcan i bob ysgol yng Nghymru yn achos y Gymraeg hefyd ac fe ddylai'r Llywodraeth ddarparu'n briodol i'w galluogi i wneud hynny.

O hynny ymlaen unig amcan etholiad yw ennill, a sicrhau grym i'r mudiad Cymreig, a'r gwir gymhwyster i'n hymgeiswyr oedd yr ysfa am rym, a'r penderfyniad i gael trefnu pethau yng Nghymru.

Amcan ymyriant llywodraethol mewn sefyllfa o'r fath, fyddai ceisio lleihau osgled y toniannau.

Hi oedd unig gwmpeini'r ddau yn eu canol oed, pwrpas eu llafur, amcan eu byw.

Rhaid bod y Wehrmacht mewn cyflwr gresynus y dyddiau hyn heb amcan ble i droi.

Yng nghorff rhai o'r testunau hyn cynhwysid lluniau o rai o hanesion mawr y Beibl er mwyn i'r bobl edrych arnynt a'u dal yn eu cof; Ymhellach, paentiwyd llawer iawn o luniau o'r un fath ar furiau'r eglwysi ac ar wydr eu ffenestri gyda'r un amcan mewn golwg.

Ei amcan yw hybu'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn ei holl agweddau a chyd-gysylltu buddiannau awduron, cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr a llyfrgelloedd, ac hefyd i gynorthwyo a chefnogi awduron.

Yr amcan yw y bydd y cytundebau hyn yn cynorthwyo grwpiau o gam i gam drwy'r broses ddatblygu, ac y bydd yn fframwaith i sicrhau perthynas waith gydweithredol a chydradd rhwng y ddau barti.

Gwir bod ei daear hithau yn gyfarwydd â chael ei chreithio gan law dyn ond amcan y creithio hwnnw oedd hybu ffrwythlondeb.

Mi roedd 12,500 o'r swyddi hyn yn yr ardaloedd fydd yn derbyn arian Amcan Un o Ewrop, sef gorllewin Cymru a'r Cymoedd.

Fe fydd y chwaraewr anghyfarwydd yn aml - yn ceisio ymosod ar Frenin ei wrthwynebydd o'r cychwyn cyntaf ac yn barod i aberthu darnau bach a mawr i gyrraedd ei amcan.

Ai ei hunig amcan yw cefnogi ymgais yr IRA i roi terfyn ar oruchafiaeth Llundain yn Ulster trwy losgi, bomio a saethu?

Yr Ymgnawdoliad a'r Iawn: Er iddi hi darddu o ddadleuon athronyddol digon dyrys, amcan ymarferol oedd i gyffes yr eglwys ynghylch cyflawn ddyndod a llwyr dduwdod ei Harglwydd.

Er iddi gael ei chyhuddo o ladd ei phlentyn, mae'n amlwg mai darostyngiad yw amcan y penyd.

Yr amcan yn awr yw sylwi'n fanylach ar y gwahanol ffrydiau diwylliannol a gynrychiolir ganddynt.

Mae sgil-effaith buddsoddiad cyhoeddus yn S4C i'w weld yn y ffordd mae partneriaethau wedi datblygu ac wrth edrych i'r dyfodol bydd Huw Jones yn sôn yn benodol am bartneriaethau sydd eisoes wedi eu sefydlu neu a ddylai gael eu datblygu yng nghyd-destun cynlluniau Amcan 1.

CYFLWYNIAD I BROSESU GEIRIAU A DYLUNIO AR Y MAC Amcan y pecyn hwn yw rhoi cyflwyniad ichwi i brosesu geiriau a dylunio; bydd hyn yn eich galluogi i baratoi taflenni gwaith etc.

"Nid oes gennym amcan maint y nifer hyn, ond mi fydd cyn lleied a sy'n bosib."

O ran techneg dylwadodd yr Impresionistiaid a'r O^l-impresionistiaid gryn dipyn arno, ond gofalai bob amser fod y dylanwadau hynny'n gwasanaethu ei amcan arbennig ef o gyfleu ei ymateb personol i olygfa.

Mae o'n cydio yn Armin a Chalfin ac yn cerdded ar flaen ellyn rhyngddyn-nhw.' Dywedir rhywbeth tebyg am William Roberts: ''Does gan William Roberts ddim amcan am ddiwinyddiaeth gyfundrefnol a 'dydy o'n malio dim botwm corn am resymeg na chysondeb y Ffydd.

Tanlinellwyd y pwynt, ond mewn modd cymeradwyol, gan Ifor Williams yn ei 'Ragair': Os eich amcan yn prynu'r gyfrol hon oedd cael stori anturiaethus, 'o gyfnod y rhyfel degwm', a chwithau i ddal eich hanadl wrth ruthro drwy ei digwyddiadau cyffrous, ha wŷr, ewch yn ol i ffeirio Gŵr Pen y Bryn am gyfieithiad o chwedl Saesneg.

Amcan yr eglwys golegol oedd gwasanaethu holl anghenion crefyddol y bobl a bod yn ganolfan gweddi ac ympryd ac addoliad.

Yr oedd Miss Lloyd yn asiant, medden nhw, i ryw gwmni a elwid yn Copper Trust, a oedd a'r amcan o ail-agor y gwaith copr yn yr ardal.

Yr oedd y plethu hwn yn beth bwriadol ganddo; yn sicr ddigon, nid gwadu'r Gymraeg oedd ei amcan: Perthyn y mae Elfed i'r un ysgol o feddwl a Cheiriog yn hyn o beth.

Amcan: Sicrhau bod ymateb rhaglenni'r BBC i ddatganoli yn cael ei weithredu'n effeithiol, o fewn y fframwaith y cytunwyd arno gan Fwrdd y Llywodraethwyr.

Y tebyg yw mai ffugenw oedd y 'Thomas Mathew' hwn, ac mai ei amcan oedd celu'r ffaith mai eiddo Tyndale oedd Testament Newydd y Beibl hwn a'r rhannau o'r Hen nad oeddent wedi eu cymryd o Feibl Coverdale.